Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Golygyddol Croesawyd rhifyn cyntaf Y GWYDDONYDD yn frwd iawn gan Y Faner (Mawrth 28, 1963). Fel pawb arall y pryd hynny, rhoi sylw i'r rhyfeddod fod posibl trafod 'pynciau astrus gwyddonol' yn Gymraeg a wnaethpwyd. Roedd ein cyfranwyr cyntaf yn wyddonwyr o safon, ac yn fodlon troi eu llaw at y gwaith dieithr iddynt o drafod eu pwnc yn Gymraeg. Bellach, 50 rhifyn yn ddiweddarach, mae cenhedlaeth newydd o gyfranwyr, gan fwyaf yn gynnyrch ein hysgolion dwyieithog, ac i'r rhain mae trin eu maes yn eu hiaith gyntaf mor naturiol ag anadlu. Y canlyniad yw bod mwy o bwyslais ar y testun a llif sicrach o erthyglau yn dod i mewn. Y llynedd tybiaf inni gyrraedd rhyw benllanw yn y gystadleuaeth am 'ddwy erthygl addas i Y GWYDDONYDD' yn Eisteddfod Bro Dwyfor. Mae Cwmni Cambrian Airways wedi ein cefnogi ers blynyddoedd, yn cynnig gwobr o £ 50 am ryw gywaith neu gynllun arbennig. Mewn cystadleuaeth am y wobr yma cafwyd 16 o erthyglau cwbl haeddiannol a difyr ar bob math o bynciau gwyddonol. Ni fyddai hyn yn bosibl ddeuddeng mlynedd yn ôl pan gyhoeddwyd y rhifyn cyntaf. Ceisiais dynnu sylw at hyn yn y sylwadau golygyddol y tro diwethaf. Mae'n gam pwysig ymlaen yn ein ystyriaeth o wyddoniaeth yn Gymraeg. Symudwyd ymlaen hefyd ers hynny i ddysgu gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein hysgolion dwyieithog. Adlewyrchir hyn yn ein Hadran Ysgolion, sydd wedi bod yn paratoi defnydd addas mewn bioleg ar gyfer y gwaith yma. Ac yn awr, dyma ddechrau ar ddysgu cemeg yr un modd. A fydd yn rhaid aros am 50 rhifyn arall, tybed, cyn i ni orfod paratoi adran i gynorthwyo'r colegau uwchradd i ddysgu gwyddoniaeth drwy'r Gymraeg. Rhai cyfranwyr i 'Y Gwyddonydd' Nid wyf am sôn am yr un o'n cyfranwyr sy'n fyw rhag ofn i mi dramgwyddo; mae cannoedd o bob cylch wedi ein cynorthwyo tu ôl i'r llenni ac mewn print. Disgwyliaf iddyn nhw yn ddieithriad barhau ymlaen am 50 rhifyn arall 0 leiaf! Ond ysywaeth, mae nifer o'n cyfranwyr wedi ymadael â ni ac mae o werth amhrisiadwy fod eu gwaith drwy gyhoeddi Y GWYDDONYDD yn awr ar glawr a chadw. Pwy ond y Dr. Idris Jones allai ysgrifennu mor bersonol ac awdurdodol am wyddonwyr o Gymry yr oedd o wedi dod i gysylltiad â nhw neu â'u gwaith ? Braint oedd clywed yn rheolaidd oddi wrth W. W. Price, M.A., gwr 92 oed (yn 1966), o Aberdâr, oedd yn darllen y cylchgrawn yn gyson. Pleser bob amser oedd cael gair o Tyddyn Elen gan y Dr. Glyn Penrhyn Jones. Dim ond awgrym a byddai'r erthygl ar waith yn syth. Dyma un ymateb nodweddiadol ganddo: 21 Tachwedd 1967 Annwyl Glyn, Diolch am eich llythyr. Yr wyf wrthi yn tacluso fy ysgrif ar 'Cnul y Frech Goch', a fe'ch sicrhaf y cewch yr erthygl cyn Rhagfyr laf A chyn Rhagfyr laf y deuai'r erthygl yn gwbl barod gyda'r lluniau a'r ddau graff yn barod i'r wasg. Roedd y Dr. I. C. Jones yn un o bileri sylfaenol Y GWYDDONYDD. Rhoddodd wasanaeth aruthrol i'r fenter fel trefnydd, cyfrannwr, a mwy nag unwaith bu'n golygu'r cylchgrawn tra 'roeddwn yn yr Unol Daleithiau. Rydym yn ei golli o hyd ar y Bwrdd Golygyddol.