Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

j 'nwau Cemegol yn Gymraeg Mewn cwrs ar gyfieithu gwerslyfrau gwyddonol i'r Gymraeg, yn Aberystwyth wedi'r Pasg 1973, bu grwp o athrawon Cemeg yn trafod enwau cemegol ac yn ceisio cytuno ar ffurfiau. Yn fuan wedyn daeth y Geiriadur Termau newydd o'r wasg (Gwasg Prifysgol Cymru 1973, f3; Golygydd: Jac L. Williams) ac yn sicr fe fydd y Geiriadur hwn yn gaffaeliad mawr i awduron ac athrawon, yn enwedig gan fod rhannau Cymraeg i Saesneg yn ogystal â Saesneg i Gymraeg ynddo. Nid dibrisio llafur y golygydd a'i gynorthwywyr yr ydwyf wrth awgrymu fod y Geiriadur eto yn anghyflawn, yn enwedig ynglýn ag enwau cemegol, ac weithiau yn anghyson (e.e. copr, t. 53; copor, t. 320). Yr wyf felly wedi casglu'r awgrymiadau o Aberystwyth at ei gilydd, gan geisio'u cysoni â'r Geiriadur Termau, fel y gellir eu hychwanegu at y Geiriadur. Byddwn yn falch o dderbyn unrhyw sylwadau tuag at wella'r awgrymiadau hyn. Mae'r ffaith fod dulliau newydd o enwi cemigion organig ac anorganig bellach yn lled gyfarwydd, ac fod galw am i ysgolion eu defnyddio yn rheolaidd, yn symleiddio peth ar y gwaith hwn, er fod rhai o'r hen dermau yn parhau mewn grym. Yr wyf wedi defnyddio'r dull newydd yma, gan nodi rhai o'r hen ffurfiau. Yn y maes organig mae cynifer o enwau fel na ellir ond awgrymu'r egwyddor i'w defnyddio wrth Gymreigio. Yr Elfennau Trwy dderbyn y ffurfiau Cymraeg cyfarwydd, haearn, plwm, aur ac arian, mae'r tri olaf yn ymddangos yn debycach i'r simbolau (Pb, Au ac Ag) nag ydynt yn Saesneg, felly dyma gaffaeliad. Yr ydym yn colli gyda Ffosfforws (P), ond tybiwyd y byddai'n werth cadw'r llythrennau estron yn Krypton, Vanadiwm, Xenon, Zinc a Zirconiwm er mwyn cadw'r gyfatebiaeth. Enwi halwynau Argymhellir defnyddio'r dull modern, a dilyn 'refn y simbolau, e.g. Sodiwm Clorid, Haearn (III) Clorid, Calsiwm Sylffad (VI), Copor (II) Ocsid. Ar lafar neu mewn ysgrifen byddai ffurf megis Sylffad Copor hefyd yn dderbyniol, ond byddai'n mtais i ddysgwr gadw at yr un drefn wrth ynganu'r nw a'r simbol. IOLO WYN WILLIAMS 1. Hydrogen 53. Iodin 2. Heliwm 54. Xenon 3. Lithiwm 55. Cesiwm 4. Beryliwm 56. Bariwm 5. Boron 57. Lanthanwm 6. Carbon 58. Ceriwm 7. Nitrogen 59. Praesodymiwm 8. Ocsigen 60. Neodymiwm 9. Fflworin 61. Promethiwm 10. Neon 62. Samariwm 11. Sodiwm 63. Ewropiwm 12. Magnesiwm 64. Gadoliniwm 13. Alwminiwm 65. Terbiwm 14. Silicon 66. Dysprosiwm 15. Ffosfforws 67. Holmiwm 16. Sylffwr 68. Erbiwm 17. Clorin 69. Thwliwm 18. Argon 70. Yterbiwm 19. Potasiwm 71. Lwtetiwm 20. Calsiwm 72. Haffniwm 21. Scandiwm 73. Tantalwm 22. Titaniwm 74. Twngsten 23. Vanadiwm 75. Rheniwm 24. Cromiwm 76. Osmiwm 25. Manganis 77. Iridiwm 26. Haearn 78. Platinwm 27. Cobalt 79. Aur 28. Nicel 80. Mercwri 29. Copor 81. Thaliwm 30. Zinc 82. Plwm 31. Galiwm 83. Bismwth 32. Germaniwm 84. Poloniwm 33. Arsenic 85. Astatin 34. Seleniwm 86. Radon 35. Bromin 87. Franciwm 36. Krypton 88. Radiwm 37. Rwbidiwm 89. Actiniwm 38. Strontiwm 90. Thoriwm 39. Ytriwm 91. Protoactiniwm 40. Zirconiwm 92. Uraniwm 41. Niobiwm 93. Neptwniwm 42. Molybdenwm 94. Plwtoniwm 43. Technegiwm 95. Americiwm 44. Rwtheniwm 96. Curiwm 45. Rhodiwm 97. Berkeliwm 46. Paladiwm 98. Californiwm 47. Arian 99. Einsteiniwm 48. Cadmiwm 100. Ffermiwm 49. Indiwm 101. Mendelefiwm 50. Tun 102. Nobeliwm 51. Antimoni 103. Lawrensiwm 52. Telwriwm