Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Coch) a ddarlunir yn Ffig. 1. Ymddangosodd y pôs hwn am y tro cyntaf yn Ffrainc ar ddechrau'r ganrif ac mae'i boblogrwydd wedi parhau yn ddiball yn y wlad honno. Gwerthwyd fersiwn ohono ym Mhrydain yn y tridegau ac mae nifer o gwmnïau wedi'i farchnata yn ddiweddar yn yr Unol Daleithiau ond, ar y cyfan, ychydig o werthu sydd wedi bod arno y tu allan i Ffrainc ei hun. Mae'r pôs yn cynnwys deg o flociau rhydd wedi'u gosod o fewn ffiniau petryal gyda bwlch yng nghanol un ochr. Ar un o'r blociau mae darlun o asyn, a'r nod-drwy symud y blociau yn y nifer lleiaf posibl o symudiadau-yw creu ffordd i'r 'asyn' ddianc o'i 'stabl' drwy'r 'drws'. I gyrraedd y nod gellir symud y blociau ar hyd neu ar draws ond ni ellir eu troi. A gaf i annog y darllenydd nawr i roi'r erthygl hon heibio a mynd ati, yn ddiymdroi, i ffurfio'r pôs hwn gyda chymorth siswrn a darn o gardbord? Yn wir, dyma'r unig ffordd i werthfawrogi cywrein- rwydd a natur y pôs ac mae hi'n hanfodol sicrhau parodrwydd ar ran y darllenydd i geisio datrys y problemau sy'n codi mewn erthygl fel hon. Croeso'n ôl Mae'n siwr eich bod wedi darganfod erbyn hyn nad pôs hawdd mo hwn a bod yn rhaid i'r asyn grwydro gryn dipyn o fewn terfynau'r stabl cyn y gall ddianc i borfeydd gwelltog! Mae angen lleiafrif o 81 symudiad-gan ddiffinio symudiad o Ffìg. 2. Symudwch y bloc sgwâr o gornel A gornel B. safbwynt un bloc ar y tro-i ddatrys y broblem hon. Nodaf y datrysiad hwn ar y diwedd, er fod datgelu datrysiad pôs yn gallu difetha'r hud a'r lledrith sy'n perthyn iddo, yn union fel y mae gwybod cyfrinachau consuriwr yn gallu chwalu'r rhith. Pôs Naw Darn Ar lefel symlach (a chan obeithio nad yw pôs syml yn nodweddu pobl syml!) gwelir yn Ffig. 2(a) un fersiwn o bôs naw darn sydd wedi bod yn boblogaidd iawn ym Mhrydain ac yn yr Unol Daleithiau. Fe'i marchnatwyd eto yn ddiweddar fel un o deganau lliwgar cwmni Galt i blant. Y gamp y tro hwn yw symud y bloc sgwâr o gornel A i gornel B. Gyda digon o amynedd rydych yn siwr o'i ddatrys, ond a ellwch gyflawni'r gamp o fewn 33 symudiad? Ac wedi ymarfer gyda hwn beth, yn eich barn chwi, yw'r nifer lleiaf o symudiadau sy'n angen- rheidiol i ddatrys problemau 2(b) a 2(c)? Gallaf sicrhau'r darllenydd drwy brofiad personol nad yw'r diddordeb yn y pôs hwn yn gyfyngedig i blant, fel y cyfaddefa cwmni Galt wrth hysbysebu'r pôs fel un addas i rai rhwng 8 ac 80! Gair bach o rybudd i'r siopwr di-brofiad. Ymddengys nad oes fawr o barch ymysg rhai cwmnïau at y Ddeddf Disgrifiad Masnach oher- wydd gwelodd yr awdur fwy nag un enghraifft o