Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mewid Tymor Bridio'r Ddafad JOHN B. OWEN Athro Magwraeth a Iechyd Anifeiliaid yn Adran Amaethyddiaeth Prifysgol Aberdeen ydyw John B. Owen. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Blaenau Ffestiniog a Choleg Bangor lle y graddiodd gyda B.Sc. a Ph.D. Wedi bodyn rheolwr fferm yn swydd Efrog bu'n ddarlithydd mewn amaethyddiaeth yn Aberystwyth a Chaergrawnt cyn ei benodi Vr gadair yn Aberdeen y llynedd (1972). Trwy ganiatâd Aberdeen Journals Ltd. Mamog gyda phump oen o'r ddiadell sydd wedi ei dethol am ei gallu epilio. Pedwar oen oedd ganddi'r flwyddyn cynt. Mae hanes dyn yn ei ymwneud ag anifeiliaid fferm yn llawn o frwydrau i droi greddf yr anifail a ddatblygwyd ar hyd yr oesoedd, i'w bwrpas ei hun. I raddau wrth gwrs y mae dyn wedi dofi anifeiliaid pwrpasol at ei ddibenion ac yn cyd-weithio gyda natur cyn belled ag y gall. Er hynny mae natur yn rhoi ambell i faen rhwystr ar ei ffordd. Felly gyda defaid; datblygwyd y ddafad yn ddeheuig iawn i ddod ag oen i gyfateb i'r tyfiant yn y gwanwyn fel bod y famog yn llaetha ar dyfiant yr haf a'r oen ifanc yn atebol i wynebu'r gaeaf dilynol. Er hynny, yn y byd sydd ohoni heddiw, mae'r ddafad yn ddrud i'w chadw am flwyddyn gron a byddai'n fantais fawr pe bai'n dod ag wyn yn amlach nag unwaith y flwyddyn ac i rai o'r wyn hyn gael eu geni ar wahanol adegau o'r flwyddyn. Y rhwystr mawr yw fod tymor bridio'r ddafad yn gyfyngedig i fisoedd yr hydref a'r gaeaf fel na fydd yn bwrw wyn ond yn y gwanwyn yn gyffredin. Mae amryw o anifeiliaid eraill yn debyg yn hyn o beth-y