Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Debygwn i AR WYDDONIAETH HEDDIW 0. E. Roberts Canrif o Wyddoniaeth yng Nghymru* GORFFEN dathlu canmlwyddiant Coleg Aberystwyth a wnawn ni mewn gwirionedd yn y gynhadledd hon ac oherwydd hynny dyna'r lle i minnau ddechrau. Gwelais i'r Athro Butcher o Gaeredin ddweud pethau pur drawiadol mewn darlith ym Mangor cyn belled yn ôl â 1891 wrth sôn am swyddogaeth prifysgoP.Rhagoriaeth prifysgol, meddai ef, 'yw na ddysgir ond ychydig os dim defnyddiol' yno. 'Dysgeidiaeth ddilês' a gyflwynir, gan mai pwrpas addysg yw 'dysgu pobl i feddwl'. 'Yn ôl pob tebyg', meddai, 'yr ydym yn fwy cynefin â rhyw un gyfran neu ddwy o bynciau ein hefrydiaeth nag ag eraill. Ond dylem wybod digon am yr holl ganghennau i ddeall eu cysylltiadau, a'u dwyn i berthynas organaidd â'i gilydd. Wedi hynny byddwn yn fwy parod i fyned rhagom at y gwyddorau eraill lle y mae'r ffyrdd i olrhain yn wahanol a'r dull o drin y pwnc yn newydd.' Dyna'r ddelfryd ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf. Yr un yw pwrpas hanfodol prifysgol o hyd, ond aeth swm gwybodaeth mor afresymol o fawr fel yr aeth yn amhosibl i'r mwyaf athrylithgar fedru cadw golwg mwyach ar yr holl faes ac y mae'n amlwg bod addysg prifysgol heddiw wedi ei gyfeirio at greu arbenigwyr ac nid yw universitas bellach yn brif amcan. 'Yr argraff sydd gen i', meddai Syr Goronwy Daniel yn ei ddarlith agoriadol fel prifathro Aberystwyth, 'yw bod y llif yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn rhedeg o blaid yr agwedd alwedigaethol yn hytrach na'r agwedd ryddfrydol at addysg.'2 Mae'r englyn ar ddalen ricriwtio ieuenctid i Goleg Bangor yn cadarnhau hyn. 'Ffit i'r oes yw'r ffatri hon,' meddai hwnnw.3 Ie, ffatri. 'Nid Byd Byd heb Wybodaeth' Er mai 'Nid Byd Byd heb Wybodaeth' yw arwyddair Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, cyfyng oedd yr hyn a gyfrennid yno ar y dechrau. Tri athro Rhannau o ddarlith i Adran Wyddonol y Gymdeithasfa Gymreig, Aberystwyth, Medi 15, 1973. SAFBWYNT PERSONOL cyntaf y Coleg oedd y Parchn. T. C. Edwards. H. N. Grimley a J. H. Abrahall. 'Os yn fychan o ran rhif dyna ddechreuad parchedig ddigon,' oedd ebychiad sych David Adams.4 Dysgai'r tri ryw bymtheg o bynciau rhyngddynt, gan gynnwys athroniaeth naturiol, cemeg a mathemateg. Felly. yr oedd rhyw frith-sylweddoliad mai 'Nid Byd Byd heb Wyddoniaeth' ychwaith. Ond, saith mlynedd yn ddiweddarach, yr oedd Humpidge yn gorfod dysgu botaneg, cemeg, daeareg, ffiseg a sŵoleg; a Fleure yn darlithio ar sŵoleg, botaneg a daeareg ym 1904, cyn cael Cadair Sŵoleg chwe blynedd yn ddiweddarach am nad oedd Cadair Daearyddiaeth ar ei gyfer hyd 1918. Yn araf dros y blynyddoedd yr ehangwyd y diddordebau gwyddonol yng ngholegau'r brifysgol. a hynny i'w briodoli fwyaf i ddiffyg arian yn y blynyddoedd a fu. Ond, wedi'r cwbl, ni ellid dweud bod Cymru ar ôl yr oes pan gofiwn ni na chodwyd labordai gwyddonol yn Rhydychen tan ar ôl 1850 ac mai pymtheng mlynedd yn ddiweddarach wedyn y codwyd y Clarendon. Ym 1891 ychwanegwyd Amaethyddiaeth fel pwnc yn Aberystwyth a daeth y Coleg yn ganolfan bwysig mewn gwahanol agweddau astudiaethau o'r fath, yn arbennig gyda sefydlu'r Fridfa Blanhigion. Dyma fenter Gymreig a ddaeth yn sefydliad cydwladol o bwys. Wedi cychwyn ym 1919 o dan gyfarwyddyd George Stapledon, a benodwyd yn Athro Botaneg Amaethyddol, gwnaed astudiaeth fanwl o borfeydd, meillion ac ydau. Cafwyd cymorth y Weinyddiaeth Amaeth, Bwrdd March- nata'r Ymerodraeth, cwmnïau hadau a haelioni'r Arglwydd Milford i gynhyrchu amgenach glaswellt a gweiriau a meillion a gwella'r tir pori, ar gyfcr anifeiliaid sydd i roi ymborth i ddynion yn ddiwedd- arach. Bu Cymry da ar y staff ar hyd y blynydd- oedd, fel yr Athrawon T. J. Jenkin, E. T. Joncs a P. T. Thomas. Noddwr hael arall i'r gwaith i gyflawnodd yr Athro Stapledon yn Sir Aberteí ì oedd Syr Julian Cahn a'r gwr a ddewisodd