Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ATHROFA GWYDDONIAETH A THECHNOLEG PRIFYSGOL CYMRU Erbyn hyn y mae cynlluniau gweddol h.ndant wedi eu cyflwyno ar gyfer s mud yr Athrofa i ardal Cwmbran yn Sir Fynwy. Felly dyma ddiwedd ar ryw ddeng mlynedd o chwilio am safle addas. Amhosibl gwadu nad oes manteision pendant yn debyg o ddeillio o'r symud i Gwmbran. O'r diwedd bydd gan yr Athrofa ddigonedd o le i ymehangu yn ôl y gofyn tybiedig ac i baratoi'r holl gyfleusterau angenrheidiol ar yr un campws. Peth da hefyd yw gweld Sir Fynwy o'r diwedd yn derbyn un o golegau Prifysgol Cymru. Ond ffôl fuasai gwadu nad oes i'r cynllun ei feirniaid hefyd. Bydd y symud yn difetha nifer o drefniadau cyd-golegol sydd ar gael ar hyn o bryd yng Nghaer- dydd ac yn amddifadu staff ac ymchwil- wyr yr Athrofa o gyfleusterau llyfrgellol y colegau eraill. Ond mae'n debyg mai'r anhawster pennaf fydd y broblem o gychwyn o'r newydd mewn ardal sydd heb feddu ar unrhyw fath o draddodiad academaidd-a hyn mewn cyfnod pan mae myfyrwyr addas yn prinhau a'r gystadleuaeth rhwng prifysgolion yn mynd yn fwyfwy ffyrnig. Yn sicr, rhaid edmygu hyder awdurdodau'r Athrofa yn hyn o beth. Maent am gynllunio cyfleusterau ar gyfer rhwng 5,000 ac 8,000 o fyfyrwyr. Gobeithir gweld symud y myfyrwyr cyntaf i'r safle newydd yn 1977 a chwblhau'r symud erbyn tua 1982. Rhan o'r ymgais i greu delfryd newydd sbon i'r Athrofa yw'r duedd amlwg ar ran yr awdurdodau i gyfeirio at y 'Llantarnam Site' ac i osgoi sôn am Gwmbran. Mae olion Abaty Sistersiaidd a phlas hanesyddol yn Llantarnam ac yn y fan honno, ryw ddwy filltir o Gwmbran, y lleolir yr Athrofa. Diau y tybir i 'Llantarnam' gyfleu cefndir a naws fwy academaidd a l½ai bydol na'r greadigaeth synthetig a orwedd ryw ddwy filltir i'r gogledd. Ddeunaw mis yn ôl cytunodd Cyngor yr Athrofa i weithredu polisi o ddwy- icithrwydd trwy'r Coleg. Prin iawn, hyd >n hyn, yw'r arwyddion fod yr awdur- dodau yn bwriadu cyflawni'r fath bolisi. Mae'r Gymdeithas Wyddonol yn dal ■íyfarfod yn yr Athrofa. Yn ystod tymor Nadolig cynhaliwyd y cyfarfodydd a mlyn: Hydref, Dr. Gareth Evans, Nodiadau o'r Colegau Abertawe (Darlith Agoriadol); Tach- wedd, Mrs. Elonwy Wright, Caerdydd (Asid Sitrig mewn Bwydydd); Rhagfyr, Dr. Gareth Roberts, Trefforest (Prob- lemau Mathemategol). Dymuniadau gorau i Gwyn Williams (Peirianneg Fecanyddol), un o gefnog- wyr selocaf y Gymdeithas, ar ei benodi i swydd yn Ysgol Maes Garmon. ABERYSTWYTH Yng nghyfarfod haf y Cyngor llon- gyfarchwyd Dr. K. Walters, Adran Mathemateg Gymwysedig, ar ei benodi i Gadair Bersonol, a'r Dr. A. Durrant, Adran Llysieueg Amaethyddol, ar dder- byn Doethuriaeth yn y Gwyddorau gan Brifysgol Birmingham. Hefyd llon- gyfarchwyd yr Athro Neville Jonathan ar ei benodi i Gadair Bersonol mewn Cemeg ym Mhrifysgol Southampton. Y mae'r Athro Jonathan yn gyn- fyfyriwr o Adran Gemeg Aberystwyth. Wedi cyfarfod y Cyngor, gosodwyd carreg sylfaen Adeilad Hugh Owen gan y Llywydd, Syr Ben Bowen Thomas. Bydd yr adeilad newydd hwn ar Benglais yn cynnwys Llyfrgell y Coleg ac amryw o Adrannau'r Celfyddydau. Gofynnodd Pwyllgor Grantiau'r Prif- ysgolion i'r Coleg ystyried ei gynlluniau at ehangu ac i fynegi ei farn ar yr awgrym y dylid anelu at 4,250 i 4,750 o fyfyrwyr erbyn 1981-82. Cymeradwyodd y Senedd a'r Cyngor rif o 4,000 erbyn 1981-82 sef glynu wrth bolisi a benderfynwyd yn 1970 wedi trafodaeth helaeth. Golyga hyn dyfiant cymedrol ynghlwm wrth anghenion hanfodol datblygiadau acad- emaidd a pherthnasol i ofynion plant ysgolionCymru yn hytrach nag i'rtyfiant llawer cyflymach sydd ymhlyg yn ffìgurau'r P.G.P. (U.G.C.) ac yn y Papur Gwyn. Fe wnâi 4,000 ddefnydd llawn o'r adeiladau gwyddorau presen- nol ac ni fyddai'r adeiladau celfyddydau ychwanegol angenrheidiol yn peri gor- lwytho safle Penglais. Heblaw'r argymhellion ynglyn â thyf- iant, gofynnodd y Coleg i'r P.G.P. roi ystyriaeth ar frys i broblem fawr neuaddau preswyl a godir ar gyllid benthyg ac effaith llog uchel ar y tâl sydd raid gofyn am le mewn neuadd. Pwysleisiwyd hefyd bwysigrwydd cymes- uriaeth staff a myfyrwyr a chydbwysedd rhwng gwaith cyn ac wedi graddio ar safonau academaidd. R.E.H. Nodion o'r Adrannau Addysg. Daeth y gwaith i ben ar gynllun ymchwil y Brifysgol i archwilio'r dylanwadau sy'n gyfrifol am ddewis prifysgol ymhlith plant y VI dosbarth yng Nghymru. Cyfarwyddwyd yr ym- chwil gan Dr. Clive Williams ac argymhellodd Llys y Brifysgol gyhoeddi adroddiad o'r ymchwil. Trefnodd y Gyfadran Addysg dri o gyrsiau haf dan nawdd y Weinyddiaeth Addysg a Gwyddoniaeth, sef 'Cyfrifiaduriaeh mewn Ysgolion' (yng Ngholeg y Drin- dod, Caerfyrddin), 'Agweddau ar Wydd- oniaeth Nuffìeld mewn Ysgolion Eil- radd' (Coleg y Drindod) a 'Dysgu Mathemateg a Gwyddoniaeth mewn Ysgolion Cynradd' (yng Ngholeg Aber- ystwyth). Yn ystod yr haf cyhoeddwyd y Geiriadur Termau (dan olygyddiaeth yr Athro Jac L. Williams) at wasanaeth dysgu amryw destunau trwy gyfrwng y Gymraeg. Traddododd yr Athro Jac L. Williams a Mr. C. J. Dodson ddarlithiau ar 'Addysg Ddwyieithog' yng nghyfarfod- ydd y Gymdeithasfa Gymreig yn Aber- ystwyth ym mis Medi. Biocemeg a Biocemeg Amaethyddol. Estynna'r Adran longyfarchion i Mr. David John Thomas (cyn-fyfyriwr yn yr Adran, 1950-53) ar ei benodi'n Brifathro Ysgol Gyfun Aberaeron. Bu Mr. Thomas yn bennaeth yr Adran Gemeg yn yr ysgol am rai blynyddoedd a bu'n wasanaethgar iawn ynglyn â mudiadau ieuenctid led-led de-orllewin Cymru. Bu hefyd yn aelod dylanwadol o Banel Cemeg y Cyd-Bwyllgor Addysg Cymreig a'i is-bwyllgorau. Bu myfyrwyr yr ail flwyddyn ar gyfres o ymweliadau â chanolfannau ymchwil dan arweiniad yr Athro King a'r Drd. B. H. Davies, D. J. Hopper, Ian Mercer a Lyndon Rogers. Y mae hyn yn arferiad blynyddol yn yr Adran a rhydd gyfle i'r myfyrwyr flasu awyrgylch ymchwil mewn prifysgolion eraill, ysgol- ion meddygol a chanolfannau ymchwil cwmnïau masnachol. Derbyniwyd nifer o fyfyrwyr Bioleg a Gwyddor Gwlad o Goleg y Drindod, Caerfyrddin, ar ymweliad addysgol â'r Adran. Trefnwyd darlithiau ac arddan- gosfeydd arbrofol ar eu cyfer mewn testunau cysylltiedig â Gwyddor Pridd, Porthiant Anifeiliaid a Bioleg heblaw mynd â hwy ar ymweliadau â Chanolfan