Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dr. William Thomas, C.B., LL.D. yn sgwrsio â John Bowen J.B. Dr. Thomas, yr ydych yn frodor o Ogledd Sir Benfro ac fe'ch clywais yn sôn nad yw eich cofion am ddyddiau ysgol ar ddechrau'r ganrif yn rhai cynnes iawn. Beth oedd i gyfrif am hyn? w.t. 'Roedd yr ysgol yn rhywbeth dieithr yn ein mysg heb gyswllt agos â'r ardal. Wedi gadael adran y babanod 'roedd bywyd yr ysgol yn an- naturiol iawn; popeth yn Saesneg a dim gair o Gymraeg a hynny mewn ardal drwyadl Gymreig. Synnais ryw dro wrth glywed yr ysgolfeistr yn siarad Cymraeg mewn cyfarfod yn y pentre; wyddwn i ddim cyn hynny ei fod yn medru! Cyffelyb oedd y sefyllfa yn Ysgol Sir Arberth- dim Cymraeg a dim sôn am Gymru na'i llenydd- iaeth na'i hanes na'i daearyddiaeth na'i diwydiant. Saeson o 'down below — sef 'gwaelod y sir'-oedd mwy na thri chwarter y plant ac yr oeddem ni Gymry o ysgolion Mynachlogddu, Maenclochog, Nantycwm a Brynconin yn lleiafrif bach a ystyrid ganddynt yn rhyw fath o ddinasyddion eilradd, ac yr oedd agwedd yr athrawon bron cynddrwg. J.B. Daethoch yn las-fyfyriwr i Goleg Aber- ystwyth yn Hydref, 1909, ac fe'ch dilynwyd yno gan Dr. Richard Phillips ymhen blwyddyn. Mae e'n dweud amdanoch 'Heb unrhyw amheuaeth, y cemegydd gorau yn ein plith oedd Bill Thomas myfyriwr deallus, mentrus a di-ofn ac am brofi holl fendithion bywyd coleg yr oes honno.' Beth oedd rhai o'r bendithion y mae e'n cyfeirio atynt? W.T. Wel mae Dic wrth gwrs yn greadur caredig dros ben ond rhaid ichi beidio derbyn ei sylwadau ar fy nghemeg i'n hollol llythrennol. Y bendithion? Wel, cefais bum mlynedd hapus, llawn iawn yn Aberystwyth mewn gwaith a chwaraeon. Yr oeddwn yn cymryd rhan yn y dramâu a'r 'Lit. and Deb. yn aelod o'r tîm rygbi (cefais gap yn hwnnw) ac o'r tîm rhwyfo ac enillais y bencampwriaeth gymnasteg. Cefais hwyl fawr hefyd yn y Corftlu Hyfforddi Swyddogion (O.T.C.) yn enwedig yn y gwersylloedd haf ac yr oeddwn yn uwch-ringyll cyn gorffen ynddo. Yn Aberyst- wyth y cyfarfum â'r wraig ac imi hwn oedd y coleg gorau yn y byd. J.B. Gwn bod Roger Thomas, o Landysilio, yn gyd-letywr ichi (Syr Roger Thomas yr arben- igwr amaethyddol enwog ym Mhacistan wedyn). A oedd arwyddion datblygiad personoliaeth mar- chog i'w gweld ynddo pryd hynny? w.T. Yr oedd pen da iawn ar Roger; bachgen deallus a digon gwrol i gymryd cyfrifoldeb y byddai llawer ohonom efallai yn barod i'w osgoi. Yr oedd ganddo hunan-hyder neilltuol, hunan- hyder iach yn seiliedig ar allu uwch na'r cyffredin. Aeth o Goleg Aberystwyth i'r Gwasanaeth Sifil yn yr India, yna i swydd amaethyddol ym Meso- potamia ac oddiyno i Bacistan lle y bu'n cyfar- wyddo gwaith arloesi gwerthfawr iawn mewn amaethyddiaeth. Yr oedd Roger yn llawn haeddu pob anrhydedd a ddaeth i'w ran. J.B. Yr unig adeilad yn y Coleg pryd hynny a adeiladwyd yn unswydd at ei ddiben oedd Labordai Cemeg newydd sbon Edward Davies; rhodd haelionus teulu Llandinam. Yr Athro John Joseph