Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ei ddeall i gyd. Bydd yn rhaid i ni aros, a gofyn: "B'le 'rydyn ni'n mynd?' Arian yw'r broblem- mae awyrennau'n rhy ddrud, bydd olew'n rhy ddrud, bydd bwyd yn brin, ac yn y blaen, a chredaf y bydd gwyddoniaeth yn yr ystyr o yrru dynion i'r lleuad yn dod i ben. Gwell fyddai, er enghraifft, plannu meysydd enfawr o yd ym Malawi i fwydo Affrica; felly. 'Sut allwn ni fwydo'r byd?' fydd sialens gwyddoniaeth yn y dyfodol ac nid 'Beth yw natur y cyfanfyd?" A.E. Beth yw eich uchelgais yn awr? E.R. 'Does gennyf fi ddim, a dweud y gwir. Nid wyf yn uchelgeisiol o gwbl-mae pethau wedi digwydd i mi. Mae pobl yn dweud fy mod i'n uchelgeisiol, ond y gwir ydyw fy mod i'n meddu barn glir am yr hyn a'r llall ac mae pobl yn gweld hyn fel ymagweddiad ymwthiol ac uchelgeisiol, ond nid yw hyn yn wir o gwbl. 'Rwyf am ddal ymlaen gyda'm gwaith, ac am fwynhau cwmni fy mhlant a'u teuluoedd. ATHROFA GWYDDONIAETH A THECHNOLEG PRIFYSGOL CYMRU PARC CATHAYS, CAERDYDD UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: A. F. TROTMAN-DICKENSON, D.SC. Cynigir CYRSIAU GRADD mewn CYFRIFEG BIOLEG GYMWYSEDIG FFISEG GYMWYSEDIG GWYDDONIAETH GYMWYSEDIG ASTUDIAETHAU PENSAERNIOL BANCIO A CHYLLID TECHNOLEG ADEILADU GWEINYDDIAETH BUSNES CEMEG PEIRIANNEG SIFIL ECONOMEG PEIRIANNEG DRYDAN AC ELECTRONEG Darperir nifer o gyrsiau wedi-gradd, a chynigir ysgoloriaethau ymchwil. Ceir y Prospectws a phob manylion oddi wrth Gofrestrydd y Coleg. A.E. 'Rwy'n deall eich bod yn mynd yn ôl i Southampton. E.R. Ydw; 'rwyf am fynd yn ôl i'r Sefydliad yno. 'Rwy'n gobeithio sefydlu grwp i astudio byddardod mewn ffatrïoedd; mae tua hanner miliwn o bobl yn mynd yn fyddar yn y wlad yma ac os gallaf wneud rhywbeth i arbed hynny byddaf yn fodlon iawn. A.E. A welwch chwi amser pan fyddwch yn ymddeol? E.R. Wel, nid wyf yn gweld fy ngwaith yn dod i ben. Wrth gwrs byddaf yn paentio ar ganfas llai ar ôl gadael fy swydd bresennol. Ond na, dylai neb ymddeol tra bod ei feddwl yn fywiog. Teimlaf weithiau y byddaf yn falch o adael yr amhosibil- rwydd o ddelio â gweinyddiad ariannol. A.E. Brifathro Richards, diolch yn fawr iawn i chi am eich amser. ELECTRONEG PEIRIANNEG GYNHYRCHU Y GYFRAITH ASTUDIAETHAU MORDWYOL CLUDO CYDWLADOL MATHEMATEG PEIRIANNEG FECANYDDOL ASTUDIAETHAU SAESNEG MODERN SEICOLEG ALWEDIGAETHOL OPTEG OPHTHALMIG FFERYLLEG GWLEIDYDDIAETH CYNLLUNIO DINESIG YSTADEGAETH