Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(2) Cynhesu'r dwr gyda fflam felen (y twll aer ar gau), gan gofnodi'r amser mae'r dwr yn cymeryd i ferwi. (3) Berwi 100 cm3 o ddwr arall gyda fflam las (y twll aer ar agor) gan gofnodi'r amser a gymerwyd. Canlyniadau: Gwelir bod y fflam las yn berwi'r dwr yn gyflymach, ac roedd yr offer yn lanach. Casgliad: Dengys felly bod y fflam las yn boethach na'r fflam felen, ac felly yn fwy defnyddiol yn y labordy. Defnyddir y fflam felen i ddangos bod y nwy ymlaen, a bod tân ar y llosgwr. Arbrofion gyda'r fflam /as Arbrawf 1: Archwilio patrwm y fflam. Offer: Llosgwr bunsen a sgwâr asbestos, gefail, cerdyn. Dull: (1) Troi y llosgwr bunsen i'r fflam las. (2) Rhoi'r cardiau yn y fflam am ychydig eiliadau yn y safleoedd a welir yn y darlun. Canlyniadau Casgliad: Dengys y cardiau bod ochrau'r fflam yn boeth, a'r canol (y rhan las olau) yn weddol oer. Arbrawf 2: Edrych os yw canol y fflam yn oer. Offer: Llosgwr bunsen a sgwâr, asbestos, gefail, matsen, pin. Dull: (1) Gwneud croes bach gyda'r matsen a'r pin. (2) Eu gosod yn ofalus yng nghanol y llosgwr bunsen a rhoi'r fflam las arno. Canlyniadau: Nid yw'r fatsen yn tanio. Casgliad: Profir bod canol y fflam las yn oer. Arbrawf 3: Edrych beth yw cynnwys canol y fflam. Offer: Llosgwr bunsen a sgwâr asbestos, gefail, tiwb gwydr gyda jet, cannwyll. (1) Rhoi gwaelod y tiwb gwydr yn ofalus yng nghanol y fflam las. (2) Goleuo'r fflam fechan ar ben y jet gyda'r gannwyll. Canlyniadau: Mae fflam fach yn ymddangos, sydd yr un siâp â'r un fawr. Casgliad: Dengys bod cymysgedd o aer a nwy heb losgi yng nghanol y fflam las.