Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A.E. Beth arweiniodd chwi i mewn i aero- dynameg? E.R. Yng Nghaergrawnt, 'roeddwn yn dechrau blino ar fathemateg ac mi es yn fy amser hamdden ('doedden nhw ddim yn gweithio'n galed iawn yno!) i wneud gradd mewn peirianneg. Nid oedd y daflen amser yn caniatáu i mi eistedd yr arholiadau, ond sylweddolais fod peirianneg yn bwnc mwy diddorol a phenderfynais gael profiad diwydiannol efo'r Bristol Aeroplane Company. A.E. Felly dewis ymwybodol ydoedd ? E.R. Ie. 'Roedd gennyf bedwar dewis pan orffennais yng Nghaergrawnt: (a) bod yn ysgolfeistr fel fy nhad- roeddwn yn ei edmygu ef yn fawr a mewn ffordd nid oedd dewis gwell ar gael i mi; (b) bod yn gyfrifydd yn ôl dymuniad fy nhad; (c) ymuno â'r llynges a bod yn is-gapten addysgol- ond nid oedd fy ngolwg i fyny i'r safon; (d) yr un yr oeddwn i am ei wneud-sef gweithio ag awyrennau. 'Roedd y diwydiant awyrennau yn ehangu y pryd hwnnw a mi es i'r B.A.C. i gael ychydig o brofiad. 'Roeddwn wedi bod yn gweithio yn y Royal Aircraft Establishment yn ystod gwyliau'r haf ac felly 'roeddwn wedi dechrau cynllunio fy mywyd dwy flynedd cynt. A.E. Yr ydych wedi chwarae rhan flaenllaw yng nghynllunio rhai o awyrennau mwyaf llwyddiannus y wlad hon-y 'Viscount' a'r 'VC10' er enghraifft. Beth yw eich barn o'r genhedlaeth bresennol, fel 'Concorde' ? E.R. Wel, ffantastig! Maent mor gymhleth, mor ddiddorol, mor glyfar, mor ddrud, 'rwyf yn eu hedmygu ym mhob ffordd ond un-gall neb eu fforddio! Nid ydym wedi adeiladu'r awyrennau iawn yn y wlad yma dros y pymtheng mlynedd diwethaf. A.E. Aethoch o aerodynameg i mewn i acwsteg. Ai dymuniad am faes newydd oedd hyn ynteu dat- blygiad naturiol o'ch diddordeb mewn awyrennau? E.R. Nid oeddwn wedi astudio acwsteg ar ôl gadael yr ysgol, ond fi oedd yn cael y dasg o ddatrys rhai o broblemau dyrys y ffyrm, ac un o'r problemau hyn oedd y swn yng nghabin yr awyr- ennau sifil newydd, a phroblem swn y siet. Felly ym 1950 rhoddais gorau i gynllunio awyrennau i fod yn Athro mewn aeronoteg ym Mhrifysgol Southampton. Felly 'roedd yn naturiol i mi droi at acwsteg ac 'rwyf wedi bod yn astudio swn am y chwarter canrif diwethaf. A.E. Yn Southampton, chi roddodd fodolaeth i'r Sefydliad Swn a Disgryniant (Institute of Sound and Vibration) byd-enwog. Oedd yna anawsterau arbennig yn y dechrau? E.R. Digonedd ohonynt !-y rhan fwyaf ohonynt yn tarddu o'r gair 'swn'; i'r mwyafrif, rhywbeth sy'n digwydd ac nid rhywbeth i'w astudio ydyw swn. Pan awgrymais i'r Brifysgol y byddai sefydliad i astudio swn yn syniad da, cefais wrthwynebiad enfawr oddi wrth y Senedd. 'Beth sydd i ddigwydd wedi i chi ddatrys problemau sŵn ?’ meddent, a cheisiais egluro fod swn yn broblem heb derfyn mewn cymdeithas ddiwydiannol. Yn y diwedd, ar ôl dwy flynedd a hanner, symudodd y cynllun ymlaen a chawsom grant gan y Cyngor Ymchwil Gwyddonol i'n cynnal am dair blynedd. Byth er hynny mae'r Sefydliad wedi ehangu, ac yn awr mae gwaith ymchwil yn mynd ymlaen yno ar yr ymen- nydd, ar beiriannau disel, ar ddadansoddi signalau ac argryniadau, ar gynllunio neuaddau, ac yn y blaen. Synnwn i nad y Sefydliad yw'r mwyaf amryddawn yn y byd, ac mae'i waith i gyd ynghlwm â'r un agwedd hwn o fywyd-sef y ffaith bod swn yn achosi gofid. Mae swn yn destun astudiaethau mewn ffisioleg, seicoleg-pob 'oleg' ar wyneb y ddaear bron A.E. Mae llawer o sôn y dyddiau hyn am lygredd, ac ati. Mae eich meysydd ymchwil chi i gyd wedi cynnwys rhyw agwedd o'r amgylchfyd. Oedd yna bryder amdano y pryd hwnnw? E.R. Wel, nid wyf yn cytuno'n hollol â'r holl swn yma am yr amgytchfyd—mae'n bwnc enfawr sy'n golygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Ond yn sicr bu pryder ynglŷn â llygru'r amgylchfyd erioed. Fel y gwyddoch, mae swn o faes awyr Heathrow yn effeithio ar tua hanner miliwn o bobl. Ond er ein bod wedi symud ymlaen o awyren fechan fel y 'Viking' hyd at y '747', mae'r poendod a achosir yn llai; ond yn anffodus, gan bod traffìg awyrennau wedi cynyddu gymaint nid yw'r gwell- iant yn amlwg o gwbl. Ond nid oeddwn yn edrych arni fel problem amgylchfydol; mater ydoedd o wneud awyrennau a cheir yn fwy distaw. 'Roeddem yn ymwybodol o'r ffaith y byddai'r amgylchfyd yn lanach ac yn well pe gallen ni wneud y peiriannau'n llai swnllyd. A.E. Beth ddenodd chwi at Ts-Ganghelloriaeth Prifysgol Loughborough ? E.R. Cefais ddwy flynedd ar bymtheg yn South- ampton, ac maen nhw'n dweud y dylech chi newid