Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nicolaus Copernicus 1473-1545 (Cyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymrú) ELENi, yng ngwlad Pwyl, dathlwyd pum can- mlwyddiant yr enwocaf o'i meibion-Nicolaus Copernicus, a bûm innau, gyda grwp bach o Gymry Cymraeg, yn sefyll o flaen cerflun ohono yn Warsaw, o flaen cerflun-mewn-halen ohono yn Cracow ac yn swpera un gyda'r nos mewn ysgol arbennig iawn yn Warsaw sydd yn dwyn ei enw. Nid fy mod i'n astronomydd, nac yn deall dim o syndod y sêr, ac eto ni fûm heb sylwi ar ddiddordeb Cymry'r oesoedd yn y pwnc. Dyna'r darn nodedig o Gymraeg a sgrifennwyd ar ddechrau'r ddegfed ganrif yn sôn am y sêr, a gellir crybwyll enwau megis Robert Recorde (1510-58), Joseph Harris (1702-64), Lewis Evans (1755-1827), Thomas Jones (1775-1852), Edward Mills (1802-65), John William Thomas (1805-40), Isaac Roberts (1829-1904) a Thomas Lewis (1856-1927) i ddangos y bu gan ein cyndeidiau ddiddordeb ymarferol yn y pwnc. Ac un o brif gymwynaswyr ein cenedl ni, gyfieithydd Y Testament Newydd a'r Llyfr Gweddi Gyffredin, a wnaeth yr ymgais gyntaf i drosi llyfr dysgedig ar Astronomeg i'r Saesneg o destun Lladin o Roeg wreiddiol Proclus Diadochus. Teitl y gwaith yw The Description of the Sphere or Frame of the Worìde gan William Salesbury; troswyd ar gais John Edwards y Waun a ddymunai fyfyrio ar 'the speculacion of the wonderfull goodly, and deuyne fabricature of the world'. Nid rhyfedd mai Salesbury oedd y cyfieithydd oherwydd fel y dywed- wyd amdano gan Syr Thomas Wiliems yn 1574, 'Onyd ef gan ddechrau o sylfaen y celvyddydae, astudiodd ddilechtit, Rhetoricyddiaeth, Astronom- iaeth, Arithmeticyddiaeth, a philosophyddiaeth anianol, yd oni ragorawdd ynthwynt'. Cyhoeddwyd y cyfieithiad saith mlynedd wedi marw sylfaenydd Astronomiaeth ddiweddar, y Nicolaus Copernicus hwnnw y buom yn cofio amdano eleni yn ei wlad enedigol. Yno, yng ngwlad Pwyl, ym mhentref Torun ar lan yr afon Vistula y'i ganed a'i dad yn fasnachwr gweddol gefnog. Ond bu farw ei dad pan oedd Copernicus yn ddeuddeng mlwydd oed, a daeth o dan ddylanwad ei ewyrth. Yn 1491 aeth i un o brifysgolion enwocaf Ewrop cyfnod y Dadeni- Prifysgol Cracow, lle roedd traddodiad enwog o R. BRINLEY JONES astudio Mathemateg ac Astronomeg. Yno daeth i gyffyrddiad â Wojciech Brudzewski a dywedir mai o dan ei hyfforddiant ef y dechreuodd Copernicus ymddiddori yn rhyfeddodau'r bydysawd. Ym mlwyddyn marw ei athro, 1497, y gwnaeth Copernicus gofnodi gyntaf ei sylwadau ar y sêr. Ond yn nhraddodiad gwyr dysgedig y cyfnod, er mwyn blasu gwareiddiad y gorllewin, aeth Copernicus ar bererindod ysgolheigaidd maith i'r Eidal, gan astudio Groeg yn Bologna lle daeth i gysylltiad â'r astronomydd enwog Domenico Novarra o Ferrara; rhoes gyfres o ddarlithoedd ar Fathemateg yn Rhufain ac yna astudiodd y Gyfraith a Meddygaeth ym Mhrifysgol Padua gan raddio gyda gradd Doethur yn y Gyfraith Ganon