Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(ch) Ceir yr aderyn mwyaf diddorol yn yr olaf o'r rhywogaethau arbennig yma. Aderyn tebyg i Gnocell y Coed ydyw, yn dringo coed i chwilio am bryfed yn y rhisgl. I'r pwrpas yma mae ganddo big tebyg i Gnocell y Coed ond gan nad yw yn meddu ar dafod hir yr aderyn hwnnw, mae'n cymeryd darn o frigyn neu bigyn cactus i wthio i mewn i'r tyllau yn y rhisgl i gael gafael ar y pryfed. Wedi pwnio'r pryf allan, fe ollyngir y teclyn i fwyta'r helfa. Dyma un o'r ychydig esiamplau o unrhyw anifail y tu allan i deulu dyn a'r epa yn defnyddio arf. Fe ddengys aelodau'r certhidea debygrwydd mawr i'r Telorydd, mae'r pig yn gul a phigog, tebyg yw eu dull o fwyta a'u symudiadau yn enwedig yr arferiad sydd gan y Telorydd o ysgwyd ei esgyll wrth hel bwyd. Yn wir, oherwydd y tebygrwydd mawr fe gam-ddosbarthwyd yr aderyn hwn am flynyddoedd fel aelod o deulu'r Telorydd. Adar yn bwyta hadau yn y coedwigoedd trofan- nol yw aelodau'r rhywogaeth a ganfyddir ar ynys Cocos. Arwyddocâd yr adar Pan gychwynnai Charles Darwin ar ei fordaith ym 1831 derbynid ymron yn ddigwestiwn fod pob anifail a phlanhigyn yn ganlyniad uniongyrchol i greadigaeth arbennig. Bu gan ei daid Erasmus Darwin ac hefyd Lamarck rai amheuon ar y mater hwn ond nid oedd eu damcaniaethau yn golygu dim i Charles Darwin gan nad oeddynt wedi rhoi unrhyw dystiolaeth bendant i esbonio eu syniadau. Fodd bynnag, wedi darganfod yr adar arbennig yma fe ddechreuodd Darwin ac eraill ail feddwl. Onid oedd yma rywbeth anghyffredin ? Yma ar ynysoedd y Galapagos yr oedd pedair-rhywogaeth- ar-ddeg o adar a oedd nid yn unig yn dangos rhyw debygrwydd cyffredinol i'w gilydd ond hefyd i'r adar yn y rhannau agosaf o Dde America, ond ar yr un pryd er y tebygrwydd cyffredinol yma ceid nid yn unig amrywiaeth o ynys i ynys ond gwelid hyd at ddeg gwahanol rhywogaeth ar un ynys yn unig. 'Roedd cwestiwn arall i'w ateb hefyd. Er y tebygrwydd mawr rhwng ynysoedd y Galapagos ac ynysoedd Cape Verde, yr oedd eu fauna yn hollol wahanol, y naill yn debyg fel y cyfeiriwyd eisoes i fauna De America a'r llall i fauna De Affrig. Heb unrhyw amheuaeth ni allai damcaniaeth creadigaeth arbennig gynnig ateb i'r cwestiynau hyn, 'roedd yn rhaid chwilio am dystiolaeth i brofi bod newid yn digwydd. Mae tystiolaeth felly i'w chael wrth astudio adar Darwin. Dengys y ffeithiau a nodwyd eisoes yn yr erthygl fod y tri math mwyaf cyffredin o'r adar sydd yn bwydo ar y llawr, G. magnirostris, G. fortis a G. fuliginosa i'w canfod ar y rhan fwyaf o'r ynys- oedd. Serch hynny ar ddwy o'r ynysoedd mwyaf deheuol gwelir i G. magnirostris fod yn absennol ac o'r herwydd i big G. fortis fod yn fwy na'r cyffredin. Mae'r newid yn amlwg wedi digwydd i fanteisio ar y toreth o hadau mawr ar yr ynysoedd arbennig yma. Ar ynys arall eto gwelir fod G. fuliginosa yn absennol ac o'r herwydd fod G. fortis y tro yma yn meddu ar big llai na'r cyffredin. Gelwir y ffenomen yma yn addasiad, a dengys astudiaethau modern iddo chwarae rhan amlwg iawn yn y broses o Esblygiad. Ni all anifail na phlanhigyn fyw mewn gwactod. Mae popeth byw wedi addasu ei hun i'w amgylchedd a'r addasiad gorau sydd yn debygol o oroesi. Dyma, wrth gwrs, a olygir wrth y dywediad Saesneg: 'The survival of the fittest'. Wrth symud o un amgylchedd i'r llall gwelir i'r organeb newid i addasu ei hun yn well i'r am- gylchedd newydd. Gelwir hyn yn amrywiad daearyddol. Dyma'n sicr sydd wedi digwydd yn yr enghreifftiau uchod. Tybed beth a ddigwyddai pe symudai unigolion un is-rywogaeth i ynys a feddianwyd gan aelodau o