Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

iddo egni. Os trefnir nerth y llanw fel bod egni y planedau yn iawn, yna mae ganddynt rhy ychyo o o fomentwm onglog, ond os bydd y momentwm onglog yn iawn, yna bydd gan y planedau ormod o egni, a byddant yn dianc o'r system. Yn ôl Russell 'does ond dau ddewis, un ai mae'r planedau n dychwelyd i'r haul (dim digon o fomentwm onglog) neu maent yn dianc yn gyfangwbl (gormod o egni). Yn ddiweddar fe astudiodd Lyttleton yr un broblem gyda chymorth cyfrifydd electronig a daeth i'r un casgliad â Russell. Felly fe fetha damcaniaeth y llanw ar yr union bwynt lle yr ymddeng /s gryfaf ar yr olwg gyntaf, sef proffwydo orbit cywir i'r planedau. Mae'r trydydd pwynt ychydig yn fwy technegol. Os daw'r mater i ffurfio'r planedau allan o'r haul, yna bydd yn boeth iawn. 'Nawr mae gwahaniaeth rhwng nwy poeth a nwy oer. Gyda nwy oer nerth disgyrchiant ydi'r nerth pwysicaf ac felly fe grebacha'r nwy, ond gyda nwy poeth, mae ei egni thermal yn fwy nag egni disgyrchiant ac felly fe ehanga. Dangosodd Spitzer bod cyfradd ehangu yn llawer cyflymach na chyfradd oeri, felly nid torri'n ddarnau hyd Jeans a chrebachu a wna'r rhuban a dynnwyd o'r haul ond ehangu drwy'r gwagle. Oherwydd y tri anhawster uchod a hefyd, wrth gwrs, y pwynt ynglyn â chyfansoddiad y planedau, rhaid felly gwrthod Damcaniaeth y Llanw yn y ffurf yr honnwyd hi gan Jeans a Jeffreys. Damcaniaethau Lyttleton Tua dechrau'r rhyfel byd diwethaf cyhoeddwyd damcaniaeth ychydig yn wahanol gan Lyttleton. Yn lle cysidro'r haul fel seren unigol, honnodd Lyttleton mai seren ddwbwl oedd yr haul ar y dechrau (mae tua hanner y sêr yn rhannau o sêr dwbwl, felly 'does dim anghyffredin yn yr honiad hwn). Unwaith eto ystyrir bod seren arall wedi pasio yn agos at yr haul. Y tro yma, fodd bynnag, disgyrchiant yr ail seren yn y seren ddwbwl sy'n codi llanw, a hi sydd yn colli mas fel rhuban. Oherwydd y gwrthdaro fe ddihanga yr ail seren o gyffiniau yr haul ar ôl hyn gan adael yr haul fel seren sengl gyda rhuban o'i hamgylch. Honnwyd bod y planedau wedi'u ffurfio o'r rhuban fel yr awgrymwyd gan Jeans a Jeffreys. Yn y ffordd yma llwyddwyd i ddod dros wrthwynebiadau Nolke a Russell ond fe ymddengys bod gwrthwynebiad Spitzer yn aros. Erbyn hyn, fodd bynnag, 'roedd gwyddonwyr yn dechrau meddwl bod y sefyllfa yn anfoddhaol os oedd creu y planedau yn dibynnu ar ddamwain o gael seren arall yn digwydd dod yn agos at yr haul. Cafwyd felly ddamcaniaeth newydd gan Lyttleton. Unwaith eto, rhan o seren ddwbwl yw'r haul ar y cychwyn. Yn awr, fodd bynnag, honnir bod yr ail seren yn dilyn cwrs cyffredinol pob seren sy'n datblygu. Yn y man felly fe ddatblyga yn nova. Ar ôl y ffrwydriad hwn fe ddaliwyd ychydig o fater gan yr haul ac fe gyddwysa y planedau allan o'r mater hwn yn yr un ffordd ag a ddamcaniaethwyd gan Jeans a Jeffreys. Un broblem gyda'r ddamcaniaeth yma yw yr erys yr ail seren yng nghyffiniau'r haul, a 'does dim golwg am seren arall gyda'r haul heddiw. Oherwydd hyn honnodd Hoyle mai ffrwydriad supernova ac nid ffrwydriad nova a ddigwyddodd yn yr ail seren. O ganlyniad, 'does dim seren yn weddill ar ôl y ffrwydriad. Mae'n ymddangos i'r awdur, fodd bynnag, bod gwrthwynebiad Spitzer yn dal i fod yn wir a hefyd wrth gwrs y gwrthwynebiad ynglyn â chyfansoddiad cemegol y planedau. Ar ôl y rhyfel byd diwethaf cynigiwyd damcaniaethau eraill, rhai nad ydynt yn dibynnu o gwbwl ar bresenoldeb seren arall er mwyn cael y mater i ffurfio y planedau. Byddwn yn disgrifio rhai o'r damcaniaethau hyn mewn erthyglau sydd i ddilyn. O ystyried felly, ni fu fawr o ddatblygu yn y damcaniaethau o'r creu am amser maith. Yn wir, yr unig waith o bwys sydd wedi cael ei wneud yn ddiweddar ar y math yma o ddamcaniaeth ydyw gwaith Woolfson yn Efrog. A bod yn deg â Woolfson, nid datblygu hen ddamcaniaeth a wnaeth ond creu damcaniaeth newydd sydd yn cymryd i mewn iddi rai o syniadau Jeans a Jeffreys, Lyttleton a Hoyle. Mae Woolfson wedi sylweddcli hefyd bod yn rhaid cael ateb i wrthwynebiad Spitzer a gwrthwynebiadau Nolke a Russell.