Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ATEBION 1. Defnyddiwyd cyfrifiadur yn 1964 i brofi mai 81 yw'r lleiafrif angenrheidiol o symudiadau i ddatrys problem L'Âne Rouge. Dyma'r datrysiad: 9 (at hanner ffordd), 4, 5, 8 (i lawr), 6, 10 (at hanner ffordd), 8, 6, 5, 7 (i fyny ac i'r chwith), 9, 6, 10 (i'r chwith ac i lawr), 5, 9, 7, 4, 6, 10, 8, 5, 7 (i lawr ac i'r dde), 6, 4, 1, 2, 3, 9, 7, 6, 3, 2, 1, 4, 8, 10 (i'r dde ac i fyny), 5, 3, 6, 8, 2, 9, 7 (i fyny ac i'r chwith), 8, 6, 3, 10 (i'r dde ac i lawr), 2, 9 (i lawr ac i'r dde), 1, 4, 2, 9, 7 (at hanner ffordd), 8, 6, 3, 10, 9 (i lawr), 2, 4, 1, 8, 7, 6, 3, 2, 7, 8, 1, 4, 7 (i'r chwith ac i fyny), 5, 9, 10, 2, 8, 7, 5, 10 (i fyny ac i'r chwith), 2. 2. Mae'n bosibl symud y bloc sgwâr o gornel A i gornel B yn Ffig. 2(b) mewn lleiafrif o 29 symudiad. Ac er fod problem 2(c) yn edrych yn debyg iawn i'r ddwy broblem gyntaf nid yw'n bosibl ei datrys! 3. Rhaid cyflawni odrif o gyfnewidiadau i newid o drefniant Ffig. 3(b) i Ffig. 3(c). Nid yw'n bosibl, felly, symud y blociau o'r naill drefniant i'r llall. COLEG PRIFYSGOL CYMRU, ABERYSTWYTH UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: Syr GORONWY H. DANIEL, K.C.V.O., C.B., D.PHIL. CYRSIAU GRADD Darperir cyrsiau yng nghyfadrannau'r Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Gwyddor Gwlad, y Gyfraith, Cerddoriaeth, ac Astudiaethau Economaidd a Chymdeithasol. Mae'r holl Adrannau Gwyddoniaeth mewn adeiladau modern, digonol eu hoffer a'u celfi. CYRSIAU DIPLOMA Diplomâu mewn Addysg, Gwyddor Gwlad, Ystadegaeth, Ffiseg yr Awyrgylch, Ffiseg Electronig, Mathemateg Bur, Micropalaeontoleg, Palaeograffeg, Cyfraith a Chydberthynas y Gwledydd, Addysg Ddwyieithog, Technoleg Addysg. YMCHWIL Darperir ar gyfer graddau uwch ym mhob pwnc. Yn yr holl adrannau Gwyddoniaeth Bur a Gwyddor Gwlad mae ysgolion ymchwil grymus, a gynhelir gan grantiau o ffynonellau gwladol a phreifat. LLYFRGELLOEDD Yn Llyfrgell y Coleg mae dros 300,000 o gyfrolau rhwymedig, gan gynnwys casgliadau arbenigol a chyfnodolion. Ceir cyfleusterau digymar ar gyfer pob pwnc yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. YSGOLORIAETHAU Dyfernir nifer fawr o ysgoloriaethau ar ganlyniadau arholiad a gynhelir ym mis Ionawr. Nid yw dal un o'r ysgoloriaethau hyn yn lleihau dim ar y grant y bo myfyriwr yn ei dderbyn oddi wrth awdurdod addysg lleol. NEUADDAU PRESWYL Cynigir llety; fyfyrwyr mewn neuaddau preswyl traddodiadol ac un neuadd "hunan-ddarpariaeth". Mae lle i 250 yn neuadd gymysg Gymraeg Pantycelyn. PROSPECTUS Gellir cael Prospectus y Coleg, Llawlyfr Cymraeg, a gwybodaeth bellach oddi wrth y Cofrestrydd. CYFEIRIADAU Ceir manylion pellach am y posau hyn a nifer o rai cyffelyb yn y canlynol: 1. Mathematicaì Recreations and Essays gan W. W. Rouse Ball. MacMillan (1964). Pennod 11. Ysgrifennwyd y clasur hwn yn 1892 a bu H. S. M. Coxeter yn gyfrifol am ei foderneiddio a'i olygu. 2. Sixth Book of Mathematical Games from Scientific American gan Martin Gardner. W. H. Freeman (1972). Pennod 7. Llyfr meistrolgar gan y prif lenor modern yn y maes o bosau mathemategol. 3. Mathematical Puzzles and Braintwisters gan Anthony S. Filipiak. A. S. Barnes and Co. (1964). Mae'r bennod gyntaf yn cynnwys amrywiaeth eang o bosau ar thema blociau symudol ynghyd â chyfarwyddiadau ymarferol ar eu gwneuthuriad.