Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ysgolion Hoffwn ddiolch i Dr. Alun Evans, Adran Bywydeg, Coleg y Drindod, Caerfyrddin am ei gyfraniadi'r Adran Ysgolion. Mae'r nodiadau yn enghreifftiau o'r math o waith a ddatblygwyd ar themau gwyddonol ar gyfer cwrs ar astudiaethau'r amgylchfyd a gynhaliwyd yng Ngholeg y Drindod dan ofal y Cyngor Ysgolion. — m.r.w. RHAI GWEITHGAREDDAU GYDAG ANIFEILIAID Mae'n bwysig fod yr athro'n gallu adnabod anifail cyn caniatáu i ddisgybl ei drin rhag ofn i un ohonynt ei niweidio mewn unrhyw fodd. DULLIAU MAGLU A CHASGLU Mae anifeiliaid yn byw mewn rhannau gwahanol o'r amgylchedd. Golyga hyn fod yn rhaid defnyddio amrywiaeth o ddulliau casglu a maglu. MAMOLION Cyn belled ag y bo maglu yn y cwestiwn mae'n well anwybyddu'r grwp hwn. Y mae dulliau yn bodoli ond mae mamolion wedi eu cornelu yn ofnus a gallant beri niwed os neseir atynt. Dylid cyfyngu astudiaethau i ôl traed mamolion mewn Ilaid ac eira, nythod a ffeuau, arwyddion gweith- garedd (diferion, gweddillion bwyd) ac arsyl- wadau o bellter neu o guddfannau. Gellir hwyluso arsylwadaeth uniongyrchol drwy osod y bwyd priodol ar lawr mewn cylchoedd arbennig e.e. Letys, llysiau ffres Cwningod, ysgyfarnogod. Ffrwythau, cnau Gwiwerod, llygod. Abwydod a phryfed Llygod y maes, draenogod. Powlenni o laeth Draenogod a nifer o fathau eraill. Powlenni o ddwr Y rhan fwyaf o famolion mewn cyfnodau sych. Yn anffodus gall adar fynd â bwyd ymaith (gellir astudio hyn ar yr un pryd) neu fe all ddenu llygod. Cfyda'r arwydd cyntaf o lygod dylid atal y gweith- f.arwch. Mae archwiliad o hen duniau a photeli yn aml t dangos ysgerbydau llawer o famolion bychain NODIADAU BYWYDEG ALUN EVANS sydd wedi syrthio i mewn ac wedi methu dod allan. Defnyddia rhai pobl boteli gyda bwyd ynddynt fel maglau i famolion bychain ond mae'r dull hwn yn un hynod o greulon oherwydd fod yr anifeiliaid yn marw o newyn yn araf bach neu yn boddi os daw glaw i mewn. ADAR Mae maglu neu gasglu unrhyw adar gwylltion yn anghyfreithlon. (Mae hyn yn wir am y rhan fwyaf o famolion hefyd.) Dylid astudio adar yn yr un dull ag yr astudir mamolion-o guddfannau neu fannau sylwi. Ni ddylid ar unrhyw gyfrif aflonyddu ar adar sy'n nythu nac ychwaith gasglu wyau neu nythod. Gall defnydd o fwydydd dewisedig a byrddau adar a darparu bocsys nythu wella unrhyw arsylwadau ar y grwp hwn. Golyga prinder bwyd yn y gaeaf fod hwn yn gyfnod arbennig o addas ar gyfer astudiaethau adar. Mae adar newynog yn llawer llai swil ac maent yn awyddus iawn i ddod at fwyd a gynigir iddynt ac a fyddai'n cael ei anwybyddu yn yr haf. Gall disgyblion felly wneud arsylwadau llawer manylach o dan yr amodau hyn. Rhai themâu posibl: (a) Nodwch ddewis fwydydd gwahanol rywo- gaethau. (b) Pa un yw'r cyntaf, yr ail etc. i nesu at y bwyd pan gynigir ef? (c) Pa fathau sy'n nesu at y bwyd ar eu pennau eu hunain neu mewn grwpiau ? (ch) Gwahaniaethwch rhwng gwrywod a beny- wod ac adar ieuainc lle bo hynny'n bosibl.