Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hefyd. A ydych yn credu bod cyfle'r athrylith unigol anghydffurfiol mewn ymchwil yn mynd i ddiflannu ? w.t. Rwy'n credu bod hyn yn wir i raddau ymhob cangen o fywyd erbyn hyn. Mae cyfle'r athrylith unigol yn gwanhau i fesur helaeth. Nid oes iddo'r un rhyddid ag o'r blaen na'r un maes agored i ddewis ohono. j.b. Ydych chi'n gresynnu wrth feddwl am hynny ? w.t. Ydw'. Meddyliwch am Adroddiad Roths- child ar waith ymchwil yn argymell canolbwyntio ar broblemau 'defnyddiol' Mae rhai o'r pethau 'defnyddiol' gorau a feddwn wedi tarddu o waith ymchwil heb ddim byd ymarferol yn perthyn iddo o gwbl. Ymffrostiai'r Arglwydd Rutherford ar un achlysur cofiadwy mai'r peth braf ynglŷn â'i ymchwil ar yr atomau oedd y ffaith nad oedd yn debyg o fod o unrhyw ddefnydd i neb byth. Mae 'byth' yn llawer agosach nag y gwyddom weithiau! j.b. Rhaid bod gwahoddiad Findlay ichi i ymuno â'i staff yn adran gemeg Aberdeen wedi rhoi cryn foddhad ichi? w.t. Do. Pan glywodd Syr William am hyn fe gynigiodd swydd Demonstrator imi yng Nghaer- grawnt a cheisio f'argymell i aros. Ond gan fy mod wedi cael gwahoddiad-nid gwneud cais am y swydd-ac wedi ei dderbyn, teimlwn ei bod yn amhosibl imi dynnu nôl wedyn yn anrhydeddus. j.b. Ai yn Aberdeen y dechreuoch 'sgrifennu'r llawlyfr ar 'Halwyni Cymhleth'? w.t. Yr oeddwn wedi astudio gwaith Alfred Werner yn drwyadl at bwrpas fy ymchwil ac o ganlyniad 'roedd gennyf doreth o nodiadau ar y pwnc. Yn Aberdeen fe'u trefnais yn llawlyfr ac fe gafodd dderbyniad da am rai blynyddoedd. LB. Hyd hynny 'doedd dim ar gael, ond mewn Almaeneg, yn trafod syniadau chwyldroadol Werner. Oeddech chi'n ymwybodol o gwbwl ar y pryd eich bod yn cyfrannu rhywbeth hanesyddol bwysig at lenyddiaeth gemegol Seisnig? w.t. Nac oeddwn wir. Gwyddwn fod y pwnc yn un pwysig ac nad oedd llyfr Saesneg ar gael arno a phenderfynais y gallai llawlyfr fod o ryw help i fyfyrwyr yn y wlad yma o bosibl. т.в. Yn ddiamau fe fu o help mawr oherwydd cofiaf yn dda imi ei ddefnyddio ymhen deng mlynedd wedyn a dyna'r unig ffynhonell eglur a chryno oedd at ein gwasanaeth ni fyfyrwyr an- rhydedd ar y pryd. Mae'n ffasiynol i gymharu colegau Aberystwyth a Sant Andreas fel dau sefydliad cyffelyb iawn. Oedd yna unrhyw debygrwydd rhwng Aberdeen ac Aberystwyth o ran maint ac awyrgylch? w.T. Yr oedd cyfanrif myfyrwyr Aberdeen tua dwbl rhif Aberystwyth. Ar wahân i hynny yr oedd cymdeithas ac ysbryd y Coleg yn Aberdeen yn debyg iawn i Aberystwyth. J.B. Yn ôl eich tystiolaeth eich hun yr oeddech chi a'ch teulu'n hapus iawn yn Aberdeen, eto symud a wnaethoch yn 1927 i fod yn Brifathro Coleg Technegol newydd Wrecsam. Beth a'ch cymhellodd? Ai awydd dod nôl yn nes adre i Gymru neu awydd am droi at weinyddiaeth-at y swyddfa yn hytrach na mainc y labordy? w.t. O nage. Yr oeddwn wedi sylwi bod bron pob athro cemeg prifysgol yn y wlad yn ddyn ifanc ac yr oeddwn eisoes wedi cynnig am gadair cemeg ym Mryste ac yn Cape Town a dod yn ail yn y ddau le. Yr oedd si gref ar led pryd hynny y deuai Coleg Technegol Wrecsam yn gysylltiedig â Phrifysgol Cymru'n fuan iawn. Er na ddisgwyliwn benodiad yn brifathro yr oeddwn yn gobeithio efallai y byddai angen athro cemeg yno yn y dyfodol agos dan nawddogaeth y Brifysgol. Cam- syniad oedd hyn a gwelais yn fuan wedi mynd yno nad oedd cysylltiad agosach â'r Brifysgol yn debyg o ddigwydd. J.B. Yn 1928 fe'ch penodwyd yn arolygwr ysgolion. Ymhen pum mlynedd, yn 1933, fe gollodd cemeg prifysgol wr dawnus arall am yr un rheswm -Dr. Mathew Williams, Aberystwyth. Yr oedd y ddau ohonoch nid yn unig yn llwyddiannus ond yn eithriadol addawol am y dyfodol mewn meysydd ymchwil newydd a chyffrous. Beth a wnaeth ichi gefnu arnynt? w.t. Yr oedd cyfarwyddwr addysg Dinbych wedi f'argyhoeddi y byddai cyfle imi wneud peth ymchwil yn Wrecsam neu o leiaf i gyfarwyddo peth ymchwil ond nid felly y bu. Dylaswn fod wedi rhagweld yr amgylchiadau. Cefais fy siomi ac yr oeddwn yn barod i symud eto'n fuan a derbyn gostyngiad sylweddol mewn cyflog ar yr un pryd. Rhesymau teuluol a fu'n gyfrifol am ymadawiad Dr. Mathew Williams â'r Brifysgol ac fe barhaodd ei hiraeth am waith ymchwil yn fyw iawn am flynyddoedd maith. J.B. Fe dreulioch beth o'r chwarter canrif nesaf yn arolygwr ysgolion a'r gweddill yn Brif Arolygwr uchel ei barch yng Nghymru. I leygwr mae'r enw 'arolygwr' yn awgrymu awdurdod, beirniadaeth,