Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dechrau i sefydlu trefn adborthol yng nghanol adeiladwaith y sefydliad. Fel y dywedwyd ar y dechrau cyfyngwyd yr erthyglau yma, i raddau helaeth, i arolygiad o'r cwrs sylfaenol yng, ngwyddoniaeth. Yn 1972 cyf- lwynwyd cyrsiau cyntaf ail lefel y Gyfadran ac yn 1974 gwelir cyrsiau ar y drydedd lefel. Fodd bynnag, gan fod cryn ddatblygiad i ddod eto yn nifer a sgôp y cyrsiau yma ni wneir ymgais i'w disgrifio; yn hytrach, er mwyn rhoi rhagflas o'r patrwm, atgynhyrchir tabl (Ffigur 2), sy'n rhestru y cyrsiau sy' eisoes wedi'u creu neu sy' ar y gweill. Yn ogystal, gobeithia'r Gyfadran Wyddoniaeth wneud cyfraniad ym maes y cyrsiau profesiynol (post-experience) sy'n ymddangos am y tro cyntaf eleni. Cyrsiau byr ac nid cyrsiau at radd yw'r rhain, gyda'r pwrpas o adnewyddu gwybodaeth, a rhoi cyfle i berson ddod i gyffyrddiad â thechnolegau a datblygiadau newydd sy'n berthnasol i'w swydd. Perthynant felly i fyd y 'refresher" neu'r 'conrersion course" ac 'in-senice training\ Un cwrs gwyddon- iaeth yn y dosbarth yma a fydd o ddiddordeb i athrawon, yw cwrs ar ddysgu gwyddoniaeth-maes sy' wedi gweld cryn ddatblygiad yn y blynyddoedd diwethaf. Cwrs arall sy'n ymddangos eleni (ac sy'n Y mae bron dwy fil o fyfyrwyr y Brifysgol Agored yng Nghymru. Nid oes angen unrhyw gymwysterau academig i gael mynediad i'r Brifysgol-cynigir lleoedd ar sail 'y cyntaf i'r felin gaiff falu'. Oedolion yw'r rhelyw o'r myfyrwyr, yn astudio gartref yn eu hamser hamdden. Seilir yr addysg ar ddeunydd gohebol (drwy'r post) wedi ei gysylltu â darllediadau a chyfarfodydd mewn canolfannau lleol. Cynnig y Brifysgol radd B.A., a'r flwyddyn nesaf cyflwynir 64 o gyrsiau. Rhaid i fyfyrwyr newydd gymryd cwrs sylfaenol gan ddewis ymhlith y pump canlynol: y Celfyddydau, y Gwyddorau Cymdeithasol, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Technoleg. Yn ogystal, mae gan y Brifysgol raglen graddau uwch a chyrsiau proffesiynol. Derbynnir ceisiadau am leoedd cyrsiau gradd yn 1975 o Ragfyr 18 eleni hyd at Orffennaf 3 1974. Os am lawlyfr ysgrifennwch yn awr i Y Dyfodol The Admissions Office, P.O. Box 48, The Open University, Milton Keynes, PO GYNTAF YR YMGEISIWCH, GORAU GYD YW EICH CYFLE I GAEL LLE. Y BRIFYSGOL AGORED MK7 6AA. ogystal yn gwrs gradd) yw PSDT 286-Sylfae Biolegol Ymddygiad. Disgwylir y bydd o ddidc- ordeb i bobl megis gweithwyr cymdeithasc seicolegwyr addysg a swyddogion prawf, sy' ange gwybod mwy am gefndir biolegol eu gwaith. Pwrpas yr erthyglau yma oedd rhoi cip ar addys,; wyddonol y Brifysgol, sut y wynebwyd y problemau o 'ddysgu o bell' a'r dulliau arbennig a ddatblyg- wyd. Darlun a gawsom felly o arbrawf, oherwydd, yn sicr, mae'r gyfadran wyddoniaeth wedi torri tir newydd ar lawer ystyr ac y mae'n dal i wneud hyn. I ba raddau y bydd i effaith y llafur yma dreiddio drwy fyd addysg uwch, amser yn unig a ddengys. Fodd bynnag, y mae llawer yn hyderus y bydd i'r Brifysgol wneud cyfraniad sylweddol nid yn unig tuag at ymestyn ffiniau addysg uwch ond hefyd at y dull a'r modd o gyflwyno'r addysg yma. Enghraifft o'r daioni a all ddeillio o hyn yw'r ffaith taw'r sefydliad cyntaf a fanteisiodd ar y cyfle o 'brynu'r' cyrsiau sylfaenol yn eu crynswth oedd Prifysgol newydd yn Affrica. A chymwys efallai yw cloi gyda'r sylw hwn. Oherwydd mae yna gysylltiad uniongyrchol efo Y GWYDDONYDD gan taw'r person fu y tu cefn i'r trefniant yn Athrofa Technoleg Dinas Benin yn Nigeria yw golygydd Y GWYDD- ONYDD yn ystod ei dymor fel pennaeth y sefydliad. Bach o fyd ynte Y Swyddfa Dderbyn, P.O. Box 48, Y Brifysgol Agored, Milton Keynes, MK7 6AA.