Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dr. A. F. Trotman-Dickenson yn sgwrsio â Dr. R. Elwyn Hughes R.E.H.: Wel, Brifathro, a gawn ni gychwyn gyda'ch dyddiau ysgol? A oedd y syniad o yrfa wyddonol yn glir yn eich meddwl o'r cychwyn cyntaf? A.F.T.-D.: Mae'n debyg i mi fynd trwy dri chyfnod mewn gwirionedd. Hyd at fy mhenblwydd yn dair ar ddeg, mynd yn wyddonydd oedd fy mwriad. Wedyn, am ryw dair blynedd mi rois fy mryd ar fynd yn bensaer. Ond wedyn, a minnau erbyn hynny yn un ar bymtheg oed, mi ddaeth yr alwad wyddonol yn ôl. Yn un peth, daeth yn amlwg ei bod yn llawer haws ennill ysgoloriaeth ar gyfer astudio gwyddoniaeth nag ar gyfer pensaer- niaeth. Felly, newidiais fy meddwl unwaith eto a phenderfynu'n derfynol ar yrfa wyddonol. R.E.H.: A ydych wedi edifarhau gwneud hyi o gwbl ? 'Rwy'n gofyn y cwestiwn am fod dyn yn cael yr argraff weithiau y byddai gyrfa mewn masnach neu gyllideg wedi rhoi llawn cymaint o foddhad i chwi. A.F.T.-D.: Wel, 'rwy'n ddigon bodlon ar bethau. 'Rwy'n credu y byddwn wedi mwynhau bod yn bensaer-ond a fyddwn wedi dod yn un da ai peidio sy'n gwestiwn arall. Problemau cyllid? Wel, y mae pob sefyllfa reoli yn cynnwys elfennau cyllidol; ceir hyn ym mhob galwedigaeth. Ond 'doedd hi erioed yn fwriad gen i fynd yn economeg- ydd proffesiynol. R.E.H.: A oedd 'na unrhyw gefndir gwyddonol neu draddodiad meddygol yn eich teulu ? A.F.T.-D.: Nac oedd. Bu gen i ewythr oedd yn feddyg ond 'doedd 'na ddim dylanwad gwyddonol arbennig yno. R.E.H.: Daeth y syniad o yrfa mewn cemeg, felly, i'r amlwg yn ddi-gymell, mwy neu lai ? A.F.T.-D.: Do. Credaf hefyd mai un rheswm paham y dewisais gemeg oedd am i mi sylweddoli nad oeddwn yn ddigon o fathemategydd i fod yn ffisegydd llwyddiannus. R.E.H.: Daethoch i'r amlwg yn y byd gwyddonol yn gymharol ifanc. Cyhoeddwyd eich llyfr cyntaf pan oeddech yn 29 oed a chawsoch eich penodi yn athro cemeg yn Aberystwyth yn 34 oed. Mae hyn oll yn awgrymu cryn ymroddiad i'ch gwaith. A oedd raid i chwi aberthu rhai diddordebau neu duedd- iadau eraill er mwyn cyrraedd y nôd ? A.F.T.-D.: Wel, 'doeddwn i ddim yn rhyw ymwybodol iawn o hynny. Un o'm cyfnodau mwyaf cynhyrchiol oedd y ddwy flynedd y treuliais yng Nghanada gyda'r Cyngor Ymchwil Cenedl- aethol. Yn ystod y cyfnod hwnnw dysgais sgïo, chwaraeais gryn dipyn o sgwas a theithiais yn helaeth trwy'r Taleithiau Unedig. Dyma'r cyfnod hefyd pan gwblheais fy llyfr cyntaf. 'Roedd fy ngwraig yn yr Alban ar y pryd-felly nid drwg i gyd oedd cael digon o waith i'm dwylo R.E.H.: Beth oedd eich argraffiadau cyntaf o Aberystwyth ? A.F.T.-D.: Cyn symud i Aberystwyth bûm yn