Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Silff Lyfrau Population, Resources, Emironment, gan Paul R. Ehrlich ac Anne H. Ehrlich (ail arg. 1972). W. H. Freeman. & Co. Ltd. Pris £ 4.30 (clawr caled), £ 2.60 (clawr meddal). Human Ecology: Problems and Solutions, gan Paul R. Ehrlich, Anne H. Ehrilch a J. P. Holdren. W. H. Freeman (1973). Pris £ 2.50. Yn 1829 cyhoeddodd Thomas Carlyle ei ysgrif Signs of the Times. Prif ddiben yr ysgrif oedd gwrthwynebu'r rhesymoliaeth newydd oedd yn dechrau datgelu ei grym yr adeg honno. Beirn- iadodd Carlyle y bobl hynny a fentrai edrych i'r dyfodol neu i'r gorffennol yn lle rhoi eu holl sylw i'r presennol. 'Ein dyletswydd ni', maentumiai, 'yw ateb cwestiynau heddiw; nid yw o unrhyw les yn y byd inni geisio rhagweld yr hyn sy'n gorwedd yn y dyfodol pell.' Honnodd ymhellach fod dynion hapus, bodlon eu byd, bob amser yn ymwneud â'r presennol yn unig. Bid a fo am hynny, anodd gwadu nad ydyw pethau'n hollol fel arall heddiw. Un o nodweddion ein gymdeithas olud, gyfoes yw'r ymgais parhaus ar ein rhan ni i gyd i ymwrthod â'r presennol. Mae rhai yn ceisio dianc yn ôl i'r gorffennol. Dyma, mae'n debyg, sy'n cyfrif am y diddordeb cyfoes yn hen greiriau ac hen ddodrefn, y parch newydd a roddir i'r 'hen ieithoedd diflanedig' a'r chwilio di-baid am wreiddiau. Mae eraill am ddianc i'r dyfodol ac fe geir llawer mwy o 'ragfynegi gwydd- onol' ac o warchod y dyfodol nag y bu erioed o'r blaen yng nghwrs hanes. Rhyfedd hefyd weld hyn yn digwydd mewn oes ddi-grefydd canys nid oes yr un rheswm seciwlar paham y dylem ymboeni am y dyfodol: wedi'r cwbl, byddwn ni a'r plant wedi hen ddiflannu oddi ar wyneb y ddaear ymhell cyn y gwireddir ein proffwydolaethau. Ond nid yw ystyriaethau o'r fath wedi peri unrhyw leihad yn y darogan nac yn y proffwydo. Prif fyrdwn y darogan yw bod dyn a'i reidiau yn cyflym oddiweddyd gallu cynhaliol y byd a bod hyn yn argoeli'n wael ar gyfer y dyfodol. Prif ladmer- yddion y dadleuon hyn yw Paul ac Anne Ehrlich o'r Taleithiau Unedig-ac y mae'r ffaith i fersiwn newydd o'u llyfr adnabyddus ymddangos eleni yn dyst i gryfder eu dadleuon. Prin fod eisiau manylu ynghylch y dadleuon-mae sawl cyhoeddiad arall eisoes wedi cyflwyno prif fannau'r ffydd newydd (gw. e.e. Y GWYDDONYDD, VII, 197 (1969)). Swm a sylwedd y dadleuon hyn yw bod dyn wedi dango, diffyg parch i'w amgylchfyd naturiol a bod hyr, yn y pen draw, yn debyg o arwain i dranc a dinistl. l'r Ehrlichiaid y mae arwyddion yr oes yn ddigon eglur-gormod o bobl yn y byd, ac yn waeth byth. gyfradd genedigaethau sy'n cynyddu'n gyflymach na'r gyfradd cynhyrchu bwyd. At hyn, y mae peryglon eraill ar y gorwel-¾megis difwyno'r amgylchfyd a dihysbyddu adnoddau naturiol. Ac yn eironig ddigon y mae nifer o gemigion megis rhai pryfleiddiaid a ffwngleiddiaid a ddyfeisiwyd i gynyddu'r cyflenwad bwyd, erbyn heddiw wedi cyrraedd lefelau sy'n ymylu ar fod yn wenwynig mewn rhai mannau. Nid yw cynhyrchu mwy o fwyd yn debyg o wneud mwy na chyffwrdd ag ymyl y broblem oni sicrheir ar yr un pryd leihad sylweddol yng nghynnydd y cyfradd genedigaethau trwy'r byd. Hyn ydyw craidd y broblem. Oni wneir rhywbeth i gywiro'r sefyllfa yn fuan gellid yn hawdd gweld gwireddu'r dyfyniad a osodir yn bennawd i adran yn llyfr cyntaf yr Ehrlichiaid, 'The future is a cruel hoax\ Nid rhyfedd felly i'r Ehrlichiaid ymdroi cymaint ym myd yr atal-genhedlu. Awgrymant y dylai pob llywodraeth trwy'r byd dderbyn ei chyfrifoldeb yn hyn o beth trwy ddeddfu-yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol-o blaid teuluoedd llai lluosog. 'Amen' a ddywedai llawer ohonom. Ond nid mor hawdd bob amser yw ymarfer gartref yr hyn a argymhellir ar gyfer pobl dros y môr-ac y mae pellter byd rhwng gwledydd Asia a Chymru. Ac y mae'r rhai sy'n ymwybodol iawn eu bod yn Gymry, yn aml iawn yn dadlau mai gorau po fwyaf o blant a enir i deuluoedd Cymraeg-yn wir, bron nad awgrymir weithiau ei bod yn ddyletswydd moesol i rieni o Gymry genhedlu cynifer ag sydd bosibl o blant er mwyn cryfhau dyfodol yr iaith Gymraeg. A diau fod dadleuon cyffelyb yn ffynnu mewn rhannau eraill o'r byd lle ystyrir fod parhad rhyw iaith neu grefydd neu ddiwylliant neilltuol mewn perygl. Galwad y cartref heddiw neu alwad y byd yfory? — pwy sydd i ddweud wrthym pa un sydd bwysicaf? Rhywfodd neu'i gilydd gall hyd yn oed y callaf ymwrthod ag arweiniad gwyddoniaeth yn y fath sefyllfa. Ni fyddai problem fel hon wedi mennu dim ar Thomas Carlyle. Credai yn ddisigl fod gan Natrr y gallu i gywiro ei diffygion ei hun. Credai fod gan