Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Debygwn AR WYDDONIAETH HEDDIW 0. E. Roberts Y Ffrwydriad Mawr Y mae ar y Ddaear heddiw bron 4,000m o bobl, 1le nad oedd ond rhyw 5m dros holl wyneb y tir ddeng mil o flynyddoedd yn ôl. Er nad yw hyn ond cyfnod byr iawn yn hanes ein planed ac mai araf iawn y cynyddodd y boblogaeth yn y dechrau, daeth tyfiant cymharol sydyn a bygythir ni'n awr â'r posibilrwydd o 7,000m o leiaf erbyn diwedd y ganrif hon. Prin bod gan boblogaeth wasgarog a chrwydrol Oes Gynnar y Cerrig unrhyw effaith ar yr amgyl- chedd ond bydd gan bron 60 o bobl ar bob cilomedr sgwâr ddylanwad aruthrol o ddinistriol, heb gyfrif y peryglon o newyn mawr, epidemig byd-lydan ac ansicrwydd gwleidyddol a arweiniai i aflony- ddwch byd-eang a rhyfel niwclear. Wedi i ddyn cyntefig ganfod amgenach ffordd o fyw na chasglu bwyd ar hap a hela ansicr, ymsefyd- lodd mewn ardaloedd ffrwythlon, tua'r Dwyrain Canol yn arbennig, i drin y tir, dofi a magu anifeiliaid, codi clwstwr o dai ynghyd yn bentrefi ac yna'n drefi â'u cymdeithas mor hynod o gymh- leth o'i chymharu â'r bywyd syml gynt. Yr oedd bywyd sefydlog o'r fath yn ddiogelach na dibynnu ar hela a mwy o sicrwydd bara beunyddiol yn deillio o gyfundrefn amaethyddol. Llwyddodd dyn i raddau helaeth i feistrioli ei amgylchedd ac addasu amgylchiadau i'w bwrpas ei hun. Golygodd hyn bod cyfartaledd oes dyn yn hwy a bod ych- wanegiad sylweddol a pharhaol i'r hil. Erbyn tua dwy fil o flynyddoedd yn ôl yr oedd oddeutu 140m o bobl ar y Ddaear. Prin bod cyfnewidiadau trawiadol yn y ffordd o fyw yn ystod y deg canrif nesaf ac arhosodd y boblogaeth bron yn yr unfan, ond wedi hynny dat- blygodd llwyddiant economaidd dinasoedd mawr- ion a thaleithiau bychain Ewrop ac yr oedd y cyfan yn ffafrio cynnydd y boblogaeth a chyrhaeddwyd 500m yn 1650. Arweiniodd y deffro technolegol a'r wybodaeth wyddonol i'r Chwyldro Diwydiannol yn Ewrop, ac SAFBWYNT PERSONOL yno, yn hytrach nag yn unlle arall yn y byd yr adeg honno, y bu'r cynnydd amlycaf mewn pobl, a gododd y rhif i 1,000m yn 1820. Lledaenodd effeithiau'r Chwyldro i America a chyfandiroedd eraill ac wele ddyblu'r boblogaeth yn y can mlynedd nesaf, i roi 2,000 yn 1950. Aeth ar garlam o hynny ymlaen, i 3,000m erbyn 1960, 3,600m yn 1970 a'r amcangyfrif yn 4,300m erbyn 1980. O roi 6,000 C.C. fel cyfnod Oes Newydd y Cerrig, dyna'n fras wyth mil o flynyddoedd cyn i boblogaeth y Ddaear gyrraedd y 1,000m cyntaf. Yr oedd canrif yn ddigon (1820-1925) i gyrraedd 2,000m, dim ond 35 mlynedd yn rhagor i gyrraedd 3,000m, a phymtheng mlynedd wedyn dyna'r rhif yn 4,000m. Erbyn diwedd y ganrif hon, yn ôl y tueddiadau presennol, bydd saith mlynedd yn unig yn ddigon i ychwanegu 1,000m eto o bobl. Cyfraniad y gwyddonydd a'r meddyg Mae'n amlwg bod cyfraniad y gwyddonydd a'r meddyg tuag at ddyrchafu safonau byw ac i leihau marwoldeb yn cyfrif i raddau helaeth iawn am y twf arswydus yn y boblogaeth. Nid yw'r hil ddynol ddim ffrwythlonach na chynt ond y mae cefnu ar y bywyd crwydrol cyntefig wedi golygu llai, ar gyfartaledd, o bobl yn marw'n gynamserol- marw'n ddamweiniol, yn ysglyfaeth i anifeiliaid gwyllt, dyweder,-a bod sicrach cyfle am fwyd a chysgod wedi rhoi gwell magwraeth i fabanod a phlant. (Wrth gwrs, nac anghofier bod heidio ynghyd yn y trefi wedi rhoi amgenach cyfle i ami epidemig ddegymu'r bobl.) Trwy achub y plant daw rhif y rhai mewn oed mewn unrhyw boblogaeth yn uwch nag o'r blaen, y plant eu hunain yn tyfu yn rhieni lluosocach i epilio ac ychwanegu eto at y rhif. Hyd yn oed yn 1750 nid oedd oes ddisgwyliedig dyn yn Ewrop yn ddim hwy na 35 mlynedd, 50 yn 1900, ond y mae bron yn 70 erbyn hyn. Sicrhaodd amgenach cyflenwad o