Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

idyn bob amser y gallu i ymaddasu i wahanol tmgylchiadau. Daliai fod pob cynnydd wedi iigwydd 'as it were, by spontaneous growth, in the j'ee soil and sunshine of Nature'. Mae disgyblion Tarlyle yn ddigon niferus heddiw. Ceir nifer .ylweddol o wyddonwyr cyfoes sy'n honni fod iethau heb fod cynddrwg ag yr awgryma'r Ehrlichiaid. Dadleuant fod llwybr hanes yn gyfor- íog o broffwydolaethau (gan gynnwys rhai 'gwydd- onol') nas gwireddwyd. Gosodant eu ffydd yng ngallu ymaddasol dyn. Efallai eu bod yn iawn. Bu allasodu anfeirniadol yn faen tramgwydd i ambell i wyddonydd cyn hyn. Amser yn unig a all brofi (neu wrthbrofi) gwir- ionedd proffwydoliaethau. Gall newidiadau er gwell ddigwydd yn y berthynas rhwng dyn a'i amgylchfyd-pethau na fedrwn ni eu rhagweld o gwbl heddiw. Nid oes sicrwydd y naill ffordd na'r llall. Yr hyn a wna'r Ehrlichiaid yw ceisio rhag- fynegi'r dyfodol yn nhermau'r presennol. Nid oes yr un ffordd arall yn agored iddynt. Ac y maent wedi tynnu rhybudd o'r hyn a welant. Mae hon yn weithred wyddonol ddigon dilys a byddai'n llwyr groes i unrhyw egwyddor o synnwyr cyffredin pe dewisem anwybyddu eu rhybudd. Nutritional Deficiencies in Modern Society, gol. A. N. Howard ac I. M. Baird. Food Education Society, London (1973). Pris f 1.30. Mae sôn am y diffygiannau ymborthegol a all fodoli yn ein cymdeithas olud, gyfoes yn dipyn o foethusrwydd academaidd mewn byd lle mae prinder bwyd a newyn yn teyrnasu ar raddfa eang. Wedi'r cwbl, nid oes dim byd yng ngwledydd Prydain sy'n cyfateb i'r diffyg protin sy'n nodwedd- iadol o nifer o wledydd llai breintiedig Asia, Affrica a De Amerig. Pan gyfeirir at ddiffygiannau ymborthegol tybiedig Prydain, yn nhermau cyf- lenwad annigonol o fitaminau a mwynau y gwneir hyn ran fynychaf. Nid yw'n hawdd adnabod effeithiau'r prinderau ymylol hyn-yn wir, mae'n gwestiwn gan rai a ydynt yn bod o gwbl. Un cylch IIe gall diffygiannau ymborthegol fod o bwys yw ymhlith yr henoed. Ceir mwy nag awgrym yn y llyfr dan sylw fod rhai hen bobl yn derbyn rhy fach o rai ymborthegolion neilltuol; cyfeirir yn arbennig at haearn, y fitaminau gwrth-anaemig (B12 ac asid ffolig) a fitamin C. Dyma lyfr digon darllenadwy a ddylai apelio at y lleygwr a'r ymborthegwr proffesiynol fel ei gilydd. R.E.H. Food: readings from Scientific American, gol. J. E. Hoff a J. Janick. W. H. Freeman, San Francisco/ Reading (1973). Tud. 268, llun. 226. Pris £ 5.30 clawr caled), f2.40 (clawr meddal). Casgliad o 28 o erthyglau darllenadwy iawn ar wahanol agweddau ar Wyddor Bwyd ac Ymbortheg sydd yma. Cynnwys rai da ar Ffurfiant a Natur Llaeth, Merciwri yn yr Amgylchfyd, Adchwanegol- ion mewn Bwydydd a Ffisioleg Llwgu. Mae yma ddigonedd o ddiagramau, lluniau a chyfeiriadau pwrpasol. Prif wendid y casgliad yw i nifer o'r erthyglau ymddangos yn wreiddiol rai blynyddoedd yn ôl-a hyn mewn meysydd lie mae pethau'n newid yn gyflym. Byddai cael fersiynau mwy modern o erthyglau Mayer (Archwaeth a Gor- bwysedd, 1956) a Fruton (Protinau, 1950) yn gaffaeliad mawr. Er hyn, dyma darddlyfr defnydd- iol iawn i bawb sydd am wybod mwy am ein bwyd beunyddiol a hefyd i fyfyrwyr sy'n dilyn cwrs coleg mewn Ymbortheg neu Wyddor Bwyd. Mae'r pris yn un rhesymol iawn hefyd. R.E.H.