Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Personoliaeth a Chyrhaeddiad Addysgol BRENDA LLOYD DAVIES Cafodd Mrs. Brenda Lloyd Davies ei haddysg gynnar yn Ysgol John Bright, Llandudno, ac oddi yno aeth i Goleg Newnham, Caergrawnt, lle y graddiodd mewn Ffisioleg. Bu'r athrawes yn Rhydychen ac yn Abertawe, gan ddilyn cwrs M.Ed. rhan-amser ac arbenigo mewn seicoleg. Y mae bellach yn ddarlithydd yn Adran Addysg Coleg y Drindod, Caerfyrddin. Bu datrys y ffactorau sy'n dylanwadu ar gyrhaedd- iad academaidd o ddiddordeb i ymchwilwyr addysgol erioed. Canolbwyntiodd gwaith cynnar ar effaith deallusrwydd, ac yn ddiweddarach gwnaeth- pwyd llawer o ymchwil ar y berthynas rhwng llwyddiant yn yr ysgol a ffactorau cymdeithasol a diwylliannol fel dosbarth cymdeithasol, cefndir y cartref a phrofiad y plentyn cyn mynd i'r ysgol. Yn ystod y deng mlynedd diwethaf gwnaethpwyd nifer o ymchwiliadau i mewn i'r cysylltiad rhwng personoliaeth plant a myfyrwyr a'u llwyddiant academaidd: mae'n amlwg fod yna amrywiaeth mewn personoliaeth plant yn ogystal ag yn eu deallusrwydd, a rhesymol yw tybio y bydd plant â gwahanol fathau ar bersonoliaeth yn ymateb i'r dasg o ddysgu mewn modd gwahanol. Un rheswm paham na ddechreuwyd ar ymchwil i mewn i'r broblem hon ynghynt oedd yr anhawster o fesur personoliaeth yn wrthrychol. Mae profion deallusrwydd ar gael ers dechrau'r ganrif hon, ond ni ddatblygwyd profion i fesur personoliaeth hyd yn gymharol ddiweddar. Defnyddir nifer o ddulliau i geisio mesur personoliaeth, ac er nad yw'n bosibl ei mesur yn hollol wrthrychol, un o'r dulliau symlaf yw defnyddio holiaduron fel y rhai a luniwyd gan R. B. Cattell yn yr Unol Daleithiau ac H. J. Eysenck ym Mhrydain. Awgryma Eysenck fod i bersonoliaeth ddau brif ddimensiwn: alltro/mewndro a niwrotigiaeth. Yn ôl y ddamcaniaeth hon mae'r person alltroëdig (neu allblyg) yn gymdeithasgar ac yn hoffi cwmni. NODWEDDION PERSONOLIAETH YN ÔL DAMCANIAETH EYSENCK ALLBLYG (neu alltroëdig) cymdeithasgar, di-ofal, optimistaidd, byrbwyll NIWROTIG oriog, aflonydd, pryderus, anfodlon Mae'n fyrbwyll, yn optimistaidd a di-ofal, ac nid yw'n hoff o ddarllen neu fyfyrio ar ei ben ei hun. Tuedda i fod yn ymosodgar ac ni ellir dibynnu arno bob amser. Ar y llaw arall, mae'r person mewndroëdig (neu fewnblyg) yn dawel, yn hunan- reolus, yn hoff o lyfrau yn hytrach na phobl, nid yw'n hoff o gyffro, gellir dibynnu arno ac mae'n gwerthfawrogi safonau moesol. Mae gan y niwrotig emosiynau cryf; mae'n oriog, pryderus ac aflonydd, tra bo'r person sefydlog yn ddigyffro, heb golli ei dymer yn hawdd. Crynhoir y nodweddion hyn yn Nhabl I. Ar sail damcaniaeth personoliaeth Eysenck fe luniwyd nifer o holiaduron personoliaeth yn ddiweddar i fesur alltro a niwrotigiaeth, ac mae'r rhan fwyaf o'r ymchwil ym Mhrydain ar y berthy- nas rhwng personoliaeth a chyrhaeddiad addysgol wedi defnyddio'r holiaduron hyn. Defnyddiwyd holiaduron Cattell mewn rhai astudiaethau yn y maes hwn ym Mhrydain, ond nid yw mor hawdd dehongli'r canlyniadau oherwydd lluniwyd holiad- uron Cattell ar sail ei syniadau yntau am natur personoliaeth sy'n llawer mwy cymhleth na damcaniaeth Eysenck. Enwa Cattell bron 20 0 deithi personoliaeth, ond mae'n bosibl symleiddio'r darlun drwy grwpio'r teithi hyn i ffurfio pum ffactor, a dau ohonynt yn cyfateb i alltro/mewndro a niwrotigiaeth, dau brif ddimensiwn Eysenck. Mae'n bosibl, felly, cymharu canlyniadau astud- iaethau sy'n defnyddio holiaduron Eysenck a Cattell. Tabl i MEWNBLYG (neu fewndroëdig) swil, hunan-ymchwiliol, pwyllog, difrifol, meddylgar SEFYDLOG cadarn, digyffro, tawel, dibynadwy, hunan-reolus