Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llwybrau Cymru CWM TAWE Cynlluniwyd y llwybr hwn er mwyn dangos yr ymdrech a wnaed i ddiwyllio hen anialwch diwyd- iannol Cwm Tawe, sydd mor gyfarwydd i unrhyw un a ddaw i Abertawe ar y trên. Am y tro cyntaf er canrif a hanner mae coed yn tyfu yn y cwm ac adar yn nythu yno. Cychwyn y llwybr ger Ysgol y Cwm ac y mae'n gwau trwy, tros a than bontydd, rheil- ffyrdd, camlesi a thomennydd yr hen ddiwydiannau copr (tomennydd brown), dur (melynaidd) a sinc (du). Gwelir arbrofion tyfu gwair (5 ar y map) ar wahanol blotiau-rhai wedi eu gorchuddio â sbwriel ty, rhai â lludw, a rhai â charthion gyda rhai heb eu gorchuddio er mwyn cymhariaeth. Yn y goedwig (7-8 ar y map) a blannwyd yn 1963 gwelir pinwydd Corsica a'r Lodgepole, Llarwydd Siapaneaidd a Sbriws Sitca yn gymysg â Gwern, Helyg a'r Fedwen Arian. Clywir digonedd o adar- dros hanner cant o rywogaethau, yn cynnwys yr hebog, a'r mwyafrif yn nythu yn y cwm. Mae Llyn y Plwc (9) yn fan digon dymunol i aros a digon o fywyd diddorol ynddo ac o'i gwmpas. Daw plant ysgol yma'n aml i astudio ecoleg y llyn. Daw'r llwybr i ben ger gwaith brwshus Addis. Ar y map gwelir llwybr arall (A-CH) sy'n dringo i ben Mynydd Cil-fai heibio argae bychan Glyn y Grug. Cynhyrchwyd llyfryn hwylus Cymraeg, Darganfod Cwm Tawe Isaf gan Warchodwr Cwm Tawe Isaf, Adran Botaneg, Coleg y Brifysgol, Abertawe, ac hefyd restri o adar a blodau y cwm. Ceir llyfryn arall ar Lwybr Archaeoleg Diwydiannol y Cwm, Llwybr Hanesyddol yn Nhreforus a Llwybr Hanes Dinas Abertawe.