Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pôs Croes-eiriau Nadolig gwyddonol yn bennaf Cynigir cyfrol rwymedig o Y GWYDDONYDD am yr ateb cywir (neu'r un gorau!) cyntaf a agorir ar Chwefror 9fed. Cyhoeddir yr enw buddugol yn rhifyn Mawrth. Gellir rhoi'r atebion ar daflen o bapur i osgoi tynnu'r dudalen o Y GWYDDONYDD. Anfoner pob ymgais i­ Ar Draws: 1. Cobalt a nitrogen yn cael eu dodwy yn y Gogledd (5) 4. Od !-o'r cwd croen y daw pryfyn i'w oed, Yn gymysg ei natur ac heb yr un droed (2, 5) 8. Ai'r hobi-er ei chwithdod-a arweiniodd i'r theori am yr atom? (4) 9. Gweld pedol o flaen adfeilion yr efail- a chreu ocsigen yn y ganrif ddiwethaf (6) 11. Afon o'r oriel yn Ffrainc (5) 12. Nid o'i gyfeiriad anghywir y daeth Courtois o hyd iddo (5) 14. Carbohidrad sy'n cychwyn yn Lloegr (6) 1 6. Treulio mis dryslyd yn y bwth cyn dod o hyd i'r metel (6) 18. Anifail sabothol o fewn rhigolau'r ymennydd (5) 19. Teithio i bwynt sero-yr union beth! (2, 3) 21. Dechrau ysgrifennu yn y cornel er mwyn iddo huno (6) 22. Organ ysgarthu y carent ei gael heb na phen na chynffon (4) 23. Abse, yn y diwedd, a rydd wr i archwilio'r gofod (7) 24. Mater sydd bob amser yn codi o ymofyn wy o nyth (5) POS CROES-EIRIAU'R GWYDDONYDD, DR. R. ELWYN HUGHES, ADRAN BYWYDEG CYMWYSEDIG, ATHROFA GWYDDONIAETH A THECHNOLEG PRIFYSGOL CYMRU, PARC CATHAYS, CAERDYDD, i gyrraedd erbyn Chwefror 9fed, 1974. I Lawr: 1. Y tâl, ys dywed rhai, sy'n ganolog i'r cais i gyflymu'r ymwaith cemegol (9) 2. Nitrogen o'r sffêr i anrhydeddu'r gwyddonydd- ac eraill (5) 3. Clefyd sy'n taro ar siawns? — ac yn peri tyndra i'w hyddgi (2, 5, 6) 5. Peiriannau y disgwylir iddynt roi cyfrif ohonyn nhw eu hunain?(13) 6. Egwyddor sylfaenol y gwyddonydd a'r noethlymunydd (4, 3) 7. 'Roedd Robert Jones yn un i Hugh Owen Thomas (3) 10. Cynnwys nwclews mewn dyn a dyn mewn carchar (3) 13. Tegeirian sy'n llawn wyau? (3, 6) 15. Un sy'n gwarchod wrth wasgaru dom? (7) 17. Mae eisiau stumog go arbennig i gnoi hyn (3) 20. Chwilio am y nwyon i leoli man-weithio Sidney Gilchnst Thomas (5) 21. Letysen y mathemategydd? (3)