Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol: Cynhadledd 1973 Cynhaliwyd ail gynhadledd flynyddol y gym- deithas yn Neuadd Gregynog, Maldwyn, ar Ebrill 13, 14 a 15, 1973. Pwnc y trafodaethau eleni fu 'Ynni a Phwer'. Cafwyd gair o groeso i Regynog gan y Warden (Glyn Tegai Hughes) ac agorwyd y gynhadledd yn swyddogol gan Tom Ellis, A.S., a gyfeiriodd yn ei sylwadau at broblemau'r dyfodol o safbwynt dosbarthu ffynonellau ynni. Yn ystod y gynhadledd cyflwynwyd y papurau a ganlyn: 'Dysgu am Ynni a Phwer' (Gwen Aaron, Huw Gosling a John Griffiths, Ysgol Rhydfelen); 'Defnydd Ynni yn y Gorffennol' (D. Morgan Rees, Amgueddfa Genedlaethol Cymru); 'Adnoddau Naturiol ac Ynni' (Syr Goronwy Daniel, Aber- CYNHADLEDD FLYNYDDOL Y GYMDEITHAS WYDDONOL (YN YMGORFFORI ADRAN WYDDONOL URDD Y GRADDEDIGION) YNG NGHOLEG PRIFYSGOL CYMRU, ABERYSTWYTH Dylid anfon braslun o bapurau byrion (20 munud) a cheir manylion pellach gan ystwyth); 'Ynni Niwclear, Syniadau am y Dyfodol' (Ben Thomas, Athrofa'r Brifysgol, Caerdydd); 'Dulliau Cyfoes o Gynhyrchu Pwer' (D. J. Elwyn Evans, Middlesex); 'Mewnsugniad Egni gan Blan- higion' (Gareth Wyn Jones, Coleg y Brifysgol, Bangor); 'Effeithiau Niweidiol Ynni ar y Corff' (H. Ellis Edwards, Salford); 'Ffynonellau Ynni'r Dyfodol' (Tegid Wyn Jones, Coleg y Brifysgol, Llundain). Cadeiriwyd y gwahanol gyfarfodydd gan Dr. Eirwen Gwynn a'r Athro Glyn O. Phillips. Trefnwyd y gynhadledd ar ran Cangen Caerdydd gan Arthur Boyns a'i gynorthwyo gan Elwyn Hughes a Guto Roberts. R.E.H. BWYD A MAETH EBRILL 5-7 DR. J. O. WILLIAMS, ADRAN GEMEG, COLEG PRIFYSGOL CYMRU, ABERYSTWYTH.