Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ffìg. 3. Graff o'r gwrthgyferbyniad recordiwyd ar y ffilm o blât o aliwminiwm ynghanol trwch o berspex. Sylwir fod y gwrthgyferbyniad yn fwy pan yn defnyddio peíydrau-X o anod molybdenwm Gellir dangos fod y pelydrau-X o'r anod molyb- denwm yn rhoi gwell gwrthgyferbyniad na phelydrau o anod twngsten (Ffigur 3). Mae hyn yn amlwg eto yn y darluniau pelydrau-X o'r bronnau (Ffigur 4). Xeroradiograffaeth Gwelir copïwr xerograffig bellach yn y rhan fwyaf o swyddfeydd modern. Yn ddiweddar bu'r cwmni Rank Xerox yn ceisio ymestyn y dechneg i radiograffaeth meddygol a diwydiannol. Ffurf o ddangos y darlun pelydrau-X yn hytrach na defnyddio ffilm ydyw xeroradiograffaeth. Defnyddir haen denau (tua 130 [xm) o'r llêd-ddadgludydd seleniwm wedi ei baentio ar blât o aliwminiwm. Rhoddir gwefr ar un ochr y seleniwm gyda pheiriant gwefrio corona. Pan dderbynia'r seleniwm y pelydrau-X fe'i dadwefrir ac argreffir llun o'r patrwm pelydrau X fel patrwm gwefr ar y seleniwm. Yna rhaid cael y llun allan o'r patrwm gwefr. I wneuthur hyn chwythir powdwr mân neu lwch dros y plât ac fe syrth y llwch yn fwy trwchus ar y rhannau mwyaf gwefredig. Ar ôl rhoi papur arbennig ar y plât, trosglwyddir y llwch i'r papur. Yn olaf, cynhesir y papur fel y gall y llwch suddo i mewn i haen o blastig sydd ar wyneb y papur, a dyna'r darlun pelydrau-X yn barod. Lle byddo'r angen, trosglwyddir y plât xerograffig i ffwrn fechan i ddileu'r patrwm gwefr, ac yna gellir defnyddio'r plât drachefn. Dangosir xeroradiograff o fron yn Ffigur 5. Sylwch ar ddau beth yn arbennig. Yn gyntaf, mae'n hawdd gweld yr esgyrn a'r croen ar yr un darlun- peth na welir yn aml gyda ffilm. Yn ail, mae ochr dywyll pob ffin yn dywyllach, a'r ochr olau yn oleuach; hynny yw, mae pob ffin yn fwy pendant. Mae'r gwrthgyferbyniad lleol yn wych-gwelir y gwythiennau yn y fron yn glir. Er fod mwy o wybodaeth i'w gael o'r xeroradio- graff nac o'r ffilm, yn anffodus mae'n cymryd mwy o belydrau-X i wneud darlun-rhaid defnyddio tua 6 Rad yn lle 4 Rad i bob darlun.