Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Aspirin: Y Cymorth Cyntaf Y mae'r awdur yn brif ddarlithydd yn Adran Gemeg, Coleg y Brifysgol, Abertawe. Yn ddiweddar bu'n darlithio ar gyffuriau hen a newydd i ddosbarth Allanol, gan geisio cyflwyno i'r lleygwr amcanion a thueddiadau meddyliol y cemegydd proffesiynol. Enghraifft o'r gyfres ddarlithiau honno ydyw'r ysgrif hon. ANODD iawn ydyw dychmygu tunnell o gyffur o unrhyw fath, ond pan ddarllenwn fod rhyw ugain mil o dunelli o aspirin yn cael eu cynhyrchu'n flynyddol yn yr Unol Daleithiau'n unig, prin y gellir gwadu fod aspirin yn un o brif ganllawiau'r bywyd cyfoes. Mae poblogrwydd y cemegyn hwn yn syfrdanol, yn enwedig gan nad ydyw yn gwella'r un clefyd-dim ond lleddfu poen tra bod y corff ei hun yn cael cyfle i adweithio yn erbyn y clefyd neu tra bod rhyw gyffur arall yn cael cyfle i fynd at ffynhonnell y broblem. Nid yw o bell ffordd yn un o'r lladdwyr poen cryfaf. Mae morphïn, er enghraifft, rhyw ddeg gwaith yn gryfach, ond mae aspirin yn gwneud ei waith heb amharu ar weithrediadau arferol y corff, ac ni chlywyd am lawer yn mynd yn ddibyn- nol ar aspirin fel y gwnant ar forphïn. Y nam mwyaf a gysylltir ag aspirin ydyw fod cymeryd dôs sylwedddol dros amser yn peri i leinin y stumog waedu. Dyma'r rheswm dros awgrymu i bobl gymeryd aspirin mewn ffurf sy'n toddi'n rhwydd mewn dwr ac felly'n dileu'r ymweithiad rhwng tabled fechan galed ac un rhan fach o leinin y stumog. Pe darganfyddid aspirin heddiw byddai'r gwaedu hwn yn y stumog yn ddigon i atal y cemegyn rhag cwrdd â gofynion Deddf Meddygin- iaethau 1970 a ddaeth i rym wedi trasiedi'r plant thalidomid. Gallwn ddiolch felly fod aspirin wedi ei ddarganfod yn gynnar, a'i fod wedi rhoi defnydd- ioldeb pur ddiogel i genedlaethau-hynny yn y diwedd ydyw'r prawf gorau a'r prawf mwyaf safonol ym myd y cyffuriau. Trobwynt Gellir edrych yn ôl ar y flwyddyn 1893, pan ddefnyddiwyd aspirin am y tro cyntaf, fel trobwynt yn hanes cyffuriau. Cyn hyn paratoad amrwd o lysiau oedd ffynhonnell y prif gyffuriau. Ond JOHN S. DAVIES gyda dyfodiad aspirin fe welwn y cemegydd yn cymeryd ei gyfle am y tro cyntaf i newid molecylau natur er budd dynoliaeth. Cemegyn hollol syn- thetig ydyw aspirin, gyda'r enw cemegol asetyl salisylad, ond gan fod y defnydd crai a ddefnydd- iodd Hofmann i'w gynhyrchu ym 1893, sef asid salisylig, i'w gael mewn planhigyn hwyrach y dylid rhoi rhan o'r diolch eto i drefn natur. Erbyn heddiw bensen wedi ei ddistyllu o olew ydyw'r defnydd crai ac fe amlinellir y dull cyfoes o baratoi'r cyffur yn y diagram. Lladdwr poen Cyfraniad mawr Felix Hofmann, cemegydd yn gweithio i Gwmni Bayer yn yr Almaen, oedd defnyddio aspirin fel lladdwr poen, yn gyntaf ar ei dad a oedd yn dioddef yn ddifrifol dan y gwynegon. Ond nid Hormann piau'r clod am ddarganfod aspirin, oherwydd fe'i lluniwyd gyntaf ddeugain mlynedd ynghynt gan Charles Gerhart yn Stras- bourg, a droes yr asid salisylig yn asetyl salisylad- ymweithiad cemegol digon syml. Daw'r enw aspirin trwy gyfuno'r a o'r asetyl gyda spir, sef yr enw Almaeneg am asid salisylig (spirsaure), ac ych- wanegu in i wneud i'r enw swnio'n fwy cyffuriol. Nid hap a damwain oedd defnyddio aspirin i ladd poen, oherwydd yr oedd traddodiad eisoes fod asid salisylig yn lladdwr poen yn enwedig ar rannau allanol y eorff-ae fe'i defnyddir o hyd i gael gwared o gyrn ar draed a phethau felly. Mae asid salisylig yn lladd poen ac yn cadw'r gwres i lawr cystal ag aspirin ond mae'n llawer rhy asidig i'w gymeryd trwy'r ceg a'r stumog. Rhoi cynnig ar newid y briodwedd asidig yma oedd prif bwyslais yr ymchwil cynnar, ac y mae'r egwyddor o geisio newid ychydig ar folecylau naturiol yn parhau yn bwysig mewn ymchwil ym myd fferylliaeth. Y cynnig cyntaf a wnaed oedd defnyddio'r halwyn