Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llwybrau Cymru David Davies ydoedd prifathro Ysgol Gynradd Rhandirmwyn cyn iddi gau, ac mae'n awr yn Ysgol Gynradd Cynghordy. 0 FEWN rhyw filltir i Lyn Brianne, ar y ffordd o Lanymddyfri, yng ngogledd sir Gaerfyrddin, teithia'r ymwelydd gydag ymyl bryn coediog Dinas, gyferbyn â fferm Ystradffin a gerllaw hen Gapel Peulin. Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar yw perchen y bryn hwn bellach, ac mae'r hen lwybr sy'n ei amgylchynu yn Llwybr Natur erbyn hyn. Dyma lwybr diddorol iawn, ac un nodedig am brydferthwch y golygfeydd o'i gwmpas ac am ei fywyd gwyllt cyfoethog. Mae'r llwybr yn dilyn yr afon Tywi ar hyd rhan o'r ffordd, ac yma mae'r afon yn gul ac yn disgyn yn wyllt dros feini mawrion a ryddhawyd o'r clogwyni Silwraidd uwchben. Drwy'r dwr gwyllt hwn y llama'r eog yn ôl ei reddf i'w hen gynefin. Gwelir yma adar nodweddiadol o afonydd yr ucheldir, gan gynnwys Pibydd y Dorian, Bronwen y Dwr a'r Siglen Lwyd. Ac efallai y daw'r barcud i hedfan yn ham- (ldenol uwchlaw'r gelltydd derw. Mae'r dderwen n drigfan i nifer o wahanol rywogaethau o DAVID DAVIES drychfilod sy'n rhoi cyflenwad helaeth o fwyd i adar bach niferus y goedwig, megis y Gwybedog Brith a Thelor yr Helyg a Thelor y Coed. Nid yw'r Rhedyn Teneuwe (Hymenophyìlum wilsonii) yn tyfu ond i fodfedd neu ddwy o daldra a glynant yn sicr wrth y creigiau noeth. Yn wir mae'r rhedyn hyn yn debycach i fwsogl nag i ddim byd arall. Ar dir llaith ym mis Awst ceir clychau gleision y Clychlys Eiddew (Wahìenbergia hederacea) ynghyd â'r planhigyn rhyfedd hwnnw sy'n dal trychfilod, sef y Gwlithlys Cyffredin (Drosera rotundifolia). Fe ddylai'r teithiwr ddringo'r creigiau hefyd, i weld Ogof Twm Sion Cati. Er bod 'Ystafell Twm', fel y'i gelwir yn lleol, yn siomedig fel ogof gan nad yw ond hollt yn y graig, gall yr ymwelydd wledda ar amrywiaeth o olygfeydd sy'n anodd rhagori arnynt. Mae llyfryn Cymraeg, sy'n rhoi manylion o'r llwybr, ar werth gan y Warden.