Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dan ormes hen arferion na welwn ni synnwyr ynddynt. Deil rhai pobl o'r fath mai sicrhau'r dyfodol yw magu llawer o blant, bechgyn i weithio a merched i'w cyfnewid am dda-byw adeg eu priodas. Myn rhai eithafwyr nad yw'r holl gynllunio yn ddim ond cynllwyn y gwledydd mawr i gadw'r isel-radd rhag epilio. Oherwydd hyn a ellir hyrwyddo unrhyw bolisi o gadw rhif y bobl yn isel heb orfodaeth? A yw'r gallu i gadarnhau'r fath orfodaeth yn eiddo i unrhyw lywodraeth democrataidd? Eto, onid arefir graddfa'r ymchwydd, a oes dyfodol i wareiddiad ? Agweddau moesol a chrefyddol Nid problem wyddonol a meddygol yn unig yw gorboblogi oherwydd y mae iddo agweddau moesol a chrefyddol. Deil Eglwys Rhufain i wrthwynebu gwrthgenhedlu a chred y Mwslim y ddihareb: "Bendithia Duw y rhai â llawer o blant". Gwelwyd yn ystod y ganrif hon wrthwynebiad cryf yn Lloegr i reoli geni, yn enwedig trwy foddion artiffisial, a hyd dair blynedd yn ôl defnyddiau pornograffig oedd moddion atal cenhedlu yn ôl deddf Ffederal yn y Taleithiau Unedig. Pwnc dadleuol yn awr yw erthyliad, ond onid gwell defnyddio unrhyw fath o wrthgenhedlu yn hytrach nag erthylu'r peth byw mewn gwlad wâr neu adael i blentyn farw o newyn mewn gwlad dlawd ? Ar egwyddorion moesol ni ellir cyfiawnhau ein byw bras yn y Gorllewin ac anwybyddu'r ffaith bod traean pobl y byd yn brin o fwyd. O'r ochr arall, chwyddo'r boblogaeth fwyfwy yw canlyniad cym- COLEG PRIFYSGOL GOGLEDD CYMRU, BANGOR UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: SYR CHARLES EVANS, M.A., D.SC., F.R.C.S Darperir cyrsiau gradd Prifysgol Cymru yng Nghyfadrannau'r Celfyddydau, Gwyddomaeth Diwinyddiaeth, a Cherddoriaeth. Mae'r cyfadrannau'n cynnwys testunau arferol curricula prifysgol, a cheir yn ychwanegol, ddarpariaeth arbennig mewn Ieithyddiaeth, Archaeoleg, Seicoleg, Peirianneg Electronig, Technoleg Defnyddiau, Bioleg y Môr, Cefnforeg, Coedwigaeth, ac Amaethyddiaeth. Rhoddir nifer o ysgoloriaethau bob blwyddyn mewn canlyniad i arholiadau a gynhelir yn yr ysgolion ym mis Mawrth. Y mae gan y Coleg bump Neuadd Breswyl â lle i fil o fyfyrwyr. Gellir cael manylion pellach a chopi o Brospectws y Coleg oddi wrth y Cofrestrydd. hwyso darganfyddiadau gwyddonol a meddygo Dyna falaria bron wedi llwyr ddiflannu o wla i Groeg, er bod yno 2m o ddioddefwyr yn 194; Yr oedd yaws yn heintiad nodweddiadol o nifer wledydd trofannol ond wele benisilin mewn chw blynedd yn ei ddileu o Haiti, lle'r oedd miliwn y.i dioddef cyn hynny. Ond ni fedrwn wrthod cyfranna er budd pobl y byd i gyd, dim ond hyderu y bydd y bygythiad o newyn yn ddigon i symbylu'r cenhed- loedd nad yw'n dda arnynt i gynhyrchu rhagor 0 fwyd. Ond sut? Sicrhaodd gwyddonwyr amaethyddol hadau a rydd amgenach cnydau a gwrteithiau cemegol llwyddiannus, chwynleiddiaid a phryfleidd- iaid, a phob cymorth posibl at gynhyrchu digonedd o fwyd ar gyfer rhagor o bobl nag sydd ar y Ddaear heddiw. Ond y mae'r cyfan mor ddrud i genhedloedd tlawd. Er bod gan wyddonwyr gynlluniau i ffermio'r moroedd, cynhyrchu protin o olew a thyfu algae ar raddfa eang, golyga hyn eto gostau aruthrol na all llawer gwlad eu hwynebu, boed ei phobl yn newynog ai peidio. Blwyddyn eto a bydd 76m o eneuau yn rhagor i'w bwydo. Dibynna maint y boblogaeth mewn unrhyw wlad nid yn unig ar y raddfa geni ond hefyd ar raddfa marwolaethau, ac os llwydda moddion iechydol a darganfyddiadau meddygol i estyn oes pobl ac ymestyn blynyddoedd yr oedrannus, a ellir cyfiawn- hau hyn yn y byd sydd ohoni ? Dichon mai anochel yw pla a newyn yn aml, ond, ar wahân i ryfel, dyna a all ddegymu'r bobl. Mater o ddewis yw erthylu, baban-leiddiad, euthanasia. Mater o raid yw rheoli geni.