Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Defnyddio sgrinau efo ffilm Gan fod rhai awdurdodau iechyd eisoes yn sôn am chwilio am ganser y bronnau yn y boblogaeth yn gyffredinol, mae'n bwysig ceisio darganfod techneg sydd yn defnyddio cyn lleied o ymbel- ydredd ag sydd bosibl. Yn fuan ar ôl i Roentgen ddarganfod pelydrau-X yn 1895, darganfuwyd fod rhai halwynau yn gallu troi y pelydrau-X yn oleuni. Gellid cael yr un darlun efo llai o belydrau-X wrth adael y ffilm weld sgrîn o'r halwynau yma-a'r halwyn calsiwm twngstat oedd un o'r rhai gorau o'r cychwyn. Mae rhai ysbytai yn defnyddio un sgrîn efo'r ffilm mewn amlen wactod i gadw'r ffilm yn agos at y sgrîn. Nid yw'n bosibl cael cystal darluniau gyda sgrîn oherwydd collir ychydig o'r wybodaeth yn y naid rhwng y sgrîn a'r ffilm. Er hynny, gellir cael darlun pelydrau-X o'r bronnau sydd ddigon da i gynnwys y gronynnau bychain o galch a geir yn aml mewn canser. Wrth ddefnyddio sgrîn gellir torri'r dôs pelydrau-X i lawr i 2 Rad bob darlun. HEOL LLANILLTYD FAERDRE, TREFFOREST, PONTYPRIDD Prifathro: D. W. F. JAMES, b.sc, PH.D. PEIRIANNEG GEMEGOL PEIRIANNEG SIFIL PEIRIANNEG FECANYDDOL AROLYGU CYFLENWAD ADEILADU ASTUDIAETHAU BUSNES CEMEG PEIRIANNEG GEMEGOL CYFRIFEG FFISEG Darperir nifer o gyrsiau proffesiynol ychwanegol i'r uchod. Gellir cael Prospectws a gwybodaeth bellach oddi wrth y Cofrestrydd Er i galsiwm twngstat gael ei ddefnyddio i wneud sgrinau am dros hanner can mlynedd, darganfuwyd yn yr Unol Daleithiau yn 1972 fod y priddoedd prin-gadoliniwm a lanthanwm oxisylphid-yn rhoddi mwy o olau am yr un ymbelydredd na chalsiwm twngstat. Felly mae gobaith gallu cymryd darlun pelydrau-X o'r bronnau efo 0.2 Rad o ymbelydredd drwy ddefnyddio sgrinau'r priddoedd prin. Gwelsom fod y darluniau gorau o'r bronnau i'w cael wrth ddefnyddio peiriant pelydrau-X arbennig sydd yn cynnwys anod molybdenwm. Ceir darlun- iau rhagorol gyda xeroradiograffaeth ond mae'r dôs ymbelydredd braidd yn uchel. Gellir cael darluniau addas at edrych ar boblogaeth gyffredinol iach wrth ddefnyddio'r sgrinau newydd sydd yn cynnwys y priddoedd prin. I orffen, rhaid pwys- leisio fod mamograffi yn dibynnu ar dechneg o'r safon uchaf, a rhaid gofalu na chollir safon y darluniau yn y rhuthr am ddarluniau sydd yn defnyddio llai o ddôs. POLITECHNIG MORGANNWG Darperir cyrsiau gradd mewn CEMEG CYFRIFEG MATHEMATEG A CHYFRIFEG ASTUDIAETHAU BUSNES Darperir cyrsiau H.N.D. mewn PEIRIANNEG DRYDANOL AC ELECTRONIG YSTADEGAU MATHEMATEGOL A CHYFRIFEG MESUR A RHEOLAETH PEIRIANNEG FECANYDDOL PEIRIANNEG SIFIL MWYNGLODDIO