Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Grawn Llosg a'u Cyfraniad i Hanes yr Ydau DORIAN WILLIAMS Gŵr saith ar hugain oed, yn wreiddiol o Fetws, ger Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, yw Dorian Williams. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Llandeilo, a Choleg y Brifysgol Aberystwyth. Ar ôl gadael coleg bu'n gweithio gyda Sefydliad Ymchwil Glaswellt, yn Swydd Efrog, cyn mynd yn ôl i Brifysgol Bradford am flwyddyn i wneud ymchwil ar olion planhigion o Silbury Hilì, Wiltshire. Wedyn fe fun gweithio gydag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Caer Efrog, cyn mynd i'w swydd bresennol yn Adran Bywydeg, Prifysgol Efrog. Cyflwyniad Mae gwybodaeth am y cnydau a dyfwyd yn y wlad hon yn y cyfnodau cynhanes a'r rhai hanesyddol cynnar yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar olion a gweddillion planhigion mewn gwaelodion archae- olegol. Yr ydau, heb unrhyw amheuaeth, ydyw bwyd mwyaf pwysig dyn trwy'r byd, ac mae'n ddiddorol dilyn eu hanes cyfnewidiol cynnar wrth iddynt gael eu cyflwyno i'r wlad yma gan fewn- fudiadau'r gwahanol lwythau o'r cyfandir. Yn fynych darganfyddir gweddillion planhigion mewn gwaelodion gwlyb ac anaerobig, lle mae diffyg ocsigen yn atal gweithgarwch y ffwngau a'r bacteria sydd yn achosi pydredd. Ond yn anffodus, mae gan ronyn yd mewnfaeth enfawr, meddal sydd yn pydru yn hawdd, ac yn anaml iawn y gwelir gweddillion y planhigyn hyn yn ei stad naturiol. Mae'r olaf yn galw am sefyllfa gadwriaethol eithriadol o dda, er enghraifft, tu fewn i rai o byramidiau'r Aifft, lle'r oedd awyrgylch anaerobig, sych wedi cadw grawn cyfan yn eu stad naturiol. Er hynny, mae gennym yn y wlad hon ddarlun manwl o hanes ydau yr oesoedd cynnar oherwydd eu darganfod yn aml mewn gwaelodion archaeolegol yn y stad losg. Pwrpas yr erthygl hon fydd trafod yn gyffredinol y broses o losgi, a'r amryw ffyrdd y daw grawn i gael eu llosgi, sut yr ydym yn medru adnabod y gwahanol rywogaethau yn y cyflwr llosg a'r math o wybodaeth y gallwn ei gasglu o'r astudiaethau hyn. Y broses losgi Drwy ordwymo neu losgi amdrowyd grawn yn garbon, ac os bu mewn cysylltiad uniongyrchol â'r tân, yna chwyddai'n gyflym iawn a mynd mor ddiffurf nes ei bod yn amhosib eu hadnabod. Felly, er mwyn cael y canlyniadau gorau, mae'n rhaid i'r grawn gael eu diogelu rhag tân. Rhai o'r ffyrdd mwyaf amlwg i hyn ddigwydd oedd drwy i'r grawn gael eu gordwymo mewn llestr ar yr aelwyd, neu pan fu tân mewn ysgubor a'r adeilad yn cwympo a gorchuddio'i gynnwys o rawn. Pan losgir tywysen, mae'r darnau mwyaf gwan, fel yr eisin, yn diflannu yn gyflym a dim ond y grawn ei hun yn parhau. Ofer sôn am yr anawsterau ynglŷn ag adnabod hyd yn oed grawn ffres o dylwyth fel gwenith yn eu amryw rywogaethau. Ond pan mae gronyn yn cael ei drawsffurfio i garbon, mae'r gwres yn achosi chwyddo a newid yn ei ffurf a'i fesuriadau. Fel enghraifft, wrth chwyddo mae gronyn y gwenith deurawn (emmer: Triticum dicoccum Schubl.) yn colli'r grib finiog gefnol sydd mor nodweddiadol o'r gronyn ffres. Yn wir, ar ôl eu carboneiddio mae grawn tylwyth megis Triticum yn edrych hyd yn oed fwy tebyg i'w gilydd. Mae grawn llosg yn gyffredin iawn mewn rhai gwaelodion archaeolegol, ac fe fentraf amlinellu rhai o'r rhesymau am hyn. Mae'n wir i ddweud mai drwy rhyw fath o ddamwain y caiff y rhan fwyaf o rawn eu losgi. Caiff y sefyllfa ei hybu'n aml gan