Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gelwir yr organ synnwyr, yr effeithydd a'r ddau ìewron yn fwa atgyrchol (reflex arc). Nid yw'r veithred atgyrchol yn digwydd yn aml. Mewn rhai ìchosion, fodd bynnag, mae'r bwa atgyrchol yn ;yfrifol am weithred nad yw o dan reolaeth yr .wyllys, er enghraifft, gellir cymhwyso maint can- ìwyll y llygad yn ôl tanbeidrwydd y golau sy'n ,nynd i'r llygad, ac nid yw rheolaeth gwirfoddol yn bosibl. Mae'r atgyrchion hyn yn rhai cynhenid (uncondi- tioned reflexes) gan eu bod yn rhan naturiol o wneuthuriad yr anifail. Mae yna fath arall o at- gyrchion y mae'r anifail yn eu dysgu drwy brofiad. Gelwir y rhain yn atgyrchion cyflyredig (condìtioned reflexes). ATGYRCHION Cyflyredig Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg darganfu gwyddonydd o Rwsia, o'r enw Pavlov, fod llif poer yn cael ei gynhyrchu gan gi wrth gyflwyno BANC DEUNYDD GWYDDONOL Yn ddiweddar cynhaliwyd cynhadledd yn Aberystwyth ar 'Y Gymraeg fel cyfrwng dysgu yn yr ysgolion uwchradd'. Penderfynodd y grwp Gwyddoniaeth yn y gynhadledd honno sefydlu 'Banciau' o ddeunydd yn y gwahanol bynciau gwyddonol. Y syniad yw fod pawb sy'n cynhyrchu unrhyw ddeunydd Cymraeg fel nodiadau, taflenni gwaith, papurau arholiad, ac yn y blaen, yn ei anfon (neu anfon copi) at y 'bancwr' priodol. Byddai unrhyw un arall wedyn sydd â diddordeb mewn deunydd o'r fath yn gallu cael copïau ar fenthyg (neu os oes cyflenwad, copiau i'w cadw) oddi wrth y bancwyr ond anfon atynt. Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech wneud hyn yn hysbys i athrawon eraill fel y gallent gyfrannu neu/a derbyn cymorth gyda dysgu gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma enwau a chyfeiriadau'r 'Bancwyr': Bywydeg: Mr. Ted Huws, Ysgol Maesgarmon, Yr Wyddgrug. CEMEG: Mr. Gareth Williams, Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam. Ffiseg: Miss Gwen Aaron, Ysgol Gyfun Rhydfelen, Pontypridd. GWYDDOR GWLAD A Gwyddoniaeth AMAETHYDDOL: Mr. Tudur Aled Davies, Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy, Sir y Fflint. bwyd iddo. Fe ganodd gloch ychydig eiliadau cyn cyflwyno'r bwyd, ac ar ôl nifer o droeon, gwelodd fod y ci yn glyfeirio bob tro pan oedd y gloch yn cael ei chanu er nad oedd bwyd yn cael ei gynnig. Felly, mae'r ci wedi dysgu atgyrch nad yw'n bod yn naturiol yn rhan o'i ymddygiad. Gelwir y math yma o atgyrch yn gyflyredig. Mae'n bur debyg bod y math yma o atgynhyrchion yn chwarae rhan bwysig yn ein bywyd pob dydd ac yn ffurfio rhan o'n harferion. ORGANAU SYNNWYR Fframweithiau wedi'u harbenigo i ganfod amod- au mewnol ac allanol yw'r organau synnwyr. Maent wedyn yn paratoi gwybodaeth i'r gyfun- drefn nerfol ganolig sy'n penderfynu i weithredu neu beidio. Mewn rhai achosion, mae'r symbyliad yn gweithredu ar gelloedd arbennig a all fod wedi eu casglu at ei gilydd i ffurfio organ, tra mewn eraill mae terfynau'r ffibrau nerf yn ymddangos yn sensitif.