Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Golygyddol Glyn Penrhyn Jones I an ddaeth y newydd trist (Hydref 14, 1973) am ymadawiad sydyn ein cyfaill annwyl Glyn Penrhyn penderfynais roi heibio'r sylwadau Golygyddol oedd wedi'u paratoi i dalu teyrnged Bwrdd Golygyddol Y GWYDDONYDD a'm teyrnged personol i i un o'n cefnogwyr selocaf. Wrth golli Glyn Penrhyn mae Cymru wedi colli phenomenon ryfeddol iawn-bron na ddywedwn fod personoliaeth arbennig Glyn Penrhyn yn rhywbeth na allai flodeuo ond yng Nghymru. 'Roedd ei ddiddordebau yn amrywiol iawn, ond nodwedd pob cyfraniad o'i eiddo oedd meistrolaeth lwyr o'r hyn yr ymgymerai ag ef. 'Roedd i ddechrau yn feddyg o'r radd flaenaf. Wedi addysg ffurfiol yn ysgol Cefnfaes, Bethesda, ac yna Friars, Bangor, astudiodd feddygaeth ym Mhrifysgol Lerpwl, ac wedyn yn Llundain. Enillodd M.R.C.P. yn 1943 a'r flwyddyn ddilynol radd M.D. Arbenigodd i ddechrau yng nghlefydau'r frest, ac yn erbyn y dicáu y bu ei ymgyrch gyntaf. Ni fyddai am funud wedi honni mai ymladd dros chwarelwyr Arfon a choliars Dyffryn Maelor yr oedd yn ei wneud yn Ysbyty Llangwyfan pan oedd yno'n Ddirprwy Arolygydd Meddygol. Nid dyna ei ffordd. Byddai'r rhai nad oeddynt yn ei adnabod yn dda yn casglu mai gwamal oedd ei agwedd tuag at ei alwedigaeth, gan mor ysgafn y cyfeiriai at ei ddyletswyddau. Chwerthiniad iach, gwneud jôc o'r sefyllfa mwyaf difrifol a wnâi, ond 'roedd ei ymlyniad yn y gwaith yn frawychus ar adegau. Rhaid oedd gorchfygu pob anhawster i guro'r gelyn marwol. Yng nghyfnod Llangwyfan cyfathrachai lawer a thynnu cryn ysbrydoliaeth oddi wrth Hugh Morriston Davies oedd yn llafurio yn yr un maes ym Mhlas Llanbedr, ger Rhuthun. Ym marn Glyn Penrhyn, Mr. Morriston Davies oedd y ffisegwr mwyaf cyflawn y daeth i gysylltiad ag o. Ennill y frwydr ar y dicáu wnaeth y ddau gyda dyfodiad y cyffuriau antibiotig ac yn wir, o'r bron diflannodd maes ei arbenigaeth. Trodd wedyn at faes geriatreg, sef 'cadw hen bobl yn byw yn gyfforddus', fel y carai ddisgrifio'i swyddogaeth. Pan ddechreuodd yn y gwaith yma, yr arferiad oedd rhoi hen bobl oedd yn sâl yn eu gwelyau, gwneud yr hyn a ellid iddynt ar lefel arwynebol, ond nid eu trin fel rhai y gellid eu gwella. Mewn ugain mlynedd newidiodd y sefyllfa mor ddramatig â chyda chlefyd y dicáu. Daeth triniaeth lawfeddygol i'r henoed yn gyffredin; daeth y pwyslais ar eu cadw'n symud, er yn fethedig, ond yn bennaf daethpwyd i'w hystyried yn bersonau yn haeddu sylw meddygol o'r radd flaenaf gan fod modd eu gwella i fwynhau rhagorach bywyd. A dyna oedd pwyslais Glyn Penrhyn-gwerth bywyd yr unigolyn. Gofalodd am wasanaethau cymdeithasol yng Ngwynedd a fyddai'n sicrhau hyn i'r henoed. Ac yntau yn cael ei dorri lawr ym mlodau'i ddyddiau, mae'n ironig mai ef oedd yn gyfrifol am hwyrnos bywyd clyd a chyfforddus i filoedd-yn Gymry a Saeson. Yn aml gresynai at yr arferiad ymhlith Saeson o ymddeol i Wynedd ar ôl cael profiad arwynebol iawn o'r ardal mewn rhyw wythnos neu ddwy o wyliau yno. Yn rhy aml, byddai un o'r ddau yn marw, gan adael y llall ymhlith estroniaid. A hwythau yn falch ac wedi arfer gofalu am eu hunain, 'roeddent yn anfodlon iawn i ofyn am gymorth. Fel canlyniad 'roedd amgylchiadau amryw ohonynt yn enbyd. Rhain oedd aelodau o deulu mawr Glyn Penrhyn a ofalai amdanynt yn ofalus a charedig. Mi wn fod cryn alaru ar gannoedd o aelwydydd unig yng Ngwynedd heddiw. Yn rhyfedd iawn daeth cryn amheuaeth drosto'n aml ai peth cywir i'w wneud oedd cadw pobl }n fyw, a hwythau yn yr amgylchiadau anodd yma. Ond meddyg ydoedd yn anad dim arall, ac er r amheuon, gweithredu ei lw meddygol i gadw bywyd a wnaeth.