Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

eich swydd bob hyn a hyn os nad ydyw'r gwaith am droi'n ddiflas. Ni ddylai rhywun 50 mlwydd oed aros yn yr un lle os ydy e wedi bod yno am 17 flynedd. Er i mi newid fy nghadeiryddiaeth yn Southampton ym 1960, yr oeddwn eisiau newid. 'Rwy'n paentio ar ganfas lawer mwy yn awr- adran oedd gennyf yn Southampton, a phrif- ysgol gyfan yma yn Loughborough, a phrifysgol ardderchog ydyw hefyd. A.E. A wnaeth y ffaith bod y Brifysgol yma yn cymhwyso gwybodaeth at broblemau byw eich dylanwadu o gwbl? E.R. Defnyddio gwybodaeth sydd wedi fy nidd- ori i erioed, ac efallai fy mod i'n wahanol i fwyafrif y gwyddonwyr mewn hyn o beth. Trwy f'oes 'rwyf wedi gofyn y cwestiwn: 'Sut allaf i ddefnyddio'r wybodaeth yma T-hyn sydd wedi fy nghymell i drwy'r blynyddoedd. Chawn ni fyth wobr Nobel yn y brifysgol yma, ac nid yw yn fy mhoeni o gwbl. Wel, os cawn ni, bydd pobl wedi newid eu meddwl am beth sydd yn bwysig mewn bywyd. Yr ydym yn astudio cymhwysiad gwybodaeth yma. Er enghraifft, mae 'na beiriant gwau yn yr adeilad acw sy'n gwneud defnydd ddeng gwaith yn gyflymach nag un cyffredin. Felly fel mae costau'n codi, bydd y peiriant hwn yn cadw pris y defnydd i lawr i bobl cyffredin. A.E. Oes gennych chi amser i wneud gwaith ymchwil yn awr? E.R. Oes yn wir, ond nid yn yr ystyr fy mod i'n eistedd yma ac yn ceisio datrys fformiwlae cymhleth. Er enghraifft, 'roeddwn yn rhoi cyngor ar adeiladu Twnnel y Sianel; rhoddais gyngor ar feysydd awyr Dilyn a Bonn, yn yr Almaen; 'rwyf yn cynghori ar gynllunio peiriannau mewn ffatrï- oedd. Felly er nad ydwyf yn gwneud gwaith ymchwil yn yr ystyr arferol, i mi gwaith ymchwil ydyw am fy mod i'n ceisio darganfod modd o ddefnyddio'r wybodaeth. A.E. Ydych chi'n parhau eich cysylltiadau â'r byd gwyddonol ? E.R. Wel, 'roeddwn ar fwrdd rheolwyr y Lab- ordy Ffisegol Cenedlaethol (National Physical Laboratory) a 'rwyf ar gyngor y C.Y.G. ac ar eu bwrdd peirianneg. 'Rwyf wedi bod ar Bwyllgor Ymchwil Trafnidiaeth y Llywodraeth ac ar Gyngor Ymchwil Adeiladaeth. Ac, wrth gwrs, byddaf yn gwneud gwaith ymchwil fel hyn hefyd. A.E. Yr ydych wedi pwysleisio agwedd ddefn- yddiol gwybodaeth. A oes gan ymchwil 'bur' Ie mewn byd sy'n mynd yn dlotach ei adnoddau bob dydd ? E.R. Oes yn wir. Mae gwybodaeth er mwyn gwybodaeth yn beth sylfaenol a phwysig iawn. Y cwestiwn ydyw, beth i'w ymchwilio, pa faint a phwy sydd i'w wneud. Pan oeddwn i yn fyfyriwr, ychydig iawn oedd yn cyrraedd trothwy prifysgol, a 'roedden nhw'n alluog eithriadol. Y dyddiau hyn mae deuddeg gwaith mwy o raddedigion mathe- mateg nag yr oedd yn fy nydd i; a all y rhain i gyd wneud gwaith ymchwil sylfaenol mewn mathe- mateg ? Credaf fod mwy yn dysgu trwy ddefnyddio gwybodaeth y dyddiau hyn na thrwy ddealltwriaeth sylfaenol. Felly, wrth gwrs, mae ymchwil bur yn hanfodol, ond credaf bod rhaid i ni gymryd mwy o ofal wrth benderfynu beth a phwy sydd i'w wneud. Efallai y dylem annog mwy o bobl i wneud gwaith cymhwysol; 'rwy'n sicr y byddent yn ei wneud yn well ac yn cael mwy o hwyl arno. A.E. Beth yw uchelbwynt eich gyrfa hyd yn hyn ? E.R. O!-anodd iawn dweud; cefais gymaint ohonynt a dweud y gwir. Credaf mai Sefydliad Southampton yw fy nghyflawniad mwyaf, ond 'rwy'n hoff iawn o'r profiad a gefais pan oeddwn yn gweithio ar y 'Viscount', un o'n hawyrennau mwyaf llwyddiannus. 'Roeddwn wedi paratoi nod- iadau i'r peilot; 'roedd y 'Viscount' yn awyren newydd hollol, ac yn awyren anghyffredin iawn. Rhoddais y nodiadau i'r peilot a dywedais wrtho am eu darllen. 'Pa hawl sydd gennych chi i ddweud wrthyf fi, yn beilot sydd wedi hedfan mewn 36 o awyrennau newydd, sut mae awyren newydd am berfformio?' A ychwanegodd: 'Os ydyw'r awyren yma cystal â hynny, dof atoch chwi'n syth i ysgwyd eich llaw.' Aeth i fyny yn yr awyren, ac yn y dyddiau hynny 'roedd ehediad arbrofol yn parhau am ryw chwarter awr. 'Roedd yr awyren i fyny am awr bron, a phan ddaeth y peilot i lawr 'roedd yn amlwg iawn fod ganddo bob ffydd ynddi. Wedi iddo lanio, aeth pennaeth y cwmni at y peilot i ysgwyd ei law, ond daeth y peilot heibio'r pennaeth yn syth ataf i i gymryd fy llaw i. Rhoddodd hynny bleser mawr i mi am fod pum mlynedd o waith wedi bod yn ffrwythlon. A.E. Cymerodd ryw hanner canrif o hediad cyntaf y brodyr Wright hyd at lanio dyn ar y lleuad. I ba Ie yr awn ni yn awr? E.R. Wel, maen nhw'n dweud fod gwybodaeth yn dyblu bob pymtheng mlynedd, ond ni allwch chwi gael addysg newydd bob pymtheng mlynedd. Yn sicr bydd mwy o arbenigo a llai a llai o bobl yn