Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COLEG PRIFYSGOL CYMRU, ABERYSTWYTH UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: Syr GORONWY H. DANIEL, K.C.V.O., C.B., D.PHIL. CYRSIAU GRADD Darperir cyrsiau yng nghyfadrannau'r Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Gwyddor Gwlad, y Gyfraith, Cerddoriaeth, ac Astudiaethau Economaidd a Chymdeithasol. Mae'r holl Adrannau Gwyddoniaeth yn awr mewn adeiladau modern, digonol eu hoffer a'u celfi. CYRSIAU DIPLOMA Diplomâu mewn Addysg, Gwyddor Gwlad, Ystadegaeth, Ffiseg yr Awyrgylch, Ffiseg Electronig, Mathemateg Bur, Micropalaeontoleg, Palaeograffeg, Cyfraith a Chydberthynas y Gwledydd, Addysg Ddwyieithog. YMCHWIL Darperir ar gyfer graddau uwch ym mhob pwnc. Yn yr holl adrannau Gwyddoniaeth Bur a Gwyddor Gwlad mae ysgolion ymchwil grymus, a gynhelir gan grantiau o ffynonellau gwladol a phreifat. LLYFRGELLOEDD Yn Llyfrgell y Coleg mae dros 240,000 o gyfrolau rhwymedig, gan gynnwys casgliadau arbenigol a chyfnodolion. Ceir cyfleusterau digymar ar gyfer pob pwnc yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. YSGOLORIAETHA U Dyfernir nifer fawr o ysgoloriaethau ar ganlyniadau arholiad a gynhelir ym mis Ionawr. Nid yw dal un o'r ysgoloriaethau hyn yn lleihau dim ar y grant y bo myfyriwr yn ei dderbyn oddi wrth awdurdod addysg lleol. NEUADDAU PRESWYL Mae gan y Coleg bum neuadd i ddynion (yn un ohonynt, a orffennwyd yn 1960, ceir lIe i 250) a phum neuadd i ferched (lle i 600 o ferched), ynghyd â neuadd newydd (gymysg) i'r myfyrwyr hyn. PROSPECTUS Gellir cael Prospectus y Coleg, Llawlyfr Cymraeg, a gwybodaeth bellach oddi wrth y Cofrestrydd. COLEG PRIFYSGOL ABERTAWE UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: F. LLEWELLYN-JONES, C.B.E., M.A., D.PHIL., D.SC., F.INST.P. Darperir y cyrsiau canlynol i fyfyrwyr gwyddonol: (a) Graddau Prifysgol Cymru mewn Gwyddoniaeth Bur a Gwyddoniaeth Gymwysedig. (b) Diploma'r Coleg mewn Ffiseg Fathemategol. (c) Diploma'r Coleg mewn Cartograffi. (ch) Diploma'r Coleg mewn Peirianneg Gemegol. Mae'r cyrsiau yng Nghyfadran Gwyddoniaeth Bur yn cynnwys Athroniaeth, Seicoleg, Economeg, Mathemateg Bur, Ystadegau, Mathemateg Gymwysedig, Ffiseg, Cemeg, Daeareg, Daearyddiaeth, Botaneg, Swoleg, Geneteg, Microbioleg ac Eigioneg. Mae'r cyrsiau yng Nghyfadran Gwyddoniaeth Gymwysedig yn cynnwys Peirianneg Sifil, Trydanol, Mecanyddol, Technoleg Cyfrifyddol a Diwydiannol, Peirianneg Gemegol, a Meteleg. Ceir Neuaddau Preswyl ar gyfer dynion a merched. Dyfernir Ysgoloriaethau Derbyn bob blwyddyn ar sail canlyniadau arholiadau lefel 'A'. Gellir cael manylion pellach oddi wrth y Cofrestrydd.