Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Deall Pla'r Pryf Moron Mae'r ddwy erthygl a gyhoeddir gyda'i gilydd yma yn gynnyrch cystadleuaeth Eisteddfod Genedl- aethol Bro Dwyfor am ddwy erthygl 'yn addas i Y GWYDDONYDD'. Aeth clod yr Eisteddfod a £ 50 gwobr Cwmni Cambrian Airways i Owen Thomas Jones, a rydym yn ei longyfarch yma eto. I. Pla'r pryf moron a'i ddewisiad o lety-blanhigion Ychydig iawn o arddwyr ac amaethwyr, yn unrhyw gwr o'r byd, sydd wedi ceisio tyfu moron, sydd heb gael eu poeni gan y pryf moron (Psi/a rosae (F.), Trefn Diptera, Teulu Psilidae), rywdro neu'i gilydd, ac yn y wlad hon mae'n broblem arbennig yn ardaloedd dwyreiniol Lloegr lle y tyfir moron yn ddi-dor, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ar raddfa eang iawn. O dan yr amgylchiadau hyn, hawdd iawn yw cael colledion trwm gyda'r cnwd moron i gyd yn cael ei aredig yn ôl heb unrhyw gynaeafu. Dyma'r sefyllfa a fodolai cyn yr Ail Ryfel Byd ond gyda dyfodiad y gwenwynnau Organoclorid fel D.D.T., Aldrin, a Dieldrin, ar ddiwedd y pedwardegau a dechrau'r pumdegau, datblygwyd dulliau boddhaol iawn o ddifa'r pla. Yna yn gynnar yn y chwedegau, darganfuwyd gwrthiant yn y pryf tuag at Aldrin a Dieldrin a ddefnyddid yn helaeth iawn ledled y byd yr adeg honno. Bu'n rhaid troi felly, at deulu arall o wenwynnau sef yr Organo- ffosffid, fel Phorate, Parathion a Diazinon, a oedd, ysywaeth, yn llai parhaol eu heffaith na'u rhag- flaenwyr. Dyma'r sefyllfa hyd at yn ddiweddar iawn nes y darganfyddwyd arwyddion unwaith eto fod y pryfed yn datblygu gwrthiant tuag at Phorate o leiaf. Gyda'r cefndir yma mewn golwg, a chyda'r tueddiad y dyddiau hyn i symud i ffwrdd oddi wrth gemegau difa pla oherwydd y lefel uchel ohonynt a geir mewn bwyd, a'r posibiliadau niweidiol ar ein hiechyd o'r herwydd, penderfynwyd edrych yn fanwl ar fywydeg y pryf er mwyn ceisio datblygu ffyrdd mwy integredig o reoli'r pla hwn. Mae'n hysbys ers blynyddoedd fod y pryf moron yn cyfyngu ei weithgareddau i un teulu o blanhigion-yr Wmbelifferae, sef y foronen, y banasen, seleri ac un neu ddau o chwyn o'r un teulu. Fe ddengys felly rhyw radd o ddetholedd mewn llety-blanhigion ac ers canol y chwedegau mae gwyddonwyr wedi bod yn ceisio darganfod sut y cyflawna'r pryf y detholedd hwn. Os edrychwn ar gylchred bywyd y pryf fe allwn unigo'r adegau lle y gall y trychfil ymarfer ei ddetholedd. Wedi torri allan o'r pwpa ddiwedd mis Mai fe gyplysa'r fenyw a dechreua ddodwy ei hwyau yn y pridd o amgylch y llety-blanhigyn. O'r wyau hyn fe ddeor y larfae sydd yn byw ar y gwreiddiau, ac sydd yn gyfrifol, wrth gwrs am y difrod a welir yn ystod mis Mehefin. Yna fe dry'r larfa yn bwpa ac wedi tair wythnos daw'r pryf allan ohono i ddechrau'r ail genhedlaeth a ymestyn o ganol Awst ymlaen hyd at fis Mai y flwyddyn ganlynol gyda'r larfae yn troi yn bwpae yn raddol drwy'r gaeaf. Mae'r rhywogaeth hon yn arbennig yn y ffaith ei bod yn treulio'r gaeaf fel larfa neu bwpa oherwydd fel pwpa y treulia'r mwyafrif o drychfilod yn y drefn Diptera y gaeaf. Fe geir hefyd mewn rhai blynyddoedd pan fo'r hydref yn dyner a hefyd mewn gwledydd sy'n nes at y cyhydedd na Phrydain, rai unigolion o'r ail genhedlaeth yn ffurfio trydedd cenhedlaeth fechan ym mis Tach- wedd ond nid yw pwysigrwydd hon wedi ei llawn archwilio eto. Pa fodd bynnag, mae'r larfae oll mewn ffurf pwpae erbyn diwedd Mawrth. Cawn ddau bwynt felly ble y gallai'r trychfil ymarfer ei ddetholedd (A) Pan fo'r pryfyn dewis ei blanhigyn i ddodwy. (B) Pan fo'r larfa yn chwilio am wreiddiau yn y pridd. Cyfyngir yr erthygl gyntaf hon i'r achos cyntaf. Wedi glanio ar ddeilen planhigyn a all fod yn addas i'w gorchwylion fe gerdda'r fenyw o gwmpas yr ochr uchaf a'r isaf, ac os yw'r ddeilen yn perthyn i lety-blanhigyn fe wthia allan ei ofipositor a welir ar apig yr abdomen, yna fe gerdda i lawr coes y ddeilen a chwilio am agennau bychain addas yn y pridd o amgylch gyda'r ofipositor ac yna dodwy ei hwyau yn unigol neu mewn sypiau o ddau neu dri