Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ATHROFA GWYDDONIAETH A THECHNOLEG Bu sawl ymgais gan yr Athrofa yn ystod y blynyddoedd diwethaf i gy- hoeddi rhyw fath o gylchgrawn neu fwletin newyddion. Yr un diweddaraf yn y maes yw 'UWIST News' dan olygydd- iaeth Dr. A. J. White o Gofrestrfa'r Athrofa. Cynnwys adroddiadau o'r adrannau ynghyd â nifer o erthyglau ar ddatblygiadau mwy cyffredinol. Cofir i'w ragflaenydd 'UWIST Review' godi gwrychyn nifer o Gymry ar staff yr Athrofa oherwydd ei agwedd amwys tuag at faint o le y dylid ei roi i'r Gymraeg ar ei dudalennau. Mae 'UWIST News' wedi goresgyn y brob- lem hon mewn ffordd syml ond effeithiol -trwy fod yn llwyr uniaith-Saesneg. Ymhlith yr erthyglau yn 'UWIST News' y mae un gan y Prifathro yn amlinellu'r cynlluniau ar gyfer y safle newydd yn Llantarnam. Cynllunir ar gyfer 8,000 o fyfyrwyr. Awgryma'r Prifathro y gellid cwblhau'r symud erbyn 1984 ond y teimlad yw y byddai 1986 yn ddyddiad mwy realistig bellach yn wyneb y dirywiad yn y sefyllfa economaidd. Mae'n fwriad gan yr Athrofa ddal ei gafael ar ei neuaddau preswyl yng Nghaerdydd gan mai 20-25 munud yn unig a gymerir i gyrraedd y safle newydd o Gaerdydd, yn nhyb y Prifathro. Newidiwyd teitl yr 'Adran Astud- iaethau Rhyddfrydol a Saesneg' yn 'Adran Saesneg'. Digwydd hyn yn sgîl cais gan fyfyriwr ar ei flwyddyn gyntaf i gael cymryd ei arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg. Penderfynwyd fod hyn yn llwyr bosibl yn y meysydd gwyddonol ond fod peth anhawster i arholi 'Astud- iaethau Cyfathrebol' (pwnc gorfodol ar gyfer nifer o gyrsiau gradd yn yr Athrofa ac un a gyflwynir gan yr Adran Astudiaethau Rhyddfrydol a Saesneg) yn Gymraeg. Tybir y gellir osgoi unrhyw Nodiadau o'r Colegau amwysedd yn y dyfodol trwy ddileu'r term 'Astudiaethau Rhyddfrydol' o deitl yr Adran. Mae Mr. A. R. Rowlands (Adran Mathemateg) wedi ennill y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth dan nawdd Cwm- ni'r 3M; cynigiwyd y wobr am 'Y Rhag- len Gyfrifiadurol fwyaf diddorol ac anarferol' ac enillodd Mr. Rowlands y wobr am ei waith cyfrifiadurol ar y Dreigladau Cymraeg. Gobeithir cy- hoeddi fersiwn o'i erthygl yn Y GWYDD- ONYDD maes o law. Cwblhawyd rhaglen y Gymdeithas Wyddonol am 1973-74 gyda'r cyfar- fodydd a ganlyn: Ionawr 9fed 'Codi Pontydd Cymru' (Dr. M. Barr, Poli- technig Trefforest-cyfarfod a gyn- haliwyd yn Nhrefforest oedd hwn); Chwefror 13eg 'Clefydau'r Cymalau' (Dr. Peter Williams, Caerdydd); Mawrth 13eg 'Papurau Byrion gan Fyfyrwyr Ymchwil (Bleddyn Thomas, Athrofa; Emyr Davies, Athrofa; Jeff. Thomas, Tenovus); Mai l5ed 'Gwydd- oniaeth yn y Brifysgol Agored' (Row- land Wynne ac Heddwyn Richards, Caerdydd). BANGOR Bu amryw aelodau o staff y Gyfadran Wyddonol yn darlithio tramor yn ddiweddar. Bu Dr. D. J. Peregrine o'r Adran Swoleg Cymhwysol yn yr Iwerddon, Dr. R. G. Wyn Jones o'r Adran Fiogemeg yn yr Almaen, yr Athro T. J. M. Boyd o'r Ysgol Mathe- mateg a Chyfrifiadureg yn Awstria, yr Athro J. L. Harper o'r Ysgol Llysieueg yn yr Unol Daleithiau, a Dr. M. Taylor o'r Adran Swoleg yn Sbaen. Penodwyd amryw i bwyllgorau y tu allan i'r Coleg. Bydd Dr. W. Eifion Jones o Adran Fioleg y Môr yn aelod o weithgor Cyngor Ymchwil yr Am- R.E.H. gylchfyd sy'n ymwneud â bioleg y r òr a bydd Mr. E. R. B. Oxley o'r Y >oi Llysieueg yn aelod o weithgor ti-iun Cymru Tywysog Cymru. Penod.vd Dr. J. R. Turvey o'r Ysgol Gwyddc ;au Ffisegol a Moleciwlar i fwrdd go;yg- yddol Carbohydrate Research. Bu rhai'n ddigon ffodus i dderbyn grantiau ymchwil. Mae Dr. J. I. Davies o'r Adran Fiogemeg wedi cael £ 2,650 gan I.C.I. ar gyfer gwaith ar asidau niwcliar, a Dr. R. G. Wyn Jones o'r un Adran £ 400 gan Ward Blenkinsop ar gyfer astudio halennau mewn planhig- ion. Mae'r Athro J. Darbyshire o'r Adran Eigioneg wedi cael tua £ 13,000 gan gyngor ymchwil yr amgylchfyd ar gyfer astudio'r tonnau a'r cerhyntau ym Mhorth Neigwl. Hefyd, cafodd Dr. J. H. Simpson o'r un adran grant cyff- elyb ar gyfer astudio buanedd a dwyster y môr yn nyfnderoedd y cefnfor, a chafodd Dr. W. Eifion Jones £ 9,000 gan Shell i astudio newidiadau'r arfordir. Cynhaliwyd cyfarfod ar gyfer ath- rawon Mathemateg a Gwyddoniaeth yn ystod mis Mawrth pryd bu cyfle i'r Coleg gyfnewid syniadau gyda'r ysgol- ion. Mae'n ymddangos bod un broblem yn gyffredin beth bynnag, sef diffyg diddordeb mewn gwyddoniaeth. Anodd iawn yw cael hyd i reswm pendant, ond mae'n ymddangos fod yr amgylchfyd cymdeithasol yn rhoi datblygiadau gwyddonol mewn golau anffafriol. Bu amryw yn gweithio tramor am gyfnod. Bu Dr. J. M. Cherrett yn ymgynghori yn y Seychelles am chwech wythnos yn trafod pla y morgrugyn tanllyd, a bu Dr. P. A. Williams o'r Adran Fiogemeg yn gweithio ym Mhrifysgol Iâl am dri mis. Mae Dr. J. K. Gaunt o'r Adran Fiogemeg yn treulio blwyddyn ym Mecsico, ac mae Dr. W. S. Lacey o'r Ysgol Llysieueg yn treulio rhai misoedd yn Ne Affrig a Rhodesia. Hefyd, bu'r Athro P. W. Richards o'r Ysgo! Llysieueg ym Malaya a Phenang, lle mae'n arholydd allanol.