Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

POSAU MATHEMATEGOL DR. H. GARETH FF. ROBERTS (Adran Mathemateg a Gwyddor Cyfrifiaduron Politechnig Morgannwg) Dyma agor fyd newydd i lawer ohonom. Cawsom ni fel teulu hwyl anghyffredin wrth weithio drwy'r posau. Rhowch gynnig arni, a mentrwch gyf/wynd'ch cyfeillion i'r pwnc. Mae ein dyled yn fawr i'r awdur am agor maes mor newydd a diddorol i ni. — Gol. Babi deunaw mis oed yn methu'n lân a deall ystyfnigrwydd bloc sgwâr yn gwrthod mynd drwy dwll crwn; gwr busnes canol oed yn trin ffigurau mewn ymgais i ddianc rhag crafangau ysglyfaethus swyddfa'r dreth incwm. Yr Eifftiaid yn cyflawni campau geometregol mewn coffadwriaeth am eu meirw; dyn modern yn dysgu'r cyfrifiadur sut i chwarae draffts. 1. ASYNDOD GAN Ar hyd y canrifoedd mae posau mathemategol eu naws wedi hoelio sylw dyn ac wedi tanio'i ddychymyg. Cymerwyd yr enghreifftiau a ganlyn o'r llu o bosau sydd wedi ymddangos dros y ganrif ddiw- ethaf ac sydd wedi'u seilio ar flociau symudol. Posau mecanyddol ydynt ac nid oes angen gwybod- aeth fathemategol i'w datrys a'u mwynhau. Serch hynny, fe welir fod ambell un ohonynt o ddiddordeb arbennig i'r mathemategydd. L'Ane Rouge Mae poblogrwydd y posau hyn wedi amrywio'n fawr o gyfnod i gyfnod, hyd yn oed o wlad i wlad. Enghraifft dda yw'r L'Âne Rouge (Yr Asyn Ffìg. I. L'Ane Rouge.