Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Golygyddol l-A ês i dair gwlad na fûm ynddynt o'r blaen yn ystod yr wythnosau diwethaf, sef De Affrig, wstralia ac India. Roedd yn ddiddorol sylwi mor agos mae'r sefydliadau ymchwil yr ymwelais á nhw yn adlewyrchu naws y gwledydd gwahanol hyn. De Affrica Yn Pretoria, mewn lle bach yn y mynyddoedd, mae Gorsaf Ymchwil Ynni Atomig De Affrig, scf Pelindaba. Yno yn fy nghroesawu roedd Cymro â llond ceg o Gymraeg ganddo, Dr. Austin Thomas, sy'n awr wedi ymsefydlu yn y wlad newydd, ond yn wreiddiol o Lansamlet, ger Abertawe. Fe ddaethant yn weddol hwyr i ymchwil ynni niwclear, ac felly medrant fanteisio ar y camgymeriadau a wnaethom ni a'r Americanwyr yn arbennig. Ni lwyddwyd i harnesio ymbelydredd ar gyfer cadw bwyd, diheintio cyffuriau, i ddechrau adweithiau cemegol, etc., ym Mhrydain, ac oherwydd y methiant bu'n rhaid cau y Sefydliad Ymchwil yn Wantage. Collwyd y brwdfrydedd cynnar ac aeth llawer o waith ymchwil sylfaenol yn y maes yn ofer. Ond yn Ne Affrig addaswyd y gwaith ar gyfer anghenion arbennig y wlad. Mae rhai o'u ffrwythau trofannol yn cael eu difetha gan gynrhon, ac fel canlyniad mae'n amhosibl eu hallforio ar raddfa eang. Gydag ymbelydredd gellir osgoi hyn. Mae eu pellter yn newid economeg y diwydiant cemegol, ac os gellir sefydlu'r broses gynhyrchu yno, mae hyn yn bwysicach na'r ychydig mae'n gostio dros ben y broses debyg yn Ewrop. Felly yma eto maent wedi harnesio ynni niwclear. Maent hefyd wedi datblygu math newydd o goncrit y gellir ei ddefnyddio i wneud propiau dan ddaear. Drwy gyfuno concrit a pholymerau, mae'n bosibl osgoi y toriad sydyn all ddigwydd pan fydd concrit yn cael ei orlwytho. Llewyrchus felly oedd y sefydliad a brwdfrydedd amlwg ymhlith y gwyddonwyr, tra mae'r maes hwn bron ar ben yma. India I Adran Gemeg Prifysgol Bombay yr ês yn yr India i gyfarfod hen gyfaill sydd yn awr yn bennaeth yr Adran, yr Athro E. H. Daruwalla. Cofiaf yn dda am ei ymweliad â ni yng Nghaerdydd ddeng mlynedd yn ôl. Parsee ydyw ac felly mae'n addoli tân. Wedi cymharu manylion ein crefydd ni â'i ddaliadau ef, roedd yn syndod gymaint sy'n gyffredin rhyngddynt. Purdeb, glendid, He parhaol ar ôl profi'r tân; mae ysmygu yn bechod gan ei fod yn camddefnyddio tân. Ond roedd un arferiad o'u heiddo na allwn ddygymod ag o rwy'n ofni, sef gadael fy nghorff marw ar ben twr uchel er mwyn i'r adar rheibus fwydo arnaf. Mae gennym ein dau ddiddordeb yn effeithiau golau ar gotwm, yn arbennig pan fo wedi ei liwio. Mae lliwur yn amsugno'r goleuni ac mae'n peri wedyn i'r cotwm bydru. Buom ein dau yn cydweithio yn y maes yn New Orleans yn 1963. Bellach mae cotwm wedi tyfu mewn pwysigrwydd oherwydd prinder a chost cynyddol y polymerau synthetig. Mae gan India ddigon o'r defnydd yma, ond ei gwyn oedd fod Japan yn ei brynu i gyd am bris hollol afresymol. Mae yn awr yn cydweithio gyda'r llywodraeth i geisio moderneiddio'r diwydiant cotwm fel y gallant gael digon ar gyfer eu anghenion nhw a hefyd ei allforio i ennill yr arian parod holl bwysig i'w heconomi. Rhaid i mi gyfaddef mai teimlad o anobaith llwyr a gefais tra'n crwydro Bombay. Mae'r boblogaeth yno yn awr yn 6.5 m., ac yn cynyddu'n gyflymach nag unrhyw ddinas bron iawn yn y byd. Mae'r brodorion yn Affrica yn ymddangos yn gyfoethog mewn cymhariaeth â'u brodyr yn yr India. Plant yn cael eu gosod allan i gysgu ar y palmant bob nos, eraill yn fwriadol yn cael eu hanffurfio er mwyn iddynt fedru begera'n broffidiol. Holl garthion y ddinas yn ogleuo'n ddifrifol yn yr haul poeth. Mae prisiau hanfodion bywyd yn afresymol o uchel, fel bod llawer iawn yno yn proffwydo bod chwyldro yn anochel. Nid rhyfedd i Ghandi ddweud bod gan India 500 miliwn o broblemau na wyr gwledydd Ewrop ddim amdanynt. Pwy all eu beio am droi i unrhyw