Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ynni oherwydd ei ddwyster isel. Er enghraifft, drwy leihau pwysau trenau, awyrennau a cheir yn sylweddol mae'n arbed gwastraffu cludo miliynau o dunelli o bwysau dianghenraid. Unwaith wedi ei doddi hefyd, gellir ei ail-ddefnyddio dro ar ôl tro. Defnyddir llawer llai o ynni i ail-weithio alwminiwm nag a ddefnyddir gyda'r un swm o haearn gan ei fod mor hawdd i'w ail-doddi, mor rhwydd i'w weithio a'i symud o gwmpas. Dulliau newydd Mae dull Hall-Herault wedi goroesi'n dda ond gan ei fod mor dueddol i lygru ac yn drwm ar ynni, ofnir yr aiff yn anoddach i'w ddefnyddio gydag amser. Gan ystyried hyn, mae nifer o ymchwilwyr yn gweithio ar ddulliau eraill o gynhyrchu alwmin- iwm. Cafodd Cwmni Alwminiwm America hyd i ddull wedi ei seilio ar electroleiddiad o glorid alwminiwm. Defnyddir 30% yn llai o ynni na dull Hall-Herault ac osgoir defnyddio fflworid. Gwariodd y cwmni 25 miliwn o ddoleri yn COLEG PRIFYSGOL ABERTAWE UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro; R. W. STEEL, b.sc, M.A., F.R.G.S. Darperir y cyrsiau canlynol i fyfyrwyr gwyddonol: (a) Graddau Prifysgol Cymru mewn Gwyddoniaeth Bur a Gwyddoniaeth Gymwysedig. (b) Diploma'r Coleg mewn Ffiseg Fathemategol. (c) Diploma'r Coleg mewn Cartograffi. (ch) Diploma'r Coleg mewn Peirianneg Gemegol. Mae'r cyrsiau yng Nghyfadran Gwyddoniaeth Bur yn cynnwys Athroniaeth, Seicoleg, Economeg, Mathemateg Bur, Ystadegau, Mathemateg Gymwysedig, Ffiseg, Cemeg Daeareg, Daearyddiaeth, Botaneg, Swoleg, Geneteg, Microbioleg ac Eigioneg Mae'r cyrsiau yng Nghyfadran Gwyddoniaeth Gymwysedig yn cynnwys Peirianneg Sifil, Trydanol, Mecanyddol, Technoleg Cyfrifyddol a Diwydiannol, Peirianneg Gemegol, a Meteleg. Ceir Neuaddau Preswyl ar gyfer dynion a merched. Dyfernir Ysgoloriaethau Derbyn bob blwyddyn ar sail canlyniadau arholiadau lefel 'A'. Gellir cael manylion pellach oddi wrth y Cofrestrydd. datblygu'r dull ac maent yn awr yn adeiladu ffatri i gynhyrchu 30,000 tunnell y flwyddyn trwy'r dull yma yn Texas. Mae Corfforaeth Ethyl a Chwmni Alwminiwm Toth hwythau'n edrych ar ddulliau sylfaenol newydd i ennill y metel o'r mwyn. Mae'r codiadau mawr diweddar ym mhris bocsit a phroblemau cenedlaetholi, sy'n hen gyfarwydd i gynhyrchwyr olew ond yn taro cynhyrchwyr alwminiwm o'r newydd, wedi gorfodi ymchwil am fwyn i gymryd lle bocsit. O gael dull darbodus o'u hennill, mae tunelli dirif o alwminiwm ynghlo yn nhomenni rwbel chwareli Gogledd Cymru. Ond er y posibiliadau cyffrous yma i gyd, mae'n siwr mai hen ddull Hall-Herault fydd y cyn- hyrchydd mwyaf am lawer blwyddyn a hyderwn y bydd Cwmni Alwminiwm Môn, er gwaethaf problemau rhyngwladol a chenedlaethol diwydiant ac economeg, yn parhau i roi cyflenwad o'r cynnyrch pwysig yma sy'n gwneud bywyd pawb ychydig yn haws a brafiach.