Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mo'r awdur. Dyna a ddywedwn i hefyd am lyfr Robert Crookall- The Supreme Adventure-a gy- hoeddwyd yn 1961. Astudiaeth yw hwn o brofiadau'r meirw a drosglwyddwyd trwy gyfryng- wyr ysbrydegol ac o brofiadau nifer o bobl a lusgwyd yn ôl i fywyd pan ymddangosai eu tranc yn anorfod. Daearegwr a llysieuydd, wedi cyhoeddi amryw o lyfrau a phapurau gwyddonol, yw Dr. Crookall ond mae hefyd wedi graddio mewn seicoleg ac wedi ymddiddori ers blynyddoedd mewn ysbrydegaeth. Ar ôl darllen ei Iyfr, anodd iawn yw peidio credu bod rhyw fath ar fodolaeth ar ôl marwolaeth. Mae amryw o lyfrau eraill megis rhai Lyall Watson (Supernature, The Romeo Error) a Colin Wilson (The Occult) yn rhoi i rywun yr un ysgytwad. Anodd yw mesur gwerth y llyfrau hyn yn ôl safonau gwyddoniaeth uniongred ond fe ddichon ei bod yn bryd i ni fabwysiadu safonau llai cyfyng os ydym i ddatblygu o gwbl. Hocking a ddywedodd mai nid diffyg mawr moderniaeth yw ei bod yn wyddonol ond, yn hytrach, na allodd y wyddoniaeth hon fod yn gwbl eirwir ac felly'n wyddonol o ddifrif ynglyn â rhai pwyntiau argyfyngol: fel enghraifft, honni mai natur mathemategol sydd i'r cyfan o realiti ac mai'r hyn fedr gwyddoniaeth ddangos am ddyn yw'r cyfan sydd i'w wybod amdano. Trwy ein pum synnwyr yn unig mae'r mwyafrif ohonom yn ymwybodol o'n hamgylchedd ac ohonom ni ein hunain. 'Y drwg yw fod ymwybydd- iaeth mor gyfyng', ys dywed Colin Wilson, 'mae fel pe baech yn ceisio gweld golygfa eang trwy agennau mewn ffens uchel ond heb fyth gael edrych dros y ffens i weld y cyfan.' Cynheddfau eraill Mae mwy a mwy o bobl heddiw yn dod i gredu, fel Colin Wilson, bod inni gynheddfau eraill heblaw ein pum synnwyr nad yw'r mwyafrif ohonom yn ymwybodol ohonynt. Eto mae'r hyn a ddargan- fuwyd eisoes am natur y greadigaeth ac am natur dyn, a hynny mewn termau materol gwrthrychol yn unig, yn ddigon, mi greda i, i arwain i'r ym- deimlad o annigonolrwydd ac i ystyriaeth o'r posibilrwydd bod meysydd o realiti sydd y tu hwnt i'n hamgyffrediad ni. Dichon ein bod yn synhwyro mwy am y pethau hyn nag a fedrwn ei fynegi mewn geiriau­-onid dyna sythwelediad ? Camp y meistr ar eiriau, megis y bardd neu'r dramodydd, yw ei fod yn aml yn medru cyfleu'r hyn a syn- hwyrwn heb i'w eiriau fod yn llythrennol, wrthrychol gywir: 'Nês na'r hanesydd at y gwir di-goll Ydyw'r dramodydd, sydd yn gelwydd oll.' (R. Williams Parry) Fe gred y gwyddonydd ac athronydd enwog, Michael Polanyi, fod y gallu i wybod heb fedru egluro na mynegi'r peth ('tacit knowing') yn rhan o'r broses meddwl sy'n arwain i ddarganfyddiadau gwyddonol. Mae'n traethu'n helaeth ar hyn yn ei lyfr o draethodau Knowing and Being (1969)-llyfr llawn athroniaeth digon anodd ond yn werth yr ymdrech i'w ddarllen. Syr Cyril Hinshelwood a ddywedodd yn 1959 bod y mwyafrif o wyddonwyr yn gwrthod ymwneud ag athroniaeth ac yn arbennig metaffiseg. Ond beth yw metaffiseg? Yn yr eithaf, ymchwil am natur realiti Eto gall esgeuluso llwyr ar agweddau athronyddol mewn gwyddoniaeth fod yn anffodus. Gall arwain ar un llaw i ddatganiadau cyffrous ond camarweiniol ac, ar y llaw arall, i ddifrawder afiach ynglŷn â pherthynas gwyddon- iaeth â bodolaeth yn gyffredinol. Er fod gwyddoniaeth yn ymddangos fel pe'n gwrthod datganiadau metaflîsegol, mae'n achos her i athroniaeth ac yn ami yn gorfod wynebu problemau sydd yn anorfod o natur athronyddol.' Heb fanylu yn y fan hyn, fe haera Hinshelwood fod y deddfau cwantwm ac egwyddor Pauli yn cynnwys elfennau metaffisegol. Hwyrach fod Polanyi yn iawn yn honni bod mwy i lwyddiant gwyddoniaeth na'r broses anwythol yn unig ond na fynn gwyddonwyr yn gyffredinol gydnabod hynny. Tybed bod yr ymlyniad modern wrth empeiriaeth wrthrychol, gan wrthod pob ystyriaeth arall, yn ein cadw rhag profiadau dyfnach, mwy arwyddocaol? Our Potentìal for Parasensory Experience gan Charles Panati yw'r llyfr nesaf ar fy rhestr darllen i. Newydd ei gyhoeddi y mae a dywed un adolygydd ei fod yn arolwg diddorol a bod yr awdur yn dyfynnu Fritz Perls gyda'i bwyslais ar yr angen i ollwng y dadansoddol er mwyn y sythweledol, y rhesymegol er mwyn yr hyn a ymddengys yn wrthun. Ond oni ddywedwyd yr holl beth yn syml, ganrifoedd yn ôl, gan Pascal: 'Pennaf gorchest rheswm yw sylweddoli bod terfyn i reswm.'