Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Lgos, ac ansicrwydd ynglyn â pharhad y cyflenwad ) wyn o Seland Newydd. Mae hyn yn rhoi pwyslais nawr, a hynny ar frys, ar ddatblygiad systemau eiliedig ar yr egwyddorion hyn a all nid yn unig iodi lefel cynnyrch blynyddol y famog ond hefyd a all ehangu tymor gwerthu oen ffres. Rhaid cofio fod cyflenwad cig oen Seland Newydd yn llenwi'r bwlch yn y gaeaf a'r gwanwyn pan nad oes ond ychydig o gig oen cartref ar gael. Yn ychwanegol at y gofyn am famog bwrpasol o safbwynt hyd ei thymor bridio, mae un amod hanfodol arall mewn systemau newydd o'r fath a ddisgrifwyd, sef bod y ddafad a ddefnyddir yn ddafad epilgar, h.y. yn cael Uawer oen ar y tro. 'Does fawr o bwynt mewn gwario yn ychwanegol i gael mamog i ddod ag oen dair gwaith mewn dwy flynedd os na chaiff ar gyfartaledd fwy na rhyw un oen a hanner y tro. Felly fe fydd pwyslais mawr yn y blynyddoedd sydd i ddod ar famogiaid epilgar-ac yn hyn o beth mae Cymru fel gwlad yn hynod ffortunus. Mae yng Nghymru rai o fridiau mwyaf epilgar Ewrob yn ôl eu maint corfforol-brid fel brid Llanwenog yn y De a brid Llŷn yn y Gogledd. Er nad oes eto ddigon o sicrwydd mae rhai arwyddion fod cysylltiad rhwng y gallu i epilio a'r gallu i fridio ddwywaith yn yr un tymor. Hyd yn oed os nad yw'r cysylltiad yn gryf fe olyga hyn fod gobaith y gallwn wella'r ddwy nodwedd yn yr un brid. Mae arbrofion diweddar yn dangos yn eglur bod posibl gwella'r gallu i epilio mewn defaid trwy roi pwyslais ar y nifer o wyn a enir yn hytrach na'r GWASG PRIFYSGOL CYMRU TROPICAL AFRICA: AN ATLAS FOR RURAL DEVELOPMENT H. R. J. DAVIES Atlas yn ymdrin â datblygiad yr ardaloedd gwledig yn Affrica. 40 o fapiau lliw. Tt. 81. 1973. Pris £ 4.00. nifer a fegir a thrwy ddethol wyn i fridio o'r defaid tair oed ar sail record epilio'r famog fel dafad ddwy a dafad dair oed. Fe gredwn hefyd y gellir ymestyn tymor bridio defaid trwy redeg hwrdd wedi ei ddiffrwythloni gyda'r defaid yn yr haf a nodi'r adeg pan fercir y ddafad gyntaf yn y tymor. Gellir defnyddio'r wybodaeth hon eto yn ogystal â'r wybodaeth am eu gallu i epilio i bwyso gwerth y ddafad dair fel y gallwn ddethol yr wyn gorau i'w cadw at fridio. Gan fod gan fridwyr defaid Cymru ddefnydd crai cystal ag unrhyw wlad arall yn y byd fe all pwyslais priodol mewn bridio yn ystod y blynydd- oedd nesaf wneud Cymru yn un o brif ffynonellau bridiau defaid y dyfodol. CYFEIRIADAU Hafez, E. S. E. 1952. Studies on the breeding season and reproduction of the ewe. J. Agric. Sci. 42, 189-265. Lees, J. L. 1969. The reproductive pattern and performance of sheep. Outlook on Agriculture 6, 82-88. Purser, A. F. 1963. Variation among sheep flocks in their mating patterns. Anim. Prod. 5, 219 (Abs.). Robinson, J. J., Fraser, C. and Gill, J. C. 1972. Prelimi- nary observations on the performance of Finnish Landrace x Dorset Horn Ewes in an intensive system. Proc. B.S. Anim. Prod. 1972 Paper 19 54th meeting. Robinson, T. J. 1967. The control of the ovarian cycle in the sheep. Edited by T. J. Robinson. Publ. Sydney. University Press. Yeates, N. T. M. 1949. The breeding season of the sheep with particular reference to its modification by artificial means using light. J. Agric. Sci. 39, 1-43. MERTHYR HOUSE, James STREET, CAERDYDD, CFt 6EU.