Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adar Darwin: Esblygiad drwy Ddetholiad Naturiol MARGARET ELLIS JONES Gellir honni fod syniadau wedi chwarae rhan arbennig iawn yn hanes datblygiad dynoliaeth ar hyd y canrifoedd. Syniadau chwyldroadol, bryd hynny o leiaf, oedd y rhai o eiddo Charles Darwin a'i symbylodd i ysgrifennu ei gampwaith The Origin of Species yn ystod y ganrif ddiwethaf. Dyma sylfaen y Theori o Esblygiad drwy Ddetholiad Naturiol. Ym 1835 'roedd Darwin wedi ei gyflogi fel Naturiaethwr ar fwrdd y llong H.M.S. Beagle a oedd yn hwylio'r Môr Tawel. Yn ystod y fordaith yma, glaniodd y llong ar grwp o ynysoedd folcanig o'r enw Y Galapagos, 600 milltir oddi ar arfordir gorllewinol De America. Dengys ymchwil diweddar mae ynysoedd a wthiwyd allan o'r môr drwy symudiadau folcanig yw y rhai hyn a'u bod heb unrhyw gysylltiad agos â'r tir mawr. Yn wir, ar wahân i Ecuador sydd 600 milltir i'r Dwyrain, yr unig ddarnau o dir o fewn cyrraedd yw Ynys Cocos a'r graig a elwir Malpelo tua 600 milltir i'r Gogledd-Ddwyrain. Nid oes tir o gwbl o fewn 3,000 o filltiroedd i'r Gorllewin. Yma y canfu Charles Darwin grwp o adar a oedd yn symbyliad i'w syniadau pendant ar Esblygiad. Serch hynny, teg yw nodi mai rhai blynyddoedd wedi'r fordaith y sylweddolodd Darwin wir bwysigrwydd yr adar yma yn natblygiad ei Theori Newydd. Amgylchedd yr adar Albemarle yw'r fwyaf o'r ynysoedd yn 80 milltir o hyd ac yn codi at 5,600 o droedfeddi uwch lefel y môr. Ceir nifer o ynysoedd eraill rhwng 10 ac 20 milltir o hyd yn codi at 2,000-3,000 o droedfeddi a gwelir fod y gweddill yn llai ac yn weddol wastad eu harwynebedd. Difyr yw darllen argraffiadau cyntaf Darwin o'r ynysoedd pellennig hyn­-argraffiadau sydd yn cael eu cloriannu mewn un frawddeg o'i eiddo: 'The country was compared to what we might imagine the cultivated parts of the Infernal regions to be.' LLEOLIAD YR YNYSOEDD Ar daith o'r arfordir i'r ucheldir ar unrhyw un o'r ynysoedd mwyaf daw teithiwr ar draws amryw- iaeth syfrdanol o dyfiant. Creigiau isel, tywod gwyn a cherrig duon-olion symudiadau'r folcano a geir gan mwyaf ar y traethau. Dilynir hyn gan iseldir diffaith lle ceir cacti a llwyni pigog yn tyfu. Esiamplau o'r cacti amlycaf yw CEREUS ac opuntia sydd yn gallu tyfu at 30 o droedfeddi. Acacia, BURSERA a CROTON yw'r llwyni mwyaf niferus. Dyma'r rhan sychaf o'r ynys ac am ran helaeth o'r flwyddyn ni cheir dwr o gwbl yma. Wedi ymlwybro drwy'r iseldir ceir cylchfa draws- newidiol rhwng yr iseldir diffaith a'r tir uwch, coediog. Yn y rhan yma ceir ychydig o gacti yn aros ond hefyd yma ac acw gwelir mannau coediog wedi eu gorchuddio â chen. Y tir o gwmpas 500-600 troedfedd uwch lefel y môr yw'r rhan mwyaf ffrwythlon o'r ynys, yma y ceir y coedwigoedd Uaith. Ceir coed fel scalesia PEDUNCULATA (aelod o deulu'r COMPOSITAE) a mathau o psidium, pisonia a ZANTHOXYLUM. Dyma, wrth gwrs, y rhan wlypaf hefyd-yn ogystal â'r glaw a ddaw rhwng Rhagfyr a Mawrth, fe geir