Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Taflunio Stereograffìg a Pheirianneg Sifil ^ywbryd yn ystod ei yrfa y mae'n fwy na thebyg y caiff Peiriannydd Sifil ei wynebu â phroblem yn ymwneud â sefydlogrwydd llethr o ryw fath neu'i gilydd. Fel rheol, nid yw hyn yn achosi fawr o broblem iddo os yw'n ymwneud â Mecanyddiaeth Pridd; fodd bynnag os yw'n gorfod ymgodymu â chraig ni fyddai'n beth anarferol iddo geisio cymorth arbenigwr. Rhaid cyfaddef fod cryn wahaniaeth rhwng creu llethr mewn pridd neu sylwedd tebyg, rhagor na gwneud hyn mewn craig. Er hyn nid oes raid galw'r arbenigwr i mewn ar y cychwyn: gyda chymorth tafluniad stereograffig, gall y peiriannydd wneud arolwg syml o'r llethr a darganfod a yw'n ymylu ar fod yn gylchfa beryglus ai peidio; yna gall fynd â'r ddamcaniaeth ymhellach, a chwblhau'r gwaith. Wrth gwrs nid oes rhaid defnyddio tafluniad stereograffig yn yr ystyriaeth yma o sefydlogrwydd-gellir gwneud yr un peth yn union drwy gyfrwng graffiau cymhleth neu ddadansoddiad mathemategol. Mantais taflun- iad stereograffig yw y gellir ei ddefnyddio i symlei- ddio'r gwaith o gyflwyno ffeithiau a chyfrif-gan DYFRIG H. ROBERTS gofio wrth gwrs, fod rhywbeth syml yn haws i'w ddysgu i arall, yn ogystal â bod yn haws iddo ei ddefnyddio mewn gwaith beunyddiol. Nid oes dim byd yn newydd yn y ddamcaniaeth hon o daflunio: yr oedd y Groegiaid yn ei defnyddio yn yr ail ganrif C.C. a daeth yn boblogaidd hefyd ym maes crisialograffi. Gall plot stereo roi'r argraff ei fod yn rhywbeth hynod o gymhleth. Nid yw hyn yn wir, a phwrpas yr erthygl hon yw ceisio chwalu syniadau o'r fath, ac egluro, yn syml, sylfaen y ddamcaniaeth, gan obeithio y bydd yn symbyliad i ambell un i ddilyn y pwnc ymhellach, ac efallai ei ddefnyddio rywbryd yn y dyfodol. Tafluniad Stereograffig Sail tafluniad stereograffig yw y gellir diffinio unrhyw blân yn llwyr gan ei groesfan â sffêr, os yw canol y sffêr ar y plân. Byddai croesfan o'r fath yn creu Cylch Mawr, a phe byddai'r sffêr yn uned cyfeireb sefydlog, byddai'r Cylch Mawr yma yn diffinio gogwyddiad y plân a'i gyfeiriad (ffig. I). Ffìg.