Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Golygyddol BELLACH, mae'r mwyafrif o fyfyrwyr sy'n dilyn cwrs Addysg Uwch yn gwneud hynny mewn sefydliadau sydd yn hollol ar wahân i'r Prifysgolion ac yn cael eu gweinyddu'n bennaf gan yr Awdurdodau Lleol. Ar wahân i gyrsiau hyfforddi athrawon, nid oes fawr o gysylltiad rhwng y Prifysgolion a'r sector yma o addysg, sy'n cynnwys y 30 Politechnig a 350 sefydliad arall Nid oes unoliaeth chwaith o fewn y sector gyhoeddus, er bod ymgais yn ddiweddar i ddosrannu arwahan- y sefydhadau hynny lle mae'r mwyafrif o'r gwaith yn yr adran Addysg Uwch (Y Sefydliadau Addysg Uwch gan gynnwys y cyn-golegau hyfforddi athrawon) a'r gweddill sydd yn darparu cyrsiau Addysg Bellach, nad ydynt yn perthyn i'r dosbarth Addysg Uwch. Er mwyn hwylustod, defnyddir y term Addysg Bellach am bob math o gwrs ar gyfer rhai sydd wedi gadael ysgol, nad yw'n rhan o ddarpar- iaeth Prifysgol. A gelwir y cyrsiau hynny sy'n arwain at gymhwysder sy'n uwch na'r Dystysgrif Gyffredin Genedlaethol (Ordinary National Certificate neu ONC) neu level-A yn Arholiad y Dystysgrif Addysg Gyffredinol, yn rhan o Addysg Uwch. Mae'r dosraniad yn un cymhleth ac heb fawr o gyfiawnhad addysgol iddo. Mae amrywiaeth y cyrsiau hefyd yn syfrdanol, a'r mwyafrif mawr ohonynt yn cael eu cynnig mewn cysylltiad â rhyw gorff proffesiynol sydd yn mynnu'r hawl i benderfynu cynnwys ac arholiad y cwrs. Fe all un coleg orfod cyd-weithio â rhyw 150 o gyrff allanol. Fel canlyniad nid yw'r system yn hollol ddealladwy, hyd yn ?Cd 7,, ai sy'n gweinyddu'r sefydliadau hyn. Ac i'r myfyriwr druan mae'n ddrysfa llwyr. Nid rhyfedd felly i adroddiad diweddar gan yr Adran Addysg a Gwyddoniaeth (DES Rhif 90, 1977) ddod i'r casgliad amlwg bod gweinyddiad y sector gyhoeddus o addysg uwch yn aneffeithiol a bod yn rhaid cael dull mwy unol o weithredu. Mae grwp ar waith ar hyn o bryd dan gadeiryddiaeth Mr. Gordon Oakes (Gweinidog Gwladol yn yr Adran Addysg a Gwyddoniaeth); felly priodol yw tynnu sylw at rai agweddau ar reolaeth a rhai o ddiffygion y sector gyhoeddus. Mae dyfodol miloedd o bobl ifanc yn cael ei beryglu gan y system bresennol. Er mai Addysg Uwch gaiff y lle blaenllaw ar hyn o bryd, mae ar y cyrsiau Addysg Bellach eraill hefyd gymaint o angen eu harchwilio os nad mwy. Ond gyda'r cynlluniau presennol, fe fydd yn rhaid i'r tlodion aros, mae'n amlwg. Dengys Tabl 1 batrwm tyfiant addysg uwch y tu allan i'r Prifysgolion. Noder nad yw'r ffigurau am y sector gyhoeddus yn cynnwys yr Alban, er fod ffigurau'r prifysgolion yn cynnwys holl fyfyrwyr prifysgolion Prydain. Mae'r nifer y tu allan i'r Prifysgolion felly'n sylweddol fwy. TABL 1 NIFER Y MYFYRWYR MEWN ADDYSG UWCH (CYMRU A LLOEGR) 1954/55 1962/63 1969/70 1974/75 1975/76* Sector Gyhoeddus 34,000 85,750 190,200 210,235 216,000 Prifysgolion 67,560 98,270 184,300 210,820 223,100 amcangyfrif. Mae amrywiaeth aruthrol yn natur, maint, a threfniadau cyllidol y colegau sy'n cyfrannu tuag at hyfforddiant myfyrwyr yn y sector addysg uwch, cyhoeddus fel y gellid disgwyl gyda 418 sefydliad a ddatblygodd ar hyd llwybrau mor wahanol. Amlinellir batrwm amrywiol o ddyfodol tebygol y sefydliadau hyn yn Nhabl 2. Yn wir mae mwy sy'n wahanol nag sydd yn debyg rhyngddynt O fewn y potes, rhaid cynnwys y colegau neu gyn-golegau addysg a pholitechnig, athrofeydd addysg uwch newydd, colegau technegol, 40 sefydliad annibynol a gaiff grant uniongyrchol oddi wrth yr Adran Addysg a Gwyddoniaeth, y colegau gwirfoddol, y colegau arbenigol (mewn celf, drama, cerddor- iaeth, amaethyddiaeth, etc.) a'r colegau cymysg, a weinyddir yn rhannol gan yr awdurdodau lleol a r Adran Addysg a Gwyddoniaeth.