Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Metel Âlwminiwm Môn Gyf. Diwydiant a Chadwraeth yng Nghaergybi Golygfa o Metel Alwminiwm Môn Cyf. o'r awyr Braslun hanesyddol Ar ddiwedd y 1960au, yr oedd y cwbl ond rhyw 10% o alwminiwm Prydain yn cael ei fewnforio. 'Roedd dwy ffatri fach, gweddol hen, yng ngogledd- orllewin yr Alban o eiddo'r Cwmni Alwminiwm Prydeinig yn cynhyrchu tua deugain mil o dunelli o'r metel. Gan ei fod yn fetel mor amryddawn ac yn rhan mor hanfodol o ddiwydiant modern, tyfodd y defnydd ohono'n gyflym dros y blynyddoedd. Felly, i arbed gwario cannoedd o filiynau o bunnoedd ar fewnforion, penderfynwyd adeiladu tri thoddwr ym Mhrydain i gynhyrchu rhyw 320,000 o dunelli bob blwyddyn. Y rheswm na chynhyrchai Prydain alwminiwm ar raddfa eang oedd y methiant i gynhyrchu'r swm helaeth o drydan angenrheidiol i doddwyr mawr, am bris fyddai'n cystadlu â chynhyrchwyr tramor. Wrth i brisiau pwer tramor godi ac i bwer niwclear ddatblygu ym Mhrydain, caewyd y bwlch yn y prisiau rywfaint fel y gellid ystyried toddi alwminiwm ym Mhrydain fel posibilrwydd gwerth chweil. Ym 1968 cyhoeddodd y Llywod- raeth brisiau gostyngedig am drydan i'r ffatrïoedd hynny oedd yn arbed arian ar y farchnad dramor drwy gynhyrchu defnyddiau yn lle eu mewnforio. Gwahoddwyd cynlluniau am doddwyr alwminiwm gan gwmnïau â diddordeb yn y maes. Cwmni Alwminiwm Môn oedd y cyntaf i wneud hynny. Mae'r cwmni yn feddiant i dri phartner a'r tri â galwadau uchel am dunelli lawer o fetel alwminiwm