Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Un arall a ysgrifennodd ar wyddoniaeth yn Gymraeg oedd yr Athro R. Alun Roberts, Athro Botaneg Amaethyddol ym Mangor, un a gyfran- nodd yn helaeth i gyfnodolion gwyddonol Saesneg ar ecoleg, ar borfeydd yn enwedig, ond gwr hefyd â holl ddoethinebau cefn gwlad Arfon yn rhan ohono a'i fynegiant ohonynt mewn Cymraeg farddonol yn hyfrydwch yn wir. Wele wr a oedd yn wir lenor o wyddonydd, fel y dengys ei ddwy gyfrol: Y Tir di Gynnyrch (1931) a Hafodydd Brithion (1947). Syniad o Fangor, eiddo Dr. Llewelyn Chambers, oedd cychwyn cyfnodolyn gwyddonol Cymraeg. Cytunodd Bwrdd Gwasg y Brifysgol i'w gyhoeddi a phenodwyd Dr. Glyn Phillips yn olygydd. Bellach, mae'r cylchgrawn, Y GWYDDONYDD, ar ei ddegfed blwyddyn ac wedi profi yn chwarterolyn o bwys, yn hardd ei wedd a safon uchel y cyfraniadau a'r darluniau y tu hwnt i ddim o'i fath heddiw yn Saesneg. Mae'n debyg mai wedi canfod bod modd ysgrifennu'n rhwydd ar wyddoniaeth yn Gymraeg y mentrodd rhai yn Aberystwyth sgwrsio ar y pync- iau hefyd. Sefydlwyd y Gymdeithas Wyddonol, i staff a myfyrwyr, dair blynedd yn ôl. Dilynwyd yr esiampl gan y colegau eraill a sefydlwyd Y Gym- deithas Wyddonol Genedlaethol ddwy flynedd yn ôl, 'i feithrin cysylltiad agosach rhwng gwyddon- wyr o Gymry, ymhob maes, ac hefyd rhwng y gwyddonydd a'r cyhoedd', fel y dywed y ddalen hysbysu, gan drafod 'a lledaenu gwybodaeth o wyddoniaeth trwy'r iaith Gymraeg a hyrwyddo EDUCATION IN A WELSH RURAL COUNTY 1870-1973 J. A. DAVIES Y mae'r awdur yn cofnodi'r dull y tyfodd ac y datblygodd Addysg yn Sir Drefaldwyn drwy gyfnodau anodd i fod yn wasanaeth eang fel ag y mae heddiw Tt. 278. Pris £ 3.00. GWASG PRIFYSGOL CYMRU MERTHYR HOUSE, JAMES STREET, CAERDYDD, datblygiad Gwyddoniaeth yng Nghymru'. Cynha iwyd dwy gynhadledd lwyddiannus yn barod. naill yn Aberystwyth y llynedd ar 'Ddifwyno r Amgylchfyd', a'r llall yng Ngregynog eleni í 'Ynni a Phŵer'. Nac anghofiwn ychwaith yr Ŵyl Wyddonol i gychwynnwyd gan fyfyrwyr Bangor, yr unig un o i bath ym Mhrydain, gyda darlithiau gan rai o wyddonwyr enwog Prydain a darlithiau Cymraeg yn eu mysg. A dyna gamp Mrs. Rhiannon Evans yn ennill gradd Ph.D. â thraethawd Cymraeg ar bwnc biocemegol. Trodd y rhod. Nid mor 'barchedig' mo athrawon y gwahanol golegau erbyn hyn. Dyma ddaearegwr yn Brifathro Aberystwyth; dau gemegwr-Bevan a Trotman-Dickenson-yng Nghaerdydd; Llewellyn- Jones y ffisegwr yn bennaeth Abertawe, a'r llawfeddyg Syr Charles Evans ym Mangor. Ofnaf bod yma broblem i'r Comisiwn Monopoli. CYFEIRIADAU 1 Cymru, 1, 68 (1891). 2 Y Gwyddonydd, 9, 143 (1971). 3 Dowch i Fangor (1973). 4 Cymru, 1, 102 (1891). 5 Cymru, 2, 82 (1891). 6 Prosbectws y Coleg (1973). 7 Lherpooi Daily Post, Medi 9, 1969. 8 Lẁerpool Daily Post, Mawrth 5, 1969. » Cymru, 1, 131 (1891). Cymru, 1, 131 (1891). ii Yr Efrydydd, 7 (1932). 12 Y Gwyddonydd, 1, 1 (1963). CFl 6EU.