Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Âmlffurfiaeth Etifeddegol mewn Meddygaeti Darlith Goffa Gyntaf Walter Idrís Jones DAVID A. PRICE EVANS, (Athro Adran Feddygaeth Prifysgol Lerpwl) Diffiniad Gellir cael amlffurfiaeth nad ydyw yn etifeddegol; e.e. cymerwch ddau frawd o Aberystwyth, ac anfonwch un i Awstralia am wyliau ym mis Ionawr tra erys y llall gartref. Wedi i'r brawd hedfan adref o'i wyliau bydd ei groen yn dangos lliw haul tra fo'r un arhosodd gartre'n welw. Dyma amlffurfiaeth-ond yr amgylchedd yn unig sy'n gyfrifol amdano. Wedyn rhaid ystyried y gwahaniaeth rhwng croen y Negro a'r dyn gwyn. Y mae'r lliw yma'n dibynnu ar etifeddeg. Er hynny nid yw'r gwahan- iaeth hwn yn syrthio dan y disgrifiad arferol o amlffurfiaeth etifeddegol am y rheswm fod lliw croen epil dyn Negroaidd a dynes wen yn gallu amrywio o fod bron yn wyn i fod yn dywyll iawn. Diffiniwyd amlffurfiaeth etifeddegol gan Ford (1940) fel math o amrywiad lie y mae unigolion gyda phriodoleddau sydd yn ddiamheuol wahanol yn cyd-fyw fel aelodau normal o'r boblogaeth. Yr enghraifft fwyaf adnabyddus i bawb yw'r grwpiau gwaed cyffredin a ddarganfyddwyd gan ARBROFION I WELD PA FFURF O'R GWYFYN BISTON BETULARIA A DDYGIR GAN ADAR oddi AR RISGL o WAHANOL LIW Rhif yr arbrawf Lliw y rhisgl Rhoddwyd Dygwyd Rhoddwyd Dygwyd ar y gan ary gan 1 Tywyll 70 31 70 12 2 Golau 92 18 Tywyll 92 8 3 Golau 40 8 40 18 4 Golau 32 7 Tywyll 32 15 Addaswyd o Clarke & Sheppard (1966). Landsteiner (1901) lle y mae unigolion yn gwahan- iaethu, h.y. y mae amrywiaeth, ond dim ond mewn dosbarthiadau pendant, sef O, A, B, ac AB. Y mae'r rhain wrth gwrs yn cael eu rheoli gan dri genyn fel y dangosodd Bernstein (1924). Trefniant Cyfundrefnol Ymddengys mai trefniant yw amlffurfiaeth etifeddegol i sicrhau parhâd yr hil. Pan fo mwy nag un ffurf o greadur ar gael yna fe all un ffurf fod ag amgenach gallu i wrthsefyll rhyw gyfnewid- iad anffafriol yn yr amgylchedd. Y mae hyn yn cael ei arddangos yn eglur yn y gwyfyn Biston betularia. Rhyw frych-olau yw ffurf gyffredin y gwyfyn, ond tua chanol y ganrif olaf gwelwyd ffurf ddu yng nghyffiniau Manceinion. Ymhen amser darganfyddwyd fod y lliw yn cael ei reoli gan ddau enedyn a bod y ffurf du yn llywod- raethol ar y ffurf olau wreiddiol a ddaeth yn lleiafrif y boblogaeth mewn rhai mannau, e.e. yn Swydd Gaerhirfryn. Y mae'r gwyfyn yma yn flasusfwyd i adar ac ystlumod. TABL I Ffurf Nodweddiadol Ffurf Ddu (golau) (carbonaria) rhisgl adar rhisgl adar