Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Silff Lyfrau 7 > Chemical Basis of Life: readings from Scientific \merican, gol. Philip C. Hanawalt a Robert C. Haynes. W. H. Freeman, Reading (1973). Tud. 405. Pris £ 5.70 (clawr caled), £ 2.60 (clawr papur). Un o'r cylchgronau mwyaf llwyddiannus sy'n ymgymryd â'r dasg anodd o gyflwyno datblygiadau mewn gwyddoniaeth gyfoes i gynulleidfa eang yw Scientific American. Allan o'r llwyddiant hwn y deilliodd y llyfr Sylfaen Cemegol Bywyd ÇThe Chemical Basis of Life'). Cyfres o erthyglau ydyw'r llyfr wedi eu benthyca o'r cylchgrawn gwreiddiol er mwyn datgelu y wybodaeth newydd o fiocemeg bywyd a ddarganfyddwyd yn yr ugain mlynedd diwethaf. Trefnir y cynnwys mewn pedwar rhaniad sef 'Llif ynni mewn Cyfundrefnau Bywyd', 'Pensaer- niaeth Moleciwlar', 'Molecylau Cymhleth a'u Cydosodiad', ac yn olaf 'Trosglwyddiad a Rheol- aeth Gwybodaeth (Genetig)'. Paratowyd rhag- ymadrodd arbennig i bob rhaniad er mwyn cysylltu y gwahanol bynciau, a defnyddir erthygl gan Gunter Stent ar natur darganfyddiadau gwyddonol fel diweddglo. Teg, yn fy marn i, yw beirniadu llyfr o'r math hwn ar dair lefel. Yn gyntaf, a yw yn bosib cynhyrchu llyfr boddhaol ar unrhyw bwnc allan o erthyglau unigol, digysylltiad ? Credaf fod peryglon mawr mewn casgliadau o'r fath am fod diffyg cydbwysedd yn anochel a'r gwahaniaethau yn arddull yr awduron yn anfoddhaol. Yn rhy aml, temtasiynau ariannol a mesur o ddiogrwydd sydd yn magu llyfrau o'r math hyn. Ond teimlaf fod beirniadaeth mwy pwysig o'r llyfr yma. Rhaid ystyried yn fanwl a yw y dewis o erthyglau yn wir adlewyrchu'r pwnc, sef 'Sylfaen Cemegol Bywyd'. Gwendid mawr y llyfr, ac yn wir, llawer iawn o erthyglau cyfoes ar Fioleg Moleciwlar yw eu pwyslais gormodol ar geneteg moleciwlar ac ar y cysylltiad rhwng asidau niwcliar a phrodinau. Yn ddiamau gwelwyd newidiadau chwyldroadol yn y meysydd yma yn yr ugain mlynedd er gosodiad Watson a Crick. Ar y llaw arall eglurodd Ervin Schrödinger yn ei lyfr nodedig What is Life, a gyhoeddwyd yn 1945, mai creu trefn gemegol allan o anhrefn y bydysawd a defnyddio ynni i sicrhau parhad y drefn honno yw hanfod bywyd. Wrth gwrs, mae DNA a geneteg yn elfennau pwysig ond cam gwag yw gosod DNA fel allwedd dirgelwch bywyd. O ystyried yr erthyglau unigol, maent bron yn ddieithriad yn wych wedi eu hysgrifennu gan arbenigwyr awdurdodol ac wedi eu cynllunio'n dda. Y 'graffics' gwych yw rhan hanfodol o lwyddiant Scientific American. Hoffafyn arbennig y diweddglo gan Gunther Stent sydd yn dangos gwir ddirnad- aeth o ymchwil gwyddonol. Felly, os am lyfr yn goleuo meysydd cymhleth geneteg moleciwlar, mae'r gyfrol yma yn dderbyn- iol, ond nid fel llyfr gyda'r teitl uchelgeisiol Sylfaen Cemegol Bywyd. R. G. WYN JONES