Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ysgolion NODIADAU BYWYDEG MELFYN R. WILLIAMS YMATEBIADAU CYDRADDOL (co-ordinating responses) Cysylltir y prosesau ffìsiolegol mewn anifeiliaid byw yn agos iawn ac maent yn ddibynnol hollol ar ei gilydd. Er enghraifft, byddai treuliad yn ddiwerth heb y ffrwd gwaed i amsugno a gwasgaru ei gynnwys. Nid hap a damwain yw fod y cyfun- drefnau yma'n cydweithio â'i gilydd. Mae amseriad a lleoliad un math o weithgareddau mewn perth- ynas agos ag eraill; wrth gerdded, mae'r coesau yn symud bob yn ail heb i'r cerddwr fod yn ymwybodol ohono. Yn ystod ymarfer corfforol, pan fydd ar y corff angen mwy o fwyd ac ocsigen, mae cyfradd anadlu yn cynyddu'n awtomatig a chura'r galon yn gyflymach i yrru mwy o waed wedi'i ocsideiddio i'r cyhyrau. Pan fydd rhywun yn bwyta, mae lleoliad y bwyd yn cael ei gofnodi gan y llygaid ac oherwydd y wybodaeth yma mae'r breichiau'n cael eu symud i'r lle priodol i gludo'r bwyd i'r geg, mae'r dannedd yn cnoi'r bwyd a secredir y poer o'r chwarennau. Wrth i'r bwyd gael ei lyncu mae nifer o bethau yn cyd-ddigwydd i weithredu hyn. Ar yr un pryd yn y stumog mae'r chwarennau gastrig yn rhinio ensymau yn barod i dreulio'r bwyd. Gelwir y cydgysylltu amserol sydd rhwng gweith- gareddau'r corff yn gydraddoliad (co-ordination). Heb gydraddoliad byddai gweithgareddau corfforol yn cael eu taflu i anhrefn ac annibendod; y bwyd yn mynd drwy'r llwybr treulio heb ei dreulio oherwydd diffyg y chwarennau i secredu ensymau y ddwy goes yn plygu hefo'i gilydd wrth geisio cerdded; rhedwr yn disgyn ar ôl rhedeg dim ond ychydig lathenni oherwydd diffyg cyflenwad o ocsigen ychwanegol, ac yn y blaen. Gweithredir cydraddoliad gan (a) y gyfundrefn nerfol, (b) y gyfundrefn endocrin. Y GYFUNDREFN NERFOL Rhennir cyfundrefn nerfol y mamolyn yn ddwy: (i) Cyfundrefn nerfol ganol (central nerrous system) sy'n cynnwys yr ymennydd a'r madruddyn cefn (spinal cord). (ii) Cyfundrefn nerfol ymylol (peripheraì ner- vous system) sy'n cynnwys parau o nerfau creuanol (cranial nerves) a nerfau y mad- ruddyn cefn (spinal nerves) sy'n cysylltu organau derbyn hefo'r organau sy'n ymateb. Y GYFUNDREFN NERFOL GANOL Gorwedd y gyfundrefn nerfol ganol ar hyd llinell ganol y corff wedi'i ddiogelu y tu mewn i'r benglog a'r golofn gefn. Gellir rhannu'r ymennydd yn dair rhan: (1) ymennydd blaen, (2) ymennydd canol, (3) ymennydd cefn. Ymennydd Blaen Mae'r ymennydd blaen yn cynnwys dwy labed arogleuol (olfactory lobes) sy'n ymwneud â syn- nwyr arogli. Yn ffurfio'r ymennydd hefyd mae'r hemisfferau cerebrol (cerebral hemispheres). Mewn mamolion mae'r rhain yn fawr ac yn dueddol i LIun 1. Ochr gefnol ymennydd cwningen